|
|
Mapiau a gwybodaeth i ymwelwyr
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi ei lleoli ar gyrion Wrecsam. Y dref yw’r fynedfa i gefn gwlad gwyrdd ac arfordir hardd Gogledd Cymru. Gweler isod am gyfarwyddiadau teithio a gwybodaeth am lety ac i ymwelwyr, neu lawrlwythwch un o'n mapiau.
Cyfarwyddiadau teithioTeithio ar y fforddGadewch Gyffordd 15 oddi ar yr M56 ble mae’n ymuno â’r M53 i Gaer/Wrecsam. O’r M53, cariwch ymlaen ar hyd yr A55, a chymryd yr allanfa gyda’r arwydd A483 Wrecsam. Mae Prifysgol Glyndŵr wedi ei leoli oddi ar Gyffordd 5 o’r A483 gyda’r arwydd Wrecsam/Yr Wydgrug. Teithio ar y trênY gorsafoedd rheilffordd agosaf yw:
Teithio o feysydd awyrTaith 45 munud mewn car/tacsi sydd rhwng Prifysgol Glyndŵr a meysydd awyr rhyngwladol Manceinion a Lerpwl. Lletyau lleol a gwybodaeth dwristaidd
OpTIC GlyndŵrMewn CarO’r Gorllewin - ewch oddi ar yr A55 yng nghyffordd 26 i Barc Busnes Llanelwy. Wrth y gylchfan gyntaf, ar ôl ryw 400m cymrwch y 3edd allanfa. Mae OpTIC Glyndŵr ar y chwith. O’r Dwyrain / Lloegr – o’r M53 neu’r M56, ymunwch â’r A55. Ewch oddi ar yr A55 yng nghyffordd 26 i Barc Busnes Llanelwy. Wrth y gylchfan gyntaf, ar ôl ryw 400m cymrwch y 3edd allanfa. Mae OpTIC Glyndŵr ar y chwith. O’r De – o Ganolbarth Lloegr a De Cymru, cariwch ymlaen ar hyd yr A5. Wrth drofa Llangollen yr A5, trowch a chariwch ymlaen ar hyd yr A483 (Wrecsam) nes yr A55 (Conwy). Ewch oddi ar yr A55 yng nghyffordd 26 i Barc Busnes Llanelwy. Wrth y gylchfan gyntaf, ar ôl ryw 400m cymrwch y 3edd allanfa. Mae OpTIC Glyndŵr ar y chwith. ParcioMae yna lefydd parcio i ymwelwyr o flaen yr adeilad. Ar DrênO Orsaf Reilffordd Y Rhyl, cymrwch dacsi o du allan i’r swyddfa. Bydd y daith yn cymryd ryw 10 munud. Mewn AwyrenMae OpTIC Glyndŵr ryw awr i ffwrdd o Faes Awyr Ryngwladol Manceinion a Maes Awyr Ryngwladol John Lennon Lerpwl. |
|