Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Academi Rhwydweithio CCNA/CCNP Cisco

Academi Rhwydweithio CCNA/CCNP Cisco

Mae Academi Rhwydweithio Cisco yn gwobrwyo cymwysterau proffesiynol a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn rhwydweithio cyfrifiadurol. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i addysgu’r sgiliau sydd arnoch eu hangen i ddylunio, creu a chynnal rhwydweithiau bychain a chanolig. Bydd yn rhoi cyfle i chi ymuno â’r gweithlu neu hyrwyddo eich addysg a’ch hyfforddiant mewn rhwydweithio cyfrifiadurol.  

Nodweddion arbennig

  • Cyfuniad o ddulliau dysgu – dan arweiniad hyfforddwr a dysgu ar-lein gydag ymarferion labordy ymarferol.
  • Astudio ar eich cyflymdra eich hun.
  • Pwyslais ar ddatblygu sgiliau.
  • Theori manwl. Labordai llawn her i’ch helpu i ddatblygu sgiliau cydweithredu, meddwl yn feirniadol, a datrys problemau, yn ogystal â gwybodaeth ymarferol. 
  • Mae’r rhaglen yn cynnwys modiwl ar e-wneud planedig. Mae hyn yn eich galluogi i gwblhau gweithgareddau rhyngweithiol sy’n ysgogi dysg ac yn gwella cadw gwybodaeth. Mae e-wneud yn ymwneud âg amlgyfryngau toreithiog, gan gynnwys gweithgareddau sylfaen-fflach, fideos a chwisiau rhyngweithiol. Mae’r rhain yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o arddulliau dysgu, yn cynyddu dealltwriaeth ac yn darparu profiad dysgu gwych. 

Cynnwys y cwrs

  • Sylfeini Rhwydwaith
  • Protocolau a Chysyniadau Cyfeirio
  • Rhwydwaith Ardal Leol (LAN) Switsio a Diwifr
  • Cael Gafael ar y Rhwydwaith Ardal Eang (WAN)
  • Technoleg LAN a WAN
  • Rheolaeth Rhwydwaith
  • Cyflunio a Datrys Problemau Rhwydwaith
  • Technoleg Rhyngrwyd; TCP/IP, ISDD, Bothau, Switsys, Cyfeirwyr a Phyrth

Mae rhaglen yr Academi yn cyfuno dysgu ar-lein, dan arweiniad hyfforddwr gydag ymarferion labordy ymarferol, ble gallwch gymhwyso’r hyn yr ydych yn ei ddysgu yn y dosbarth tra’n gweithio ar rwdyweithiau cyfrifiadurol pwrpasol. Gallwch astudio agweddau damcaniaethol y rhaglen ar eich cyflymdra eich hun. Mae pob un o’r modiwlau yn cynnwys elfen ymarferol, fel bod sesiynau ymarferol, ynghyd â chefnogaeth diwtorial ar gyfer defnydd damcaniaethol, wedi’u trefnu trwy gydol y flwyddyn. 

Asesu

Mae pob gwobr yn cynnwys pedwar modiwl a astudir mewn trefn ddilyniannol.

Hyd y cwrs

CCNA: lleiafswm o 6 mis, er bod darpariaeth estynedig dros gyfnodau hirach yn bosibl (e.e. 2 flynedd am 3 awr yr wythnos). 

CCNP: lleiafswm ychwanegol o 6 mis, er bod darpariaeth estynedig gyffelyb yn bosibl hefyd.

Cyrsiau proffesiynol

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk