Gofal Lliniarol Rhyngddisgyblaethol
MSc mewn Gofal Lliniarol Rhyngddisgyblaethol
Diploma Uwchraddedig mewn Gofal Lliniarol Rhyngddisgyblaethol
Tystysgrif Uwchraddedig mewn Gofal Lliniarol Rhyngddisgyblaethol
Mae gofal lliniarol yn ymwneud â sicrhau’r ansawdd byw gorau ar gyfer cleifion a’u teuluoedd. Mae gofal lliniarol yn aml yn cynnwys rheoli poen a darparu cefnogaeth seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol.
Mae’r cwrs wedi ei seilio ar arfer gofal lliniarol blaenllaw ac wedi’i gefnogi gan staff clinigol gyda lefelau uchel o arbenigedd. Mae’n datblygu ymarferwyr i feistroli eu hymarfer a chefnogi cleifion a’u teuluoedd yn effeithiol mewn unrhyw leoliad.
Cynigir y cwrs fel darpariaeth ryngddisgyblaethol ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob maes o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae rhan allweddol o’r cwrs yn fyfyrdod beirniadol ar arfer clinigol a materion sy’n berthnasol i ofal lliniarol. Mae hyn yn annog ymarferwyr i rannu eu gwybodaeth a’u sgiliau ar lefel uwch. Bydd yn datblygu ymwybyddiaeth o’r agwedd ryngddisgyblaethol sy’n ganolog i ofal lliniarol.
Fe allai myfyrwyr iechyd proffesiynol ddewis llwybr sydd â ffocws clinigol ac yn cynnwys cael cymhwyster Rhagnodi Anfeddygol a gydnabyddir gan eu Corff Statudol neu Reolaethol Proffesiynol.
Prif ffeithiau
- Rhaglen ryngddisgyblaethol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, addas ar gyfer ymarferwyr meddygol, nyrsys, gweithwyr proffesiynol iechyd perthynol a gweithwyr cymdeithasol. Gallai rhai modiwlau fod o ddiddordeb i glerigwyr
- Cael cyflwyniad i theori ac ymarfer blaenllaw ym maes gofal lliniarol
- Cael cymhwyster ychwanegol cofnodadwy gyda’r corff proffesiynol perthnasol mewn Rhagnodi Anfeddygol
- Darparu hyfforddiant cadarn mewn dulliau ymchwil gofal iechyd i’r rheiny sy’n dymuno cwblhau’r radd Meistr
- Mae gan y Brifysgol gysylltiadau agos gydag ysbytai a hosbisau yn yr ardal
Hyd y cwrs
Rhan-amser:
MSc: 3-5 blynedd
Diploma Uwchraddedig: 2-3 blynedd
Tystysgrif Uwchraddedig: 1 flynedd
Lleoliad: Wrecsam
Mis dechrau: Medi
Cyfleoedd gyrfa
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i wella eich sgiliau a’ch gwybodaeth personol a phroffesiynol mewn gofal lliniarol rhyngddisgyblaethol. Bydd y rhaglen Meistr lawn yn eich paratoi i ymgymryd ag astudiaeth lefel Ddoethuriaeth. Bydd yn gwella eich arbenigedd ymchwil, a dyma’r llwyfan delfrydol i ddatblygu eich sgiliau gwerthuso a synthesis tuag at wreiddioldeb meddwl.
Modiwlau’r cwrs
Llwybr Clinigol
- Gofal Lliniarol : Rheoli Symptomau
- Moeseg Gwneud Penderfyniadau mewn Gofal Lliniarol
- Cefnogaeth Seicogymdeithasol mewn Gofal Lliniarol
- Rheolaeth Gofal Cyfannol mewn Gofal Lliniarol
- Rhagnodi Annibynnol ar gyfer Nyrsys a Fferyllwyr neu Ragnodi Atodol ar gyfer Gweithwyr Iechyd Perthynol Proffesiynol
- Dulliau Ymchwil mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Mentora a Grymuso
- Arweinyddiaeth a Materion Proffesiynol
- Polisi ac Ymarfer mewn Hybu Iechyd Cynyddol
- Naratifau: Theori a Dull
- Modiwl Trafodedig mewn Gofal Lliniarol Rhyngddisgyblaethol
- Traethawd Hir
Llwybr Anfeddygol
- Moeseg Gwneud Penderfyniadau mewn Gofal Lliniarol
- Cefnogaeth Seicogymdeithasol mewn Gofal Lliniarol
- Mentora a Grymuso
- Arweinyddiaeth a Materion Proffesiynol
- Dulliau ymchwil mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Polisi ac Ymarfer mewn Hybu Iechyd Cynyddol
- Naratifau: Theori a Dull
- Modiwl Trafodedig mewn Gofal Lliniarol Rhyngddisgyblaethol
- Traethawd Hir
Gofynion mynediad
Bydd angen i chi feddu ar radd mewn pwnc iechyd neu faes cyffelyb; neu gymhwyster anraddedig mewn pwnc iechyd neu faes cyffelyb a ystyrir gan y Brifysgol i fod yn foddhaol ar gyfer astudiaeth uwchraddedig. Os nad oes gennych radd, gallech gael eich derbyn ar y cwrs ar yr amod eich bod yn ymarfer ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol a’ch bod, am o leiaf dwy flynedd, wedi dal swydd gyfrifol sy’n berthnasol i’r cynllun dan sylw. Ar wahân i gymwysterau mynediad, mae angen i chi ddangos i’r panel cyfweld eich bod yn gallu cynhyrchu gwaith academaidd o’r safon sy’n angenrheidiol er mwyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Asesu
Myfyrdod beirniadol ysgrifenedig, astudiaeth achos a dadansoddiad beirniadol o senario wedi’i fideorecordio. Mae arholiadau yn ofynnol yn y modiwlau rhagnodi.

