Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Prifysgol Glyndŵr a Chyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth chwaraeon

10 Tachwedd 2008
Prifysgol Glyndŵr a Chyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth chwaraeon

Bydd darpar swyddogion datblygu chwaraeon yn cael hwb ymlaen i’w gyrfaoedd diolch i bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Glyndŵr a Chyngor Sir y Fflint.

Mae Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer yn y brifysgol yn Wrecsam wedi ymuno â Chwaraeon Sir y Fflint, yr adran o Gyngor Sir y Fflint sy’n gyfrifol am hyrwyddo cyfleoedd chwaraeon a hamdden yn yr ardal.

Bydd y bartneriaeth yn rhoi lleoliad dwy neu dair blynedd estynedig i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn sy’n astudio ar unrhyw un o gyrsiau chwaraeon Prifysgol Glyndŵr. Bydd y myfyrwyr a ddewisir yn cael profiad gwerthfawr o weithio ym mhob agwedd ar ddatblygu chwaraeon – popeth o redeg gwyliau chwaraeon ysgol i hyfforddi fel rhan o raglen ‘5 x 60’, menter gan Gyngor Chwaraeon Cymru i gael 90% o ddisgyblion uwchradd i gyflawni 60 munud o weithgareddau corfforol bum gwaith yr wythnos erbyn 2020. Bydd cyfleoedd lleoliad eraill yn cynnwys gweithio gyda phlant nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol, datblygu clybiau chwaraeon, addysg hyfforddwyr a gwaith yn sodli uwch Swyddogion Datblygu Chwaraeon.   

Bydd Chwaraeon Sir y Fflint yn mentora’r myfyrwyr llwyddiannus, gan dalu am eu cymwysterau hyfforddi a rhoi cyfoeth o gyfleoedd iddynt i wella eu rhagolygon cyflogaeth unwaith iddynt raddio.

Daw’r cytundeb wythnosau yn unig ar ôl i faes pwnc Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer y brifysgol ddod i bump uchaf y DU am foddhad myfyrwyr.*

Meddai Jackie Bryson, Prif Ddarlithydd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer: “Rydym wrth ein bodd o fod yn rhan o bartneriaeth mor wych gyda Chwaraeon Sir y Fflint a fydd yn galluogi ein myfyrwyr i gael profiad gwaith tyngedfennol. Mae dod ymlaen yn y farchnad swyddi yn bwysicach nag erioed o’r blaen ac rwy’n siŵr y bydd y bartneriaeth yn rhoi syflaen gadarn i’n myfyrwyr cyn iddyn nhw raddio.”   

Meddai Sian Williams, o Chwaraeon Sir y Fflint: “Y bartneriaeth yma yw’r gyntaf o’i bath yng Ngogledd Cymru ac mae’n cryfhau’r berthynas waith sydd gennym gyda’r adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol Glyndŵr. . Bydd y lleoliadau estynedig yn rhoi hwb go-iawn i fyfyrwyr y brifysgol ddod ymlaen yn y farchnad swyddi yma sy’n prysur ehangu.” 

Am fanylion pellach, ebostiwch Jackie Bryson: j.bryson@glyndwr.ac.uk

*Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2008, 96% am foddhad myfyrwyr ar gyfer Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer.

Cysylltwch a ni