Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

NEWI wedi cael y bleidlais orau yng Nghymru am foddhad myfyrwyr

Mae myfyrwyr yn NEWI yn hapusach na myfyrwyr mewn prifysgolion eraill yng Nghymru gyda’r lefel o gefnogaeth y maent yn ei derbyn tra’n astudio, yn ôl arolwg diweddar.

Cafodd myfyrwyr mewn wyth sefydliad addysg uwch ledled Cymru eu harolygu yn y Baromedr Myfyrwyr Cymru blynyddol ar 16 agwedd o gymorth i fyfyrwyr, yn amrywio o gyllid myfyrwyr i lety, cynghori ac anabledd, gyda NEWI yn sgorio’r gyfradd gyffredinol uchaf o’r sefydliadau oedd yn cymryd rhan.* O fewn y categori yma, rhoddodd dros 96% o fyfyrwyr a arolygwyd y gyfradd uchaf o foddhad i gymorth TG a’r gwasanaethau Cynghori Myfyrwyr yn NEWI. Roedd bron i 95% hefyd yn fodlon iawn gyda’r Ganolfan Iechyd. 

Gwelodd yr arolwg, a gynhaliwyd yn ystod tymor yr Hydref 2007 gan y cwmni ymchwil annibynnol i-graduate, dros 6,000 o fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru yn llenwi holiadur ar-lein am bob agwedd o’u profiad prifysgol. Yn ogystal, derbyniodd NEWI atborth rhagorol gan fyfyrwyr am ansawdd y dysgu y mae’n ei ddarparu, gan gwmpasu agweddau fel y cyfleusterau llyfrgell a thechnoleg, safonau addysgu a dulliau asesu.

Ymhlith sylwadau’r myfyrwyr am NEWI a roddwyd fel rhan o’r arolwg, cafwyd “Mae’n gynnes, cyfeillgar a rhwydd dysgu yn NEWI”, ac “Ni allai fy narlithwyr fod yn fwy cefnogol na chymwynasgar – mae’n wych.”

Dywedodd yr Athro Michael Scott, Prifathro a Phrif Weithredwr NEWI fod canlyniadau Baromedr Myfyrwyr Cymru yn brawf o waith caled pawb yn yr Athrofa wrth sicrhau fod myfyrwyr yn cael y sylfaen orau bosibl i lwyddo yn eu hastudiaethau.

Meddai: “Mae NEWI yn ymfalchïo ei fod yn darparu safon uchel o addysg i fyfyrwyr o fewn amgylchedd gofalgar a chefnogol, ac adlewyrchir hyn yng nghanlyniadau’r arolwg. 

“Mae’r ffaith fod gan ein myfyrwyr ein hunain feddwl mor uchel ohonom yn anrhydedd aruthrol i’r Athrofa ac yn dystiolaeth bellach fod NEWI yn un o’r llefydd gorau i astudio yng Nghymru.”

Yn ogystal, daeth NEWI yn gyntaf yn gyffredinol ym Maromedr Myfyrwyr i-graduate, astudiaeth flynyddol o fyfyrwyr domestig ledled y DU.

Atebodd myfyrwyr cartref mewn 21 o sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru a Lloegr gwestiynau am amgylchedd dysgu, cefnogaeth tra’n astudio, effeithlonrwydd yn ystod y broses o wneud cais a pha mor fodlon oeddent gyda chymwynasgarwch staff a gweithdrefnau pan ddaethont i’w sefydliad yn gyntaf. Cafodd NEWI y sgôr boddhad cyffredinol uchaf ym mhob categori. 

Rhoddodd pob myfyriwr/wraig Rhyngwladol yn NEWI a arolygwyd gyfradd dosbarth cyntaf am gymwynasgarwch staff am eu cyfarch wrth iddynt gyrraedd. 

Ychwanegodd yr Athro Scott: “Ni fyddai canlyniadau o’r fath yn bosib heb ymroddiad ac ymrwymiad pawb sy’n gysylltiedig â NEWI i helpu myfyrwyr deimlo fod croeso iddyn nhw, ac yn hyderus y byddwn yn eu helpu i gyflawni eu potensial, o ba bynnag gefndir y maen nhw’n dod.”

*Cyfradd yn seiliedig ar sgorau moddion mewn arolwg o dros 200 o fyfyrwyr NEWI.

Cysylltwch a ni