Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ymarfer Cymunedol Arbenigol

MSc Ymarfer Cymunedol Arbenigol
(Nyrsio Ardal, Nyrsio Meddygfa Deuluol, Nyrsio Plant Cymunedol)

Mae’r MSc Ymarfer Cymunedol Arbenigol yn cynnwys theori a dysgu seiliedig ar ymarfer. Mae’n eich galluogi i hybu eich sgiliau proffesiynol i lefel arbenigol mewn un o dri llwybr – nyrsio ardal, nyrsio meddygfa deuluol a nyrsio plant cymunedol. Mae cynllun y rhaglen yn unol â’r gofynion statudol a osodwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB). Y mae wedi ei seilio mewn ymarfer nyrsio cymunedol yn y meysydd a ddynodwyd. 

Nodweddion arbennig

  • Cwblhewch y diploma uwchraddedig yn llwyddiannus a gallwch gofnodi cymhwyster Ymarfer Cymunedol Arbenigol gyda’r CNB fel nyrs ardal, nyrs meddygfa deuluol neu nyrs plant cymunedol.
  • Cwblhewch y rhaglen Rhagnodi Nyrs Cymunedol (V100) yn llwyddiannus a byddwch hefyd yn gallu cofnodi’r cymhwyster yma gyda’r CNB.
  • Mae’r radd yn eich paratoi ar gyfer ymarfer trwy ddysgu ac asesu yn y cyd-destun ymarfer.
  • Byddwch yn gallu cyflwyno asesiadau yn Gymraeg neu Saesneg.
  • Os ydych yn dymuno, gallwch ddychwelyd i gwblhau traethawd estynedig yn rhan amser a chael y radd meistr yn dilyn cyfnod o gadarnhau ymarfer – un mlynedd fel arfer.

Cyfleoedd gyrfaol

Cwblhewch y rhaglen a byddwch yn gallu asesu a rheoli risg. Byddwch hefyd yn hyderus i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy trwy ddefnyddio eich pen a’ch pastwn eich hun ac ymgymryd â chyfrifoldeb personol.

Cwblhewch y diploma uwchraddedig yn llwyddiannus a gallwch gofnodi cymwysterau nyrs ardal, nyrs meddygfa deuluol neu nyrs plant cymunedol a nyrs gymunedol sy’n rhagnodi gyda’r CNB. Os byddwch yn dewis cario ymlaen i astudio ar lefel meistr, byddwch yn gallu mynd ymlaen i ymgymryd ag astudiaeth ar lefel ddoethurol. Bydd y rhaglen lefel meistr yn hybu eich arbenigedd ymchwil ac yn datblygu eich sgiliau mewn gwerthuso a gwreiddioldeb meddwl.  

Cynnwys y cwrs

  • Proses Ymholi
  • Materion Proffesiynol ac Arweinyddiaeth
  • Hybu Iechyd ac Addysg
  • Rhagnodi Nyrs Cymunedol (Lefel 6)
  • Modiwl (Portffolio) Datblygiad Proffesiynol Parhaus (Lefel 6)

Modiwlau llwybr benodol

Llwybr Nyrsio Ardal

  • Trin Afiechydon Cronig
  • Gofal Lliniarol

Llwybr Nyrsio Meddygfa Deuluol

  • Mân Anhwylderau
  • Trin Clefyd Coronaidd y Galon yn y Gymuned
    neu
  • Trin Afiechydon Cronig

Llwybr Nyrsio Plant Cymunedol

  • Gweithio gyda Theuluoedd
  • Trin Plant Sâl o fewn y Gymuned

Asesu

Aseiniadau ysgrifenedig, myfyrdodau ac arholiadau byr, a phortffolio sy’n asesu gallu mewn ymarfer.

Gofynion mynediad

Bydd arnoch angen gradd anrhydedd mewn nyrsio neu ddisgyblaeth gytras; er mwyn cael eich cyflogi mewn swydd nyrsio cymunedol (h.y. nyrsio ardal, nyrsio meddygfa deuluol or nyrsio plant cymunedol) neu allu sicrhau lleoliad sy’n gyfwerth â’r uchod; cael o leiaf 2 flynedd o brofiad nyrsio ôl-gofrestru a chwrdd â’r gofynion proffesiynol ar gyfer eich dewis lwybr.

Y rhain yw:

Ar gyfer y llwybr nyrsio ardal: bod wedi’ch cofrestru ar Ran 1 o Gofrestr y CNB (sy’n cyfateb i Rannau 1 neu 12 o Gofrestr yr UKCC.

Ar gyfer y llwybr nyrsio meddygfa deuluol: bod wedi’ch cofrestru ar Ran 1 o Gofrestr y CNB (sy’n cyfateb i Rannau 1, 8, 12 neu 15 o Gofrestr yr UKCC).

Ar gyfer y llwybr nyrsio plant cymunedol: bod wedi’ch cofrestru ar Ran 1 o Gofrestr y CNB (sy’n cyfateb i Rannau 8 neu 15 o Gofrestr yr UKCC).

Gweler hefyd y wybodaeth am yr .

Hyd y cwrs

Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk