Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Llwyddiant ocsiwn ar gyfer myfyrwyr celf yn codi arian

5 Rhagfyr 2008
Llwyddiant ocsiwn ar gyfer myfyrwyr celf yn codi arian

Llwyddodd myfyrwyr celf o Brifysgol Glyndŵr i godi bron i £1800 trwy drefnu ocsiwn o waith celf yn eu digwyddiad Dydd Iau Cyntaf rheolaidd.

Mae angen i fyfyrwyr blwyddyn olaf celfyddydau cymwysedig godi £5000 i dalu am gost man arddangos yn y digwyddiad Dylunwyr Newydd yn Llundain ym mis Gorffennaf 2009. Bydd yr 20 o fyfyrwyr yn rhannu’r man arddangos ar gyfer eu gwaith ac maent eisoes wedi dechrau codi arian trwy werthu eu gwaith, trefnu cystadlaethau, cynnal digwyddiadau codi arian a hyd yn oed trwy bobi a gwerthu cacennau.

Roedd yr ocsiwn ar 4 Rhagfyr yn cynnwys gwaith wedi’i roi gan diwtoriaid, graddedigion a myfyrwyr celfyddydau cymwysedig o bob rhan o’r adran. Yn ôl Lynda Crabbe, sy’n arbenigo mewn gwydr fel rhan o’i gradd, roedd yr ocsiwn yn gyfle gwych i gael bargeinion celf. “Mae’r ocsiwn yn gyfle gwych i brynu rhywbeth am gyfran fechan o’r pris yr ydym fel arfer yn gwerthu ein gwaith amdano. Y mae hefyd yn gyfle i brynu gwaith gan gyd fyfyrwyr celf a gwaith tiwtoriaid celf yr ydych wedi ei edmygu ers tro. Hwyrach y gwnawn ni drefnu ocsiwn arall y flwyddyn nesaf er mwyn helpu i godi mwy o arian a byddwn hefyd yn gwerthu ein gwaith yn y Farchnad Nadolig Fictorianaidd ar 11 Rhagfyr yn Wrecsam.” 

Cynhelir y digwyddiad Dylunwyr Newydd bob blwyddyn gan helpu i amlygu gwaith dros 4000 o fyfyrwyr celf blwyddyn olaf i dros 17,000 o ymwelwyr. Mae’r myfyrwyr yn cael y cyfle i gwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant a datblygu cysylltiadau gyda gweithwyr masnach proffesiynol a darpar gyflogwyr. 

“Rydw i’n edrych ymlaen at gael sioe yn Llundain,” meddai Tabitha Tansey, sydd yn arbenigo mewn gwydr fel rhan o’i chwrs. “Mae’r digwyddiad yn gyfle hyrwyddol gwych i’n gwaith ac rydw i’n gobeithio cael comisiynau trwy werthu fy ngwaith yno.” 

Bydd Emily Lowrie, sy’n arbenigo mewn cerameg fel rhan o’i gradd Celfyddydau Cymwysedig, yn datblygu ei sgiliau trefnu a chyflwyno. “Hoffwn ddilyn gyrfa addysgu ar ôl i mi gwblhau fy ngradd,” meddai Emily. “Rydw i’n meddwl y bydd y digwyddiad Dylunwyr Newydd yn gyfle gwych i gael profiad o drefnu arddangosfa.”  

Gwnaeth digwyddiad Dydd Iau Cyntaf y mis yma hefyd lansio rhagolwg o arddangosfa gan fyfyrwyr Celfyddyd Gain, a gynhelir yn Ysgol Celf a Dylunio Gogledd Cymru tan fis Ionawr.

Cysylltwch a ni