|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2007 > Yr Arglwydd Barry Jones i fod yn Llywydd
|
||
|
|
Yr Arglwydd Barry Jones i fod yn Llywydd8 Awst 2007
Mae NEWI wedi penodi’r Arglwydd Barry Jones fel Llywydd yr Athrofa. Bydd rôl Llywydd yn NEWI yn golygu y bydd yr Arglwydd Barry Jones yn arwain NEWI mewn enw, gan godi proffil NEWI a gweithredu fel llysgennad i’r Athrofa a’i staff a’i myfyrwyr. Bydd yn mynychu ymweliadau a digwyddiadau arbennig yn NEWI gan gynnwys Seremonïau Gwobrwyo NEWI ym mis Tachwedd ac yn gweithredu fel pwynt cynghori ar gyfer yr Athrofa. Gwnaethpwyd y penodiad hwn yn dilyn cymeradwyaeth gan Fwrdd Llywodraethwyr NEWI. Mae’r Arglwydd Barry Jones wedi gweithio mewn addysg a diwydiant lleol a bu’n AS dros Alyn a Glannau Dyfrdwy o 1970 nes iddo ymddeol yn 2001. Yn ystod tair degawd fel gwleidydd bu’r Arglwydd Barry yn Is-Ysgrifennydd Seneddol Cymru, yn Llefarydd yr Wrthblaid ar Gyflogaeth, ac yn Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid yng Nghymru. Bu hefyd yn aelod o Bwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch y Senedd. Wedi ei eni a’i fagu yn yr ardal hon, y mae’n wastad wedi ymgyrchu dros nifer o faterion lleol a chodi proffil Gogledd Ddwyrain Cymru. Bu ar flaen y gad yn natblygiad ffordd gyflym yr A55 a Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac y mae wedi gweithio’n galed i ddiogelu swyddi yn yr ardal. Meddai Prifathro a Phrif Weithredwr NEWI, yr Athro Michael Scott: “Rwyf yn gyffrous am gyhoeddiad swydd Llywydd yn NEWI. Mae’r Arglwydd Barry Jones yn wastad wedi bod yn llysgennad gwych dros NEWI a Gogledd Ddwyrain Cymru, ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi derbyn y swydd hon. Mae’r athrofa gyfan yn ymuno â mi a Bwrdd y Llywodraethwyr wrth ei groesawu i’n cymuned o ddysg.” |
|