Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Uwch Dechnegau Electronig

MSc Uwch Dechnegau Electronig

Os ydych eisiau bod wrth graidd dyfeisiadau, mae’r MSc Technegau Electronig Uwch yn ddelfrydol i chi. Defnyddiwch eich creadigrwydd ynghyd â’ch gwybodaeth am electroneg i wella dyfodol electronig sy’n newid drwy’r amser. 

Mae’r cwrs yn arbenigo mewn profi a dylunio, gan gwmpasu modiwlau ar Ddylunio Systemau Gosodedig, Dylunio Amledd Radio a Phrosesu Signal Digidol Uwch gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.

Nodweddion arbennig

  • Cefnogaeth ragorol ar gael i fyfyrwyr o fewn amgylchedd dysgu/ymchwil.
  • Cael cyflwyniad i ddatblygiad technolegol blaenllaw mewn electroneg.
  • Cyfleusterau TG ac offer dadansoddi tra modern yn cefnogi elfennau a addysgir ac ymchwil y radd.

Cyfleoedd gyrfaol

Mae’r cwrs yn ddelfrydol os ydych yn raddedig sydd eisoes yn gweithio mewn electroneg ac eisiau diweddaru eich sgiliau i hybu eich cyfleoedd gyrfaol. Y mae hefyd yn addas os ydych newydd raddio ac yn ceisio cael sgiliau uwch, neu os ydych wedi graddio o ddisgyblaeth gysylltiedig ond eisiau newid cyfeiriad eich gyrfa. Ar ôl cwblhau’r MSc Technegau Electronig Uwch, byddwch yn gallu cael swydd ar lefel uwch. Fe allai hyn olygu ymchwil academaidd, gan gynnwys astudio ar lefel ddoethuraidd.

Cynnwys y cwrs

  • Dulliau Ymchwil
  • Rheoli prosiect
  • Peirianneg Amledd Radio
  • CAD Uwch
  • Dylunio Systemau Gosodedig
  • Prosesu Delweddau Digidol
  • Prosesu Signal Digidol Uwch
  • Systemau Rheoli Uwch
  • Dylunio a Phrofi Electronig Uwch
  • Traethawd Estynedig/Prosiect Ymchwil

Asesu

Fe’ch asesir trwy gydol eich cwrs gan amryw o ddulliau gan gynnwys portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.

Gofynion mynediad

Gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn disgyblaeth beirianneg briodol.

Hyd y cwrs

Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk