Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

MSc Technegau Electronig Uwch*

Mae cynllunio systemau electroneg modern yn gofyn am wybodaeth a sgiliau o ystod eang o bynciau, yn cwmpasu electroneg analog a digidol mewn amgylchedd sy’n seiliedig ar ddyfeisiau deallus, yn ogystal â gweledigaeth o ddatblygiadau newydd yn y dyfodol.

Dyma eich cyfle i ddefnyddio eich creadigrwydd ynghyd â’ch gwybodaeth am electroneg i wella a chyfrannu at ddyfodol electronig sy’n newid drwy’r amser.

Os ydych eisiau bod wrth graidd dyfeisiadau electronig, yna mae’r MSc Technegau Electronig Uwch yn ddelfrydol i chi.
Mae’r cwrs hwn yn darparu astudiaethau dadansoddi craidd yn ymwneud â thri phrif faes electroneg, sef:
• Electroneg analog uwch (gan gynnwys dylunio amledd radio)
• Dylunio system ddigidol osodedig (microbrosesydd ac araeau maes giât rhaglenadwy)
• Dylunio system prawf awtomatig

Mae opsiynau hefyd ar gyfer meysydd cyffrous prosesu digidol a delweddau neu systemau rheoli.
Mae'r traethawd estynedig (un rhan o dair o amser y cwrs) yn eich galluogi i ddatblygu unrhyw ddiddordeb arbenigol sydd gennych er mwyn dod yn arbenigwr yn y pwnc hwnnw.

MSc Technegau Electronig Uwch PIC

Prif ffeithiau

• Cefnogaeth ragorol ar gael i fyfyrwyr o fewn amgylchedd dysgu/ymchwil.
• Profiad o ddatblygiadau technolegol blaenllaw mewn electroneg.
• Cyfleusterau TG ac offer dadansoddi tra modern, a’r rheiny yn cefnogi elfennau ymchwil y radd yn ogystal â’r elfennau a ddysgir.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae’r cwrs yn ddelfrydol os ydych wedi graddio ac eisoes yn gweithio yn y maes electroneg ac eisiau diweddaru eich sgiliau er mwyn mynd ymhellach yn eich gyrfa. Y mae hefyd yn addas os ydych newydd raddio ac yn ceisio cael sgiliau uwch, neu os ydych wedi graddio o ddisgyblaeth arall sy’n gysylltiedig ond eisiau newid cyfeiriad eich gyrfa.
Ar ôl cwblhau’r MSc Technegau Electronig Uwch yn llwyddiannus, dylech fedru mynd ymlaen i swydd fel peiriannydd dylunio electroneg ar lefel uwch.
Gallai hyn olygu ymchwil academaidd, gan gynnwys astudio ar lefel doethur.

Cynnwys y Cwrs

• Dulliau Ymchwil
• Dylunio a Datblygiadau Newydd Cynaliadwy
• Electroneg Amledd Radio
• Dylunio Systemau Gosodedig
• Prosesu Signal a Delwedd Uwch (Opsiwn)
• Opsiynau Systemau Rheoli Uwch
• Dylunio a Phrofi Electronig Uwch
• Traethawd Estynedig/Prosiect Ymchwil

Gofynion mynediad

Gradd gyntaf dda neu gyfwerth mewn disgyblaeth beirianneg briodol.

Asesu

Cewch eich asesu trwy gydol eich cwrs drwy amryw o ddulliau gan gynnwys gwaith ymarferol, portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.

*yn amodol ar gael ei ddilysu

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk