Darlithwyr yn ymweld â Lesotho i helpu i gefnogi'r frwydr yn erbyn HIV ac AIDS
9 Mawrth 2007
Mae ysgolheigion o Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI) yn gweithio gyda chydweithwyr yn Lesotho i adeiladu ar a datblygu cysylltiadau presennol rhwng Cymru, Lesotho a De Affrica. Ariannir yr ymweliad gan UNESCO Cymru fel rhan o brosiect sy’n anelu i ddod ag ysgolheigion o’r tair gwlad ynghyd i sefydlu partneriaeth addysg uwch gynaliadwy i daclo ymddygiadau risg cysylltiedig â HIV/AIDS. I ddarganfod mwy, cliciwch yma.
Yn ystod eu hymweliad, bydd y tri aelod o staff academaidd NEWI, yr Athro Odette Parry, yr Athro Julian Buchanan a Dr Paul Burlison yn cyfarfod â chynrychiolwyr allweddol o fudiadau sy’n gweithio gyda grwpiau o bobl sy’n cael eu hystyried mewn risg uchel o gael HIV yn ogystal â’r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan yr epidemig ac aelodau o grŵp cefnogi HIV ac AIDS. Byddant hefyd yn treulio amser gydag ysgolheigion a myfyrwyr ym Mhrifysgol Genedlaethol Lesotho sy’n gweithio o fewn y meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Fel rhan o’r prosiect, bydd y tîm ymchwil yn anelu i ddynodi materion risg sy’n berthnasol i’r wlad. Trwy eu hymchwil, yn seiliedig ar wybodaeth am brofiadau a chredoau y rheiny a effeithir, maent yn gobeithio hysbysu datblygiad gwasanaethau a strategaethau hybu iechyd sy’n targedu y rheiny sydd mewn mwyaf o berygl o ddatblygu HIV/AIDS.
Meddai Dr Julian Buchanan, “Mae gan Lesotho y pedwerydd mynychdra uchaf o HIV yn y byd. Trwy greu perthnasau gyda Phrifysgol Genedlaethol Lesotho, rydym yn gobeithio creu partneriaeth a fydd yn darparu cyfnewid diwylliannol a chael unigolion allweddol i gymryd rhan a fydd yn ddylanwadol wrth helpu i ledaenu canfyddiadau ein hymchwil a gwella’r sefyllfa yn y dyfodol.”
Mae’r ysgolheigion wedi derbyn cyngor a chefnogaeth ynghylch cynllunio eu hymweliad gan yr AS lleol Ian Lucas a ddaeth i ddymuno’n dda iddynt cyn iddynt adael. Meddai, “Roedd yn bleser gennyf helpu Odette a Julian pan gysyllton nhw â mi. Rwyf wedi eu rhoi mewn cysylltiad â gwahanol ysgolion, clinigau ac adrannau Llywodraethol yr wyf wedi gweithio â nhw yn y wlad, ac edrychaf ymlaen at glywed am eu hymweliad ar ôl iddyn nhw ddychwelyd. Mae’r cysylltiadau sy’n cael eu ffurfio rhwng NEWI a Lesotho yn rhan o ymrwymiad cynyddol y mae’r wlad yn ei ddatblygu gyda Wrecsam.”
