Text begins here:
Datblygiad Proffesiynol mewn AU
Tystysgrif Ôl-radd mewn Datblygiad Proffesiynol mewn AU
Cyfle i wella eich dealltwriaeth o addysgu ac asesu yn y byd addysg uwch er mwyn eich helpu i gyfleu eich brwdfrydedd am eich pwnc ac ysbrydoli eraill.
Nod y cwrs hwn yw eich helpu i wella ansawdd dysgu, addysgu, asesu a gwerthuso mewn addysg uwch. Mae’r rhaglen astudio yn ddelfrydol ar gyfer darlithwyr ac ymchwilwyr sydd â chyfrifoldebau addysgu ac sydd newydd eu penodi i’w swydd. Amcanion y rhaglen yw sicrhau eich bod yn arddangos gallu i addysgu trwy gymhwyso ac addasu fframweithiau cysyniadol damcaniaethol a hynny mewn ymateb i amgylchiadau sy’n newid yn y sector addysg uwch. Y bwriad hefyd yw eich bod yn gallu annog dysgu ymreolaethol o fewn ffiniau ymarfer proffesiynol.
Yn ystod y cwrs byddwch yn adfyfyrio ar ymarfer drwy adolygu’n feirniadol eich cysyniadau eich hun am weithdrefnau a phrosesau dysgu, addysgu, asesu a gwerthuso mewn AU. Byddwch yn mynd ati i graffu yn feirniadol ac ehangu eich dealltwriaeth o gyd-destun datblygiadau sefydliadol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n effeithio ar addysg uwch.
Prif ffeithiau
- Cwrs ar gyfer darlithwyr ac ymchwilwyr sydd â chyfrifoldebau addysgu ac sydd newydd eu penodi
- Byddwch yn mynd ati i ddatblygu’n broffesiynol mewn cyd-destun amlddisgyblaethol gan eich galluogi i hyrwyddo dysgu yn well mewn AU
- Bydd gennych fentor penodol yn nisgyblaeth eich pwnc
- Bydd y cwrs yn eich galluogi i fod yn Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch
Hyd y Cwrs
Rhan-amser
Blwyddyn
Lleoliad: Wrecsam
Mis dechrau: Ionawr
Cyfleoedd gyrfa
Ar ôl cwblhau’r cwrs yma byddwch wedi cynyddu eich gallu i gymhwyso a gwerthuso fframweithiau damcaniaethol/cysyniadol wrth ddysgu, addysgu ac asesu mewn Addysg Uwch. Byddwch yn gallu datblygu a chymhwyso sgiliau proffesiynol ac academaidd effeithiol mewn meysydd megis cyfathrebu, TGCh, datrys problemau, meddwl yn feirniadol, gwneud penderfyniadau a pherthnasau rhwng pobl; yn ogystal â datblygu ymchwil addysgol.
Cynnwys y cwrs
- Arferion Academaidd mewn Addysg Uwch
- Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch – adfyfyrio a datblygu
- Asesu a gwerthuso mewn Addysg Uwch – adfyfyrio a datblygu
Gofynion derbyn
Fel arfer bydd gennych radd meistr yn eich disgyblaeth eich hun a mynediad i addysgu rheolaidd mewn sefydliad addysg uwch.
Asesu
Caiff y cwrs ei asesu drwy waith cwrs.
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|