Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Dylunwyr yn cael y cyfle i lunio delwedd newydd y brifysgol newydd

4 Medi 2008
Dylunwyr yn cael y cyfle i lunio delwedd newydd y brifysgol newydd

Mae penseiri o bob cwr o’r byd yn cael cyfle unigryw i gynllunio neuaddau preswyl modern newydd ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer Cystadleuaeth Cynllunio Agored ar gyfer y cyfleuster newydd a fydd yn gartref i 500 o fyfyrwyr ar gampws Prifysgol Wrecsam. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei rhedeg gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydeinig (RIBA) ar ran y Brifysgol.

Dywedodd Peter Rhodes, Pennaeth yr Adran Ystadau, ei fod yn gyffrous ynghylch lansiad y prosiect. Meddai: ‘Fel prifysgol newydd, ifanc sy’n ymroddedig i ysbryd menter, roeddem yn teimlo mai’r peth gorau fyddai gwahodd penseiri penigamp i helpu i lunio delwedd ein campws yn Wrecsam.

“Rydym yn buddsoddi’n drwm mewn gwella ein cyfleusterau ar y campws dros y blynyddoedd nesaf a dim ond un rhan o’r prosiect hwnnw yw’r neuaddau preswyl newydd.

“Rwy’n siŵr y gallwn edrych ymlaen at dderbyn rhai cynlluniau arloesol a dyfeisgar.”

Bydd y neuaddau newydd yn cael eu codi gerllaw Pentre’r Myfyrwyr, i’r gogledd o safle Plas Coch Prifysgol Glyndŵr, ac maent i fod yn barod erbyn gwanwyn cynnar 2010.

Rhan o’r cyfarwyddyd i benseiri yw cyflwyno cynllun sy’n cynnwys Adeilad Gwasanaethau Myfyrwyr, man bwyd a manwerthu newydd a fydd yn darparu ar gyfer anghenion y boblogaeth gynyddol o fyfyrwyr a fydd yn byw ar y campws.

Dywedodd Mr Rhodes ei bod yn bwysig i’r cynllun newydd fod mor fywiog a chroesawus â phosibl ar gyfer darpar fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr.

“Y prif gampws yw calon ac enaid bywyd myfyrwyr o ddydd i ddydd. Rydym am roi profiad mor ddymunol a chofiadwy â phosib i’n myfyrwyr, oddi mewn ac oddi allan i’w hastudiaethau. Bydd cyfleusterau newydd fel y neuaddau preswyl a’r adeilad gwasanaethau myfyrwyr newydd yn cyfrannu, gobeithio, tuag at gyflawni hyn.

“Byddant hefyd yn ymestyn ein hymroddiad i leihau niwed i’r amgylchedd. Bydd popeth, o’r cysyniad i’r defnyddiau a ddefnyddir ar yr adeilad, yn chwarae rhan allweddol yng nghynllun cynaliadwyedd hirdymor y Brifysgol.” 

Mae’r gystadleuaeth yn agored yn rhyngwladol i benseiri cofrestredig. Mae angen i’r ceisiadau cychwynnol cael eu cyflwyno i RIBA erbyn 31 Hydref 2008. Mae manylion pellach ynghylch sut i wneud cais ar gael ar-lein yn www.architecture.com/competitions neu trwy ffonio swyddfa cystadlaethau RIBA ar +44 (0)113 234 1335.

Cysylltwch a ni