Head divider

Seicoleg Crefydd

MSc Seicoleg Crefydd

Mae Seicoleg Crefydd yn faes cyffrous sy’n datblygu trwy’r adeg o fewn maes seicoleg. Bydd y cwrs yma yn eich galluogi i ddeall pam fod pobl yn credu yr hyn y maen nhw a’r modd y mae hyn yn ymwneud â’r ffordd y mae pobl yn meddwl ac yn ymddwyn. 

Mae’r cwrs yma yn rhoi cyfle rhagorol i’r rheiny sydd â diddordeb yn y berthynas rhwng seicoleg a chrefydd i ddwysáu ac ehangu eu dealltwriaeth o’r maes yma hyd at lefel Meistr. Mae seicoleg crefydd yn rhoi arolwg o ddamcaniaethau clasurol seicoleg crefydd, ac asesiad manwl o ymchwil gyfredol o fewn y maes. Bydd y cwrs yn eich darparu gyda sail ddamcaniaethol ar gyfer deall crefydd, ac ar gyfer deall y rôl y mae crefydd yn ei chwarae o fewn bywyd unigolyn. Bydd yna gyfleoedd hefyd i archwilio eich meysydd o ddiddordeb ymhellach.

MSc psych religion welsh pic

Prif ffeithiau

  • Bydd y cwrs yn cael ei gyflenwi yn bennaf trwy e-ddysgu
  • Mae ein hadran seicoleg yn ymchwil-weithredol yn y maes arbenigol yma
  • Bydd y cwrs yma yn eich darparu gyda’r sgiliau angenrheidiol i gynnal eich astudiaeth empirig eich hun

Cyfleoedd gyrfa

Bydd y cwrs yma o ddiddordeb i’r rheiny sy’n gweithio mewn gyrfaoedd sy’n gofyn am ddealltwriaeth o gredoau a gwerthoedd pobl: e.e. clerigwyr, gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, gweithwyr cymdeithasol, seicolegwyr ac athrawon. Mae’n darparu sylfaen ragorol ar gyfer astudiaeth bellach o fewn maes seicoleg crefydd.

Hyd y cwrs

Llawn-amser:
Blwyddyn
E-ddysgu
Mis dechrau: Medi

Rhan-amser:
3 blynedd
E-ddysgu
Mis dechrau: Medi

Fe allai gwiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) fod yn angenrheidiol i rai myfyrwyr yn dibynnu ar ffocws eu hastudiaeth annibynnol.

Modiwlau’r cwrs

Mae’r modiwlau mynegol yn cynnwys:

  • Seicoleg Crefydd - cyflwyniad
  • Dulliau Ymchwil
  • Iechyd Meddwl, Crefydd a Diwylliant 
  • Gwahaniaethau Unigol a Chrefydd
  • Seicoleg Gymdeithasol Profiad Crefyddol, Credo ac Ymddygiad
  • Seicoleg Gadarnhaol a Chrefydd
  • Modiwl cynhadledd
  • Traethawd hir

Gofynion mynediad

Mae’r rhaglen hon yn agored i raddedigion Seicoleg a graddedigion mewn disgyblaethau eraill. Disgwylir i’r myfyrwyr fod wedi cael gradd anrhydedd dosbarth 2.2 o leiaf.

Asesu

Defnyddir amrywiaeth eang o asesiadau, gan gynnwys traethodau, adolygiadau llyfrau, cyflwyniadau poster a thraethawd hir.

Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau, cysylltwch â’n tîm ymholiadau a derbyn