Text begins here:
Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol
Diploma Uwchraddedig/ MSc Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (Ymweld Iechyd)
Diploma Uwchraddedig/ MSc Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (Nyrsio Ysgol)
Diploma Uwchraddedig/ MSc Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (Nyrsio Iechyd Galwedigaethol )
Mae’r cyrsiau hyn ar gyfer nyrsys a bydwragedd cofrestredig sy’n dymuno arbenigo yn eu gyrfaoedd a chofrestru cymhwyster ychwanegol gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Bydd yr opsiynau arbenigol hyn yn eich galluogi i fynd i’r afael â materion iechyd cyhoeddus a’r modd y maent yn gysylltiedig o fewn cyd-destunau ymweld iechyd, nyrsio ysgol a nyrsio iechyd galwedigaethol.
Mae’r rhaglen astudio yn cynnwys theori a dysgu seiliedig-ar-ymarfer. Mae hyn yn galluogi nyrsys a bydwragedd cofrestredig i hybu eu sgiliau proffesiynol i lefel arbenigol yn un o’r tri llwybr a gynigir - ymweld iechyd, nyrsio ysgol neu nyrsio iechyd galwedigaethol.
Hyd y cwrs
Llawn amser
Ymweld Iechyd: 1 flwyddyn
Nyrsio Ysgol: 1 flwyddyn
Nyrsio Iechyd Galwedigaethol: 1 flwyddyn Rhan-amser
Ymweld Iechyd: 2-3 blynedd
Nyrsio Ysgol: 2-3 blynedd
Nyrsio Iechyd Galwedigaethol: 2-3 blynedd Lleoliad: Wrecsam Mis dechrau: Medi
Cyn i chi gael cynnig lle ar y cwrs hwn, bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas i weithio gyda phlant ac oedolion bregus.
Mae cynllun y rhaglen yma wedi ei seilio ar ymarfer iechyd cyhoeddus. Mae hyn yn cydfynd â’i hamcan cyffredinol a’r gofynion statudol a restrir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB).
Prif ffeithiau
- Bydd cwblhau’r ddiploma uwchraddedig yn llwyddiannus yn eich galluogi i gofrestru ar Ran III o gofrestr y CNB ac ymarfer fel Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (ymwelydd iechyd, nyrs ysgol neu nyrs iechyd galwedigaethol)]
- Os ydych yn cwblhau’r rhaglen Rhagnodi Nyrs Cymunedol V100 (a integreiddir yn y modiwlau Ymarfer Arbenigol) byddwch yn gallu cofnodi’r cymhwyster gyda’r CNB
- Mae’r radd yma yn eich paratoi chi ar gyfer ymarfer trwy ddysgu ac asesu yn y cyd-destun ymarfer
- Mae myfyrwyr yn cael y cyfle i ddychwelyd traethawd hir yn rhan-amser a chael y radd Meistr, yn dilyn cyfnod o gyfuno ymarfer (blwyddyn fel arfer)
Cyfleoedd gyrfa
Cwblhewch y rhaglen a byddwch yn gallu asesu a rheoli risg a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy trwy ddefnyddio eich pen a’ch pastwn eich hun ac ymgymryd â chyfrifoldeb personol. Bydd cwblhau’r diploma uwchraddedig yn llwyddiannus yn eich galluogi i gofrestru’r cymhwyster Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (ymweld iechyd, nyrsio ysgol neu nyrsio iechyd galwedigaethol ) a chofnodi’r cymhwyster Rhagnodi Nyrs Cymunedol gyda’r CNB. Bydd yn datblygu eich sgiliau gwerthuso, gwreiddioldeb mewn meddwl ac ymchwil, felly pe baech yn penderfynu astudio hyd at lefel Meistr, fe allech fynd ymlaen i ymgymryd ag astudiaeth ar lefel Ddoethurol.
Modiwlau’r cwrs
- Dulliau Ymchwil mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Materion Proffesiynol ac Arweinyddiaeth
- Hybu Iechyd ac Addysg
- Polisi ac Ymarfer Iechyd Cyhoeddus
- Prosiect Asesu Anghenion Iechyd
- Modiwl (Lefel 6) Datblygiad Proffesiynol Parhaus (Portffolio)
Modiwl llwybr benodol
- Ymweld Iechyd Ymarfer Arbenigol
- Nyrsio Ysgol Ymarfer Arbenigol
- Nyrsio Iechyd Galwedigaethol Ymarfer Arbenigol
Goynion mynediad
Mae’r radd anrhydedd mewn nyrsio neu ddisgyblaeth gytras yn ofynnol. Mae angen i chi hefyd fod yn gyflogedig mewn rôl nyrsio iechyd cyhoeddus (e.e. nyrsio ysgol, ymweld iechyd neu nyrsio iechyd galwedigaethol) neu fod yn gallu sicrhau lleoliad sy’n cyfateb i’r uchod, meddu ar gofrestriad cyfredol fel nyrs neu fydwraig gyda’r CNB, a meddu ar o leiaf dwy flynedd o brofiad nyrsio ôl-gofrestru.
Asesu
Aseiniadau ysgrifenedig, myfyrdodau, arholiadau byr a phortffolio sy’n asesu cymhwysedd wrth ymarfer.
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|