Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Llwyddiant yr arddangosfa ‘Tu Chwith’

12 Mehefin 2008
Llwyddiant yr arddangosfa ‘Tu Chwith’

Mae myfyrwyr a graddedigion celf a dylunio NEWI wedi cael adolygiadau rhagorol am arddangosfa y gwnaethont gymryd rhan ynddi y mis diwethaf.

Roedd yr arddangosfa, ‘Tu Chwith’, wedi’i lleoli ym mhentref Llanarmon Dyffryn Ceiriog ac yn cynnwys gwaith gan artistiaid lleol yn ogystal â myfyrwyr a graddedigion NEWI.

Syniad yr arddangosfa oedd arddangos gwaith trwy’r pentref fel nad oedd y gwaith wedi’i gyfyngu i ffiniau arferol cyflwyno ac arddangos.

Roedd yr arddangosfa pythefnos yn cynnwys cyfraniadau gan ystod eang o artistiaid gan gynnwys paentwyr, cerflunwyr, gweithwyr gwydr, artistiaid gwehyddol ac artistiaid tirlun. Gan mai arddangosfa awyr agored ydoedd, edrychodd llawer o’r artistiaid ar wytnwch defnyddiau yn ogystal ag ymddangosiad eu gwaith o fewn y tirlun.

Mae chwe darn o’r arddangosfa wedi cael eu gwerthu hyd yn hyn gan gynnwys cerflun gan y graddedig Celfyddyd Gain Jim Heath, darn gwydr gan y fyfyrwraig ail flwyddyn, Chrissie Smith, darn cerameg gan y myfyriwr celfyddydau cymhwysol blwyddyn olaf Peter Davies a phaentiad gan Diana Baur, myfywraig gelf yn ei hail flwyddyn. Daeth llawer o’r artistiaid i gysylltiad hefyd gyda phobl oedd eisiau comisiynu darnau newydd, gan gynnwys y cerflunydd Judy Greaves, sydd wedi graddio o NEWI. 

Denodd ‘Tu Chwith’ dros 1000 o ymwelwyr i’r pentref dros gyfnod o bythefnos a gobeithir y gellir trefnu arddangosfa o’r prosiect y flwyddyn nesaf.

Cysylltwch a ni