|
|
Mae Prifysgol Glyndŵr ar restr fer Gwobrau Addysg Uwch The Times 2008 am Gefnogaeth Ragorol i Fyfyrwyr Anabl3 Hydref 2008
Mae prifysgol fwyaf newydd Cymru ar y rhestr fer am wobr genedlaethol mewn cydnabyddiaeth o’i gwaith gyda myfyrwyr anabl. Mae Prifysgol Glyndŵr yn un o chwe phrifysgol sydd ar y rhestr fer am y wobr am Gefnogaeth Ragorol i Fyfyrwyr Anabl yng Ngwobrau Addysg Uwch The Times 2008. Mae Gareth Stafford yn un o nifer o fyfyrwyr anabl sy’n astudio yn y brifysgol, ble mae 14.1 y cant o’r myfyrwyr – y canran uchaf yng Nghymru – yn hawlio LMA (Lwfans Myfyrwyr Anabl).* Fe gwblhaodd y gŵr 22ain oed, sy’n dioddef o barlys yr ymennydd, radd sylfaen mewn Technoleg Stiwdio Sain gan ddefnyddio technoleg newydd a ddatblygwyd gan yr Ysgol Gyfrifiadura a Thechnoleg Cyfathrebu. Defnyddiwyd ei achos ef fel enghraifft gan y Brifysgol yn ei chais gwreiddiol am y wobr. Meddai Gareth: “Fe wnes i fwynhau’r cwrs yn arw ac roedd y gefnogaeth gan y staff i gyd yn anhygoel. Cafodd y cwrs ei addasu ar gyfer fy anghenion a darparwyd ffyrdd eraill o asesu ble’r oedd angen.” Mae Gareth hefyd ar ei ffordd i gyflawni ei freuddwyd o ennill medal yng Ngêmau Paralympaidd 2012. Mae Gareth ar hyn o bryd yn chwaraewr rhyngwladol dros Gymru yn ngêm paralympaidd Boccia, math o fowls ar gyfer pobl anabl. Gareth yw’r unig aelod o sgwad Boccia Cymru sy’n dod o Ogledd Cymru. Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr iddo ddwywaith am ei gampau. Mae hyn yn cefnogi datblygiad chwaraeon yr athletwyr gorau sy’n astudio yn y brifysgol. Mae Gareth yn awr yn cymryd blwyddyn allan i fynd ar drywydd ei freuddwyd. Meddai: “Rydw i’n gobeithio defnyddio’r amser i gefnogi pobl anabl eraill sy’n chwarae Boccia ac rydw i hefyd yn mynd i wneud cwrs hyfforddi.” Ychwanegodd yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr: “Mae cael eich rhoi ar y rhestr fer am y wobr am Gefnogaeth Ragorol i Fyfyrwyr Anabl yn anrhydedd ac yr ydym yn falch o gael ein cydnabod am yr ymdrechion yr ydym yn eu gwneud er mwyn gwneud i’n myfyrwyr deimlo’n gartrefol a chreu awyrgylch y byddant yn ei gofio am flynyddoedd i ddod.” Mae’r Gwobrau yn cael eu rhedeg gan The Times ac maent yn eu pedwerydd blwyddyn erbyn hyn. Maent yn anelu i gydnabod y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud gan sefydliadau addysg uwch yn y DU. Mae’r categorïau yn cynnwys Profiad Myfyrwyr Gorau, Prifysgol y Flwyddyn, Pecyn Cefnogaeth Ariannol Rhagorol i Fyfyrwyr, Cyfraniad Rhagorol i’r Gymuned Leol, Menter Farchnata’r Flwyddyn a Chefnogaeth Ragorol i Fyfyrwyr Anabl. I archebu bwrdd, cysylltwch â Maria Myers ar rif ffôn:01252781178, ebost: maria@creativeevents.co.uk neu larlwythwch ffurflen gais o www.timeshighereducation.co.uk/awards *Dangosyddion Perfformiad AYAU, Mehefin 2008 |
|