Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Myfyrwyr NEWI yn ennill gwobr am arloesi

18 Rhagfyr 2007

Mae dau o fyfyrwyr cyfrifiadura NEWI cwedi ennill gwobr gyntaf ar y cyd o blith miloedd o geisiadau mewn cystadleuaeth oedd yn agored i fyfyrwyr prifysgol a gweithwyr proffesiynol ym myd diwydiant o bob cwr o’r DU.

Gwnaeth Simon Moorcroft, sy’n fyfyriwr ar y cwrs BSc (Anrh) Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Ben Abnett sy’n fyfyriwr ar y cwrs BSc (Anrh) Cyfrifiadura a TG gydweithio ar gais, gan gynllunio system sy’n defnyddio technoleg di-wifr byr-gyrhaeddol i helpu i atal trosedd cerbydau, sy’n costio oddeutu £3 biliwn o bunnoedd y flwyddyn i’r wlad.

Roedd eu cais nhw ar gyfer system newydd o adnabod ceir. Roedd y gystadleuaeth yn gofyn i ymgeiswyr ddod o hyd i ffordd fasnachol hyfyw o ddefnyddio’r diweddaraf mewn technoleg ffôn symudol a thagiau dynodi amledd-radio (RFID). Byddai eu cynllun arloesol yn defnyddio tagiau RFID i adnabod cerbydau. Byddai’r tagiau yn cael eu gosod yn sgrîn wynt y car ac yna’n gallu cael eu sganio o bell trwy ddefnyddio ffôn symudol arbenigol gan yr heddlu. Gallai sganio’r tag ddarparu gwybodaeth hanfodol ynghylch perchnogaeth y cerbyd, a yw’r cerbyd wedi’i drethu’n llawn, a oes ganddo MOT dilys ac a ydyw wedi cael ei yswirio. 

Teithiodd y ddau fyfyriwr i Lundain i arddangos eu cynlluniau i banel o feirniaid yn y rownd derfynol, ac roeddent wrth eu bodd o ennill y wobr gyntaf ar y cyd â’r criw arobryn arall o Brifysgol Caerlŷr.   

Meddai Simon Moorcroft, “Roedden ni’n falch iawn o ennill, roedd gan y criw arall wnaeth ennill Ddoethuriaeth mewn Gwyddoniaeth yn eu criw nhw ac roedd y gystadleuaeth yn agored i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes.” 

Ychwanegodd Ben Abnett, “Fe wnaethon ni gyflwyno ein syniadau a’n cynlluniau i Brif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Innovision a chafodd ein cyflwyniad ni gryn argraff arnyn nhw.”
Roedd eu tiwtor John McGinn wrth ei fodd gyda’u llwyddiant yn ogystal, “Maen nhw wedi gweithio’n galed iawn ar y prosiect yma ac roedden nhw’n bendant yn haeddu ennill. Byddai eu prosiect yn gwneud gwaith heddlu traffig yn haws ac yn gallu arbed biliynau o bunnoedd i’r wlad. Mae ennill cystadleuaeth fel hon yn andros o gamp, roedd yna nifer uchel iawn o geisiadau, ond roedd eu gwaith nhw yn sicr yn sefyll allan.”

Cysylltwch a ni