Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

ABBA Magic yn fyw yn Neuadd William Aston

13 Tachwedd 2008
ABBA Magic yn fyw yn Neuadd William Aston

Mae un o hoff sioeau teyrnged Abba yn y DU wedi cael gweddnewidiad newydd sbon ar gyfer 2008. Yn ei 15fed blwyddyn erbyn hyn, bydd Abba Magic yn perfformio yn Neuadd William Aston ym Mhrifysgol Glyndŵr ar nos Iau 27 Tachwedd.

Yn cynnwys pob un o 17 record deg uchaf Abba, Abba Magic yw sioe Abba wreiddiol Prydain sy’n adfywio ffenomen y supergroup o’r 70au a’r 80au dros ugain mlynedd yn ddiweddarach.

Mae Prifysgol Glyndŵr ac Abba Magic wedi dod at ei gilydd i drefnu cystadleuaeth sy’n cynnig pedwar pâr o docynnau (gwerth dros £50 y pâr) ar gyfer y cinio cyn y sioe a’r perfformiad.

Am y tro cyntaf, cynigir cinio cyn y sioe ym Mwyty 1887 y brifysgol cyn y cyngerdd yn Neuadd William Aston. Bydd gan y cinio, sy’n cychwyn am 6pm, fwydlen â thema Abba arbennig, gan gynnwys gwydraid Abba Fizz wrth gyrraedd.

Tri deg pum mlynedd yn ôl, bathodd Agnetha, Bjorn, Benny a Frida yr enw Abba, gan fynd ymlaen i recordio a pherfformio caneuon oedd yn gwerthu miliynau fel Dancing Queen; Knowing Me, Knowing You; The Name of the Game; Mamma Mia a Take a Chance on Me. Bu Mamma Mia! The Movie yn ffilm ysgubol o lwyddiannus eleni. Yr haf yma fe ddaeth i frig siartiau swyddfa docynnau’r DU bythefnos yn olynol gan dorri’r record am gymryd mwy o arian nag unrhyw ffilm gerdd arall yn hanes yr UDA.

“Dyw llwyddiant Mamma Mia! The Movie ddim yn ein synnu ni o gwbl,” medai cynhyrchydd Abba Magic, Michael Taylor. “Mae gan gerddoriaeth Abba swyn parhaol, byd-eang. Mae’n apelio at bob oed ac mae ein sioe gyngerdd Abba Magic wedi bod yn denu ffans ym mhrif theatrau’r DU ers 11 mlynedd. Yn wir, erbyn diwedd eleni bydd Abba Magic wedi bod yn codi cynulleidfaoedd i’w traed sodlau-platfform ers gymaint o amser ag y gwnaeth yr artistiaid gwreiddiol yn ystod y Saithdegau a’r Wythdegau!”

Ar gyfer 2008, mae Abba Magic yn lansio golwg newydd sbon wrth i’r byd ddathlu 35 mlynedd o Abba. Bydd dawnsfeydd newydd trawiadol a gwisgoedd disglair yn cyfuno gyda rhestr set newydd, gan sicrhau lle Abba Magic fel sioe gyngerdd orau’r byd.

Mae tocynnau ar gyfer y cyngerdd yn costio £15.00 (£14.00 ar gyfer consesiynau) ac maent ar gael o Ganolfan Groeso Wrecsam ar 01978 292015 a See Tickets ar 0871 230 5596 neu ar-lein yn www.seetickets.com . Mae tocynnau ar gyfer y cinio cyn y sioe a’r perfformiad yn £28. Cysylltwch â Cora Thorne ar 01978 293306 am fwy o fanylion neu am fwy o fanylion neu i weld y fwydlen ewch i’r dudalen Beth Sy ’Mlaen.

Er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, anfonwch eich ateb i’r cwestiwn: ‘O ba wlad oedd y grŵp Abba yn dod’ ynghyd a’ch enw, cyfeiriad a rhif ffôn yn ystod y dydd at  c.thorne@glyndwr.ac.uk neu trwy’r post at: Pwynt Post 9, Prifysgol Glyndŵr, Campws Plas Coch, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW. Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw dydd Gwener 21ain o Dachwedd a bydd yr enillwyr yn cael eu tynnu ar ddydd Mawrth y 25ain o Dachwedd. Y pedwar cais cyntaf cywir fydd yn ennill y wobr. Ni ellir ei ffeirio am arian parod.

Cysylltwch a ni