Text begins here:
MSc Systemau Cyfathrebu Digidol ac Amledd Radio
Cyfathrebu drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd, ffôn, ffonau symudol, teledu, radio a chyfrifiadur personol – mae'r rhain yn dod yn fwyfwy integredig mewn rhwydwaith cyfunol sy’n seiliedig ar delathrebu.
Mae'r cwrs hwn yn archwilio ac yn datblygu eich gallu i harneisio’r datblygiadau technolegol hyn ac i ddeall y beirianneg sydd y tu ôl iddynt er mwyn i chwithau hefyd fod yn rhan o'r chwyldro.
Prif ffeithiau
- Mae’r Brifysgol wrthi’n ceisio cael achrediad ar gyfer y MSc hwn gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET)
- Mae tîm y cwrs yn ymfalchïo yn ei staff brwdfrydig ac ymroddedig ac fe gânt eu gwerthfawrogi’n fawr am ansawdd y cymorth a ddarperir i fyfyrwyr. Mae'r holl staff wrthi’n ymchwilio yn ogystal â dysgu
- Mae gan yr ardal gysylltiadau cryf â diwydiannau, cyrff proffesiynol a llawer o brifysgolion eraill, ac mae cyrff proffesiynol yn ymweld â ni yn rheolaidd mewn perthynas ag achredu cyrsiau
- Mae cymhwyster Meistr mewn peirianneg bellach yn angenrheidiol os ydych yn dymuno bod yn Beiriannydd Siartredig
- Cewch brofiad o ddatblygiadau technolegol blaenllaw mewn technoleg drydanol ac electronig
- Cyfleusterau TG ac offer dadansoddi tra modern, a’r rheiny yn cefnogi elfennau ymchwil y radd yn ogystal â’r elfennau a ddysgir.
Mae cynnydd mewn technoleg ddigidol yn golygu bod teledu digidol, y rhyngrwyd, ffonau symudol, rhwydweithiau yn y cartref, cyfrifiaduron personol a gwasanaethau ffôn cyhoeddus yn cael eu cyfuno fwyfwy i systemau sengl integredig. Mae hyn wedi creu galw am beirianwyr sydd â’r wybodaeth arbenigol hon.
Caiff y rhaglen hon ei harwain gan grŵp ymchwil sydd ag enw da yn rhyngwladol ac sydd â hanes hir o lwyddiannau yn datblygu systemau a throsglwyddiadau electronig. Mae’r rhaglen hon yn rhoi dealltwriaeth i’r myfyrwyr o’r datblygiadau technolegol diweddaraf o ran trosglwyddo a derbyn – gan gwmpasu’r cyfryngau digidol ac analog, ond yn pwysleisio'r datblygiadau modern a newydd.
Cyfleoedd gyrfa
Mae'r Cyngor Peirianneg yn awr yn ei gwneud yn ofynnol i Beiriannydd Siartredig fod â chymwysterau hyd at lefel Meistr neu gyfwerth, felly ni fu erioed amser gwell i ystyried astudio ar gyfer cymhwyster Meistr mewn peirianneg.
Mae'r cwrs hwn wedi ei deilwra i ddiwallu anghenion cyflogwyr lleol gan eich galluogi i gael dyrchafiad gyrfa neu arbenigo mewn cyfathrebu digidol.
Mae hyn yn arbennig o amserol gan fod cynifer o sefyllfaoedd ledled y byd bellach yn dibynnu ar gyfathrebu lloeren a symudol.
Cynnwys y cwrs
Gallwch ddewis prosiect ymchwil o ystod eang o bynciau sy’n rhoi’r cyfle i chi ganolbwyntio ar eich cryfderau a dilyn eich diddordebau penodol eich hun.
Efallai y gellid cysylltu eich prosiect ymchwil â’ch gwaith cyflogedig.
- Dulliau Ymchwil a Rheoli prosiect
- Dylunio a Datblygiadau Newydd Cynaliadwy
- Traethawd hir
Mae meysydd eraill y sonnir amdanynt ar y cwrs yn cynnwys: systemau cyfathrebu digidol, antenau, lledaenu a dylunio caledwedd amledd radio, modiwleiddio, codio, protocolau ac orbitau lloeren, yn ogystal â chaledwedd a meddalwedd digidol sy’n berthnasol i'r diwydiant telathrebu.
Gofynion mynediad
Cynlluniwyd yr MSc fel llwybr ymlaen o radd israddedig gysylltiedig gan gynnwys graddau peirianneg sain. Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs ond yn ansicr a ddylech ymgeisio ai peidio, yna mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni.
Asesu
Cewch eich asesu trwy gydol eich cwrs drwy amryw o ddulliau gan gynnwys portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|