Addysg
Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR/PGCE)
Tystysgrif mewn Addysg
Nod y cyrsiau hyn yw rhoi’r cyfle i raddedigion ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau ac agweddau proffesiynol er mwyn dod yn athrawon, tiwtoriaid ac/neu hyfforddwyr yn y sector dysgu a’r sector sgiliau (addysg a hyfforddiant ôl-orfodol).
Datblygwyd y cyrsiau hyn o ganlyniad i newidiadau mawr yn y gofynion ar gyfer athrawon yn y sector dysgu a sgiliau.
Mae'r cyrsiau newydd a chyffrous hyn yn cynnig y posibilrwydd o addysgu ac asesu myfyrwyr ar draws ehangder o gwricwla ac yn darparu gallu i ddysgu ar-lein sy’n hyrwyddo hyblygrwydd trwy amrywiaeth o gyfleoedd dysgu. Mae’r hyfforddiant yn adeiladu ar eich gwybodaeth a'ch profiad blaenorol ac mae pwyslais cryf ar ddysgu gweithredol.
Byddwch yn ennill cymhwyster sy’n eich galluogi i addysgu myfyrwyr mewn addysg bellach, y chweched dosbarth a cholegau trydyddol, carchardai, addysg oedolion a lleoliadau dysgu yn y gwaith.
Prif ffeithiau
- Mae addysgu yn y sector ôl-orfodol wedi mynd trwy gyfnod o broffesiynoldeb yn y blynyddoedd diwethaf, a’r dyfarniad hwn bellach yw’r cymhwyster a gymeradwyir yn genedlaethol ar gyfer y sector
- Mae ansawdd yr hyfforddiant y byddwch yn ei dderbyn yn hollbwysig ar gyfer eich datblygiad parhaus fel gweithiwr proffesiynol yn y sector, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y cymorth a'r cyfarwyddyd a gynigir i chi trwy gydol y cyfnod o hyfforddiant drwy gael arweiniad tiwtor a mentor
- Mae gan y Brifysgol gysylltiadau cryf gyda cholegau addysg bellach yn lleol yn ogystal â sefydliadau hyfforddi yn yr ardal
- Efallai fod bwrsari hyfforddi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gael i chi os ydych am astudio yn llawn amser
- Caiff y rhaglen ei haddysgu drwy astudio hyblyg yn dibynnu ar y llwybr a ddewisir.
Hyd y Cwrs
Llawn amser
TAR: blwyddyn
Rhan-amser
TAR: 2-3 blynedd
Tystysgrif mewn Addysg: 2-3 blynedd
Lleoliad: Llaneurgain. Caiff y llwybr rhan-amser hefyd ei gynnig yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy a Choleg Iâl, Wrecsam.
Mis dechrau: Medi
Cyn y cewch gynnig lle ar y cwrs hwn bydd gofyn i chi lenwi ffurflen y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a thalu'r ffi briodol, er mwyn gallu gwirio a ydych yn addas ar gyfer gweithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed.
Cyfleoedd gyrfa
Mae addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn faes sy'n datblygu ac yn ehangu’n gyflym ac, yn sgil y gofyniad am gymhwyster addysgu proffesiynol wedi’i ardystio, mae bellach yn sefydlu llwybrau dilyniant gyrfa clir yn y sector yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer astudiaethau uwch pellach.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cyrsiau wedi'u cynllunio yn ddau gam: mae Cam 1 wedi'i gynllunio i gefnogi sgiliau generig ar gyfer addysgu a dysgu mewn perthynas â'r canlynol:
- Cynllunio gwersi
- Strategaethau ar gyfer addysgu a dysgu
- Strategaethau Asesu
- Adnoddau ar gyfer dysgu
- Adfyfyrio a gwerthuso addysgu a dysgu
- Addysgu a dysgu pwnc penodol
Mae Cam 2 yn mynd ati i ymestyn eich ymarfer trwy strategaethau creadigol ac arloesol ar gyfer addysgu, dysgu ac asesu ac mae’n annog darllen ehangach ac ymchwil ysgolheigaidd i lywio ac ategu eich ymarfer. Mae’r cam hwn yn y rhaglen yn astudio rôl athro yn y sector dysgu a sgiliau, ynghyd ag effaith polisïau a strategaethau cenedlaethol ar brosesau ac ymarfer sefydliadau a pholisïau a strategaethau sy’n benodol i bwnc. Caiff y cysyniad o ddatblygiad proffesiynol parhaus ei archwilio fel proses gyson sy'n ymestyn y tu hwnt i'r cwrs ac i’ch gyrfa fel athro/athrawes yn y sector dysgu a sgiliau.
Tystysgrif Addysg i Raddedigion
Modiwlau Cam 1:
- Cyflwyniad i Addysgu
- Yr Ymarferydd Adfyfyriol
- Addysgu i Alluogi Dysgu
- Addysgeg Pwnc Arbenigol
Modiwlau Cam 2:
- Y Sefydliad a'r Unigolyn
- Athro yn Datblygu ei Hun
- Astudiaeth wedi’i thrafod
- Arloesedd ac Athrawon
Tystysgrif mewn Addysg
Modiwlau Cam 1:
- Ymarfer Adfyfyriol
- Paratoi i Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes
- Dysgu ac Addysgu
- Addysgu Pwnc Arbenigol
- Addysgu a’r Sefydliad
- Hunanddatblygu a’r Athro
- Astudiaeth wedi’i thrafod – Materion Proffesiynol
- Athrawon fel Arloeswyr
Modiwlau Cam 2:
- Cyflwyniad i Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes
- Yr Ymarferydd Adfyfyriol
- Addysgu i Alluogi Dysgu
- Addysgeg Pwnc Arbenigol
- Y Sefydliad a'r Unigolyn
- Athro yn Datblygu ei Hun
- Astudiaeth wedi’i thrafod – Astudiaethau Proffesiynol
- Arloesedd ac Athrawon
Gofynion derbyn
Ar gyfer y Dystysgrif Addysg i Raddedigion (PGCE) bydd disgwyl i chi fod â gradd gyntaf yn y pwnc y byddwch yn ei ddysgu. I gael mynediad i'r cwrs rhan-amser bydd rhaid i chi sicrhau 150 awr o addysgu ar gyfer cyfnod cyfan y cwrs, a hynny gyda sefydliad addysg neu hyfforddiant priodol. Ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bydd yn ofynnol i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 yn y pwnc yr hoffech ei addysgu.
Asesu
Mae tîm y cwrs yn barod i dderbyn defnydd creadigol o strategaethau asesu sy’n hwyluso a chefnogi arddulliau dysgwyr wrth ddysgu. Mae arsylwadau tiwtoriaid, mentoriaid a chyd-fyfyrwyr yn rhan annatod o’r rhaglen.

