Gofal Lliniarol Rhyngddisgyblaethol
Tystysgrif Uwchraddedig mewn Gofal Lliniarol Rhyngddisgyblaethol
Mae’r cwrs yma wedi’i seilio mewn ymarfer gofal lliniarol blaenllaw ac wedi’i gefnogi gan staff academaidd a chlinigol gyda lefelau uchel o arbenigedd. Mae’n datblygu ymarferwyr tuag at feistroli eu hymarfer a chefnogi cleifion a’u teuluoedd yn effeithiol mewn unrhyw leoliad.
Cynigir y Dystysgrif Uwchraddedig mewn Gofal Lliniarol Rhyngddisgyblaethol fel darpariaeth ryngddisgyblaethol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio ym mhob maes o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Rhan allweddol o’r rhaglen yw myfyrio yn feirniadol ynghylch ymarfer clinigol a materion sy’n berthnasol i ofal lliniarol. Mae hyn yn annog ymarferwyr i rannu eu gwybodaeth a’u sgiliau ar lefel uwch. Bydd yn datblygu ymwybyddiaeth o’r agwedd ryngddisgyblaethol sy’n ganolog i ofal lliniarol.
Nodweddion arbennig
- Rhaglen ryngddisgyblaethol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n addas ar gyfer ymarferwyr meddygol, nyrsys, gweithwyr proffesiynol cysylltiedig a gweithwyr cymdeithasol. Gallai rhai modiwlau fod o ddiddordeb i glerigwyr hefyd.
- Cael cyflwyniad i theori ac ymarfer blaenllaw ym maes gofal lliniarol.
- Darparu sylfaen gadarn ar gyfer y rheiny sy’n dymuno cwblhau’r radd meistr (a fydd ar gael ym Mhrifysgol Glyndŵr yn fuan).
- Gellir cyflwyno asesiadau yn Gymraeg neu Saesneg.
Cyfleoedd gyrfaol
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i wella eich gwybodaeth a’ch sgiliau personol a phroffesiynol mewn gofal lliniarol rhyngddisgyblaethol.
Bwriedir ychwanegu at y dystysgrif yma yn y dyfodol a chynnig gradd lawn mewn Gofal Lliniarol
Rhyngddisgyblaethol. Cwblhewch y Dystysgrif Uwchraddedig mewn Gofal Lliniarol Rhyngddisgyblaethol yn llwyddiannus a byddwch yn gallu mynd ymlaen i astudio’r rhaglen gradd meistr. Bydd y rhaglen meistr lawn yn eich paratoi i ymgymryd ag astudiaeth ar lefel ddoethurol. Bydd yn gwella eich arbenigedd ymchwil, ac yn llwyfan delfrydol i ddatblygu eich sgiliau gwerthuso a chyfosod tuag at wreiddioldeb meddwl.
Cynnwys y cwrs
- Gofal Lliniarol: Trin Symptomau
- Moeseg Gwneud Penderfyniadau mewn Gofal Lliniarol
- Cefnogaeth Seicogymdeithasol mewn Gofal Lliniarol
Asesu
Myfyrdod beirniadol ysgrifenedig, astudiaeth achos a dadansoddiad beirniadol o senario wedi’i fideorecordio.
Gofynion mynediad
Bydd angen i chi fod â gradd mewn pwnc iechyd neu faes cyffelyb; neu gymhwyster anraddedig mewn pwnc iechyd neu faes cyffelyb sydd, yn nhyb y brifysgol, yn foddhaol ar gyfer astudiaeth uwchraddedig.
Os nad ydych yn raddedig, fe allech gael eich derbyn ar y cwrs yr un fath, ar yr amod eich bod yn ymarferydd ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol ac os ydych wedi bod, am ddwy flynedd o leiaf, mewn swydd gyfrifol sydd yn berthnasol i’r cynllun y mae gennych ddiddordeb ynddo.
Beth bynnag fo eich cymwysterau mynediad, bydd angen i chi ddangos i’r panel cyfweld eich bod yn gallu cynhyrchu gwaith academaidd i’r safon sydd ei angen i gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus.
Hyd y cwrs
Rhan amser: 6 mis

