|
Text begins here:
Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu
Mae diwydiant yn ganolbwynt i’w cyrsiau hyn, a thrwy eu hastudio byddwch ar y blaen yn y byd gweithgynhyrchu a mecaneg.
Prif ffeithiau
• Mae’r Brifysgol wrthi’n ceisio cael achrediad ar gyfer y cyrsiau newydd hyn gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) • Mae tîm y cwrs yn ymfalchïo yn ei staff brwdfrydig ac ymroddedig, ac fe gânt eu gwerthfawrogi’n fawr am ansawdd y cymorth a ddarperir i fyfyrwyr. Mae'r holl staff wrthi’n ymchwilio yn ogystal â dysgu. • Mae gan yr ardal gysylltiadau cryf gyda diwydiannau, cyrff proffesiynol a llawer o brifysgolion eraill, ac mae cyrff proffesiynol yn ymweld â ni yn rheolaidd mewn perthynas ag achredu cyrsiau. • Mae cymhwyster Meistr mewn peirianneg yn awr yn ofynnol os ydych yn dymuno bod yn Beiriannydd Siartredig. • Cewch brofiad o ddatblygiadau technolegol blaenllaw mewn technoleg drydanol ac electronig. • Cyfleusterau TG ac offer dadansoddi tra modern, a’r rheiny yn cefnogi elfennau ymchwil y radd yn ogystal â’r elfennau a ddysgir.
Mae’r angen a’r galw am beirianwyr mecanyddol a gweithgynhyrchu sydd â chymwysterau uchel ar eu huchaf erioed yn y Deyrnas Unedig. Mae adroddiad diweddar gan y llywodraeth yn cyflwyno gweledigaeth i'w chyflawni erbyn 2022 i sicrhau bod y Deyrnas Unedig ar flaen y gad yn fyd-eang mewn technoleg cynhyrchu awyrofod. Bydd ffocws y cwrs hwn ar ymchwil a datblygu mewn meysydd megis dadansoddi cyfrifiadurol, dylunio, gyriad uwch, adain gymysg, dylunio strwythurol, datblygiad deunyddiau cyfansawdd a datblygiadau uwch. Cynlluniwyd y cyrsiau MSc hyn mewn ymgynghoriad â diwydiant a byddant yn ymestyn dyfnder eich astudiaethau ym meysydd peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu i lefel uwch. Byddant yn rhoi’r gallu i chi integreiddio a datrys problemau mewn amrywiaeth o feysydd peirianneg ac yn rhoi'r hyder i chi arwain dylunio, datblygu a chymhwyso technoleg newydd ac arloesol.
Cyfleoedd gyrfa
Mae'r Cyngor Peirianneg yn awr yn ei gwneud yn ofynnol i Beiriannydd Siartredig fod â chymwysterau hyd at lefel Meistr neu gyfwerth, felly ni fu erioed amser gwell i ystyried astudio ar gyfer cymhwyster Meistr mewn peirianneg. Mae'r cwrs hwn wedi ei deilwra i ddiwallu anghenion cyflogwyr lleol gan eich galluogi i gael dyrchafiad gyrfa neu arbenigo mewn peirianneg fecanyddol neu weithgynhyrchu.
Cynnwys y cwrs
Bydd myfyrwyr yn gallu dewis prosiect ymchwil o ystod eang o bynciau gan roi cyfle iddynt ganolbwyntio ar eu cryfderau a dilyn eu diddordebau hwy eu hunain.
MSc Peirianneg Fecanyddol • Dulliau a Chynllunio Ymchwil • Dynameg Hylif Gyfrifiadurol Uwch • Dadansoddiadau Rhifedd a Strwythurau • Deunyddiau Datblygedig • Technolegau Gweithgynhyrchu Uwch • Llif Gludiog a Throsglwyddo Gwres • Traethawd estynedig
MSc Gweithgynhyrchu • Dulliau a Chynllunio Ymchwil • Dadansoddiadau Rhifedd a Strwythurau • Deunyddiau Datblygedig • Technolegau Gweithgynhyrchu Uwch • Systemau Cynhyrchu a Chydosod Uwch • Deunyddiau Cyfansawdd • Traethawd estynedig
MRes Peirianneg Fecanyddol MRes Gweithgynhyrchu Byddwch yn dilyn modiwlau o’r cyrsiau MSc perthnasol, ynghyd â phrosiect ymchwil helaeth.
Gofynion mynediad
Cynlluniwyd y cyrsiau hyn i fod llwybr ymlaen o radd israddedig gysylltiedig. Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs ond yn ansicr a fedrwch ymgeisio ai peidio, yna mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni.
Asesu
Cewch eich asesu trwy gydol eich cwrs drwy amryw o ddulliau gan gynnwys portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|