Mae David Platt wedi bod yn gofalu am egin bêl-droedwyr yn Wrecsam yr wythnos yma – gyda geiriau o anogaeth i chwaraewyr ifanc y dref.
Mae’r cyn-chwaraewr Lloegr rhyngwladol 42-oed wedi bod yn arwain cwrs hyfforddi undydd ar faes Astroturf Prifysgol Glyndŵr, gan rannu ei brofiad a’i sgiliau gyda chenhedlaeth newydd o bêl-droedwyr rhwng 4 a 14.
Ac roedd Platt, y seren oedd yn gysylltiedig â’r cwrs hyfforddi Football Matters, yn llawn canmoliaeth am yr hyn a welodd. Meddai: “Prif amcan y sesiynau yw fod plant yn eu mwynhau ac yn cael gweld sgiliau gwahanol y gallan nhw eu hymarfer adre.
“Pan ddes i’n gysylltiedig â Football Matters, roeddwn i eisiau pwysleisio na ddylai’r cwrs fod yn ymarfer unigol yn unig ond ein bod ni’n darparu cynnyrch ble’r ydym yn gallu adnabod lefelau sgiliau a gwella ein sesiynau wythnos ar ôl wythnos wrth i ni hyfforddi gwahanol grwpiau.
“Mae lefel sgiliau’r grŵp yn Wrecsam wedi bod yn uwch nag ar y cwrs blaenorol a redwyd gennym felly rydym wedi gallu symud y sesiynau ymlaen yn dipyn cynt nag y bydden ni fel arfer.”
Canolfan Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr yw’r unig leoliad yng Nghymru y mae’r daith hyfforddi Football Matters yn ymweld ag ef yr haf yma ac yn ôl Platt mae safon uchel y cyfleusterau wedi cynorthwyo datblygiad chwaraewyr ifanc.
“Mae’n rhaid i’r cyfleusterau fod yn iawn i’r plant fwynhau a dysgu, ac maen nhw’n dda iawn yma,” ychwanegodd. “Mae’r cae yn rhagorol, y bêl yn rhedeg yn gywir ac mae hynny wedi bod yn help mawr wrth ddysgu sgiliau newydd iddyn nhw.”
Dywed Platt, a hyfforddodd dîm Dan 21 Lloegr o 2001 tan 2004, ei fod yn gyffrous ynglŷn â bod yn gysylltiedig â datblygiad chwaraewyr ar lefel sylfaenol. Y mae hefyd yn ystyried y cyrsiau fel cyfle i chwaraewyr ifanc gadw’n ffit a heini yn ystod yr haf.
Meddai: “Rwy’n hoffi prosiectau. Rwy’n hoffi pethau sy’n fy nghael i godi yn y bore a gwneud i mi ganolbwyntio. Mae Football Matters yn brosiect sy’n gallu mynd i rywle. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o raglenni sylfaenol, mae yna weledigaeth. Yr hyn sy’n creu argraff arna’i yw fod arno eisiau mynd yn genedlaethol. Rydym wedi bod i dde-orllewin Llundain, Surrey, Caeredin, yma i Gymru, ac mae gennym ni fwy o lefydd ar y gweill. Os awn ni â’r rhaglen ymhellach ac ymhellach, gallwn ni gael syniad am ansawdd chwaraewyr ifanc ar hyd a lled y wlad.”
Cafodd Platt yrfa 16-mlynedd lewyrchus yn y 1980au a’r 1990au, gyda chyfnodau yn rhai o glybiau mwyaf Ewrop, gan gynnwys Aston Villa, Juventus ac Arsenal. Roedd y chwaraewr canol cae o Oldham hefyd yn un o sêr tîm Lloegr yng Nghwpan y Byd 1990. Ar ôl mynd ymlaen fel dirprwy yn ail hanner yr amser ychwanegol yn erbyn Y Camerŵn, daeth yn enwog am sgorio ei gôl gyntaf dros ei wlad, sef y foli gofiadwy a sicrhaodd le i Loegr yn y gêmau go-gyn-derfynol.
Erbyn hyn, mae Platt yn fwy na hapus yn helpu i hyfforddi darpar sêr y dyfodol ond yn dweud y bydd y problemau cyfredol, tra hysbys o fewn y gêm Brydeinig yn cymryd mwy na dim ond ychydig flynyddoedd i’w datrys.
“Rwy’n gobeithio y bydd fy nghysylltiad i â’r cwrs hyfforddi yn helpu i wella safonau hyfforddi fel bod y cynnyrch yn dod yn well ac yn well,” meddai Platt. “Ond mae’n mynd i gymryd yn llawer hirach i ni ddechrau cynhyrchu chwaraewyr o’r radd flaenaf yn rheolaidd. Mae angen atgyweirio radical ar lefel sylfaenol – ac rwy’n golygu radical. Dydw i ddim yn meddwl fod yr FA yn gwneud digon. Mae pobl yn meddwl mai’r clybiau proffesiynol sydd ar fai ond dyw llawer o chwaraewyr ifanc ddim yn mynd iddynt tan eu bod yn 15/16 oed, a dydyn nhw ddim o’r lefelau sgiliau angenrheidiol.”