Rhwydweithio Cyfrifiadurol
MSc Rhwydweithio Cyfrifiadurol
Mae’r MSc mewn Rhwydweithio Cyfrifiadurol yn canolbwyntio ar theori a chymwysiadau rhwydweithio ymarferol. Cyflwynir y cefndir fel y bo’n briodol, ond mae’r rhaglen yn delio yn bennaf gyda datrys problemau a darparu gwasanaethau rhwydwaith go iawn gan ddefnyddio caledwedd a phrotocolau rhywdwaith cyfredol a newydd. Y mae hefyd yn edrych ar ddatblygiad cymwysiadau er mwyn elwa ar y technolegau hyn.
Yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol, byddwch yn ymwneud â chymhwysiad ymarferol dylunio rhwydwaith, gweithredu, datrys problemau a rheolaeth ar gyfer problemau’r byd go iawn. Bydd y cwrs yn eich annog i ganolbwyntio ar sgiliau ymarferol, tra’n eich darparu gyda’r sgiliau ymchwil, annibynnol, meddwl yn feirniadol a gwneud penderfyniadau sydd eu hangen mewn amgylchedd gwaith sy’n symud mor gyflym ac yn llawn her.
Nodweddion arbennig
- Datblygu sgiliau rhwydweithio a thechnoleg gwybodaeth proffesiynol, lefel-uchel.
- Darpariaeth hyblyg – amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu gan gynnwys cyfleusterau ar-lein.
- Mae gan Brifysgol Glyndŵr labordy rhwydweithio CISCO ag offer llawn ac mae hyfforddiant CISCO opsiynol ar gael yn ogystal â’r rhaglen MSc.
- Addysgir gan staff sy’n arwain ymchwil i feysydd y rhyngrwyd a rhwydweithiau cyfrifiadurol. Mae gweithgareddau ymchwil yn gysylltiedig â grŵp ymchwil cyfrifiadura’r Brifysgol, y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Rhyngrwyd Gymwysedig (CAIR).
- Gallwch wneud cais ar gyfer aelodaeth myfyriwr neu broffesiynol o Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain. Bydd y lefel briodol o aelodaeth yn dibynnu ar eich cymhwyster a’ch profiad. Bydd angen i chi dalu’r ffi aelodaeth briodol yn ogystal.
- Arholiadau ac aseiniadau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Cyfleoedd gyrfaol
Gallwch ddisgwyl dod o hyd i waith fel rheolwr rhwydwaith, dadansoddwr rhwydwaith, arbenigwr cyfathrebiadau, ymgynghorydd diogelwch rhwydwaith, cynghorydd polisi rhwydwaith neu mewn swyddi eraill sy’n galw am ddealltwriaeth ddofn o dechnolegau rhwydwaith.
Os ydych yn dymuno astudio ymhellach, byddwch mewn lle da i ddechrau ymchwil ar lefel ddoethuriaeth ym maes rhwydweithiau cyfrifiadurol.
Cynnwys y cwrs
- Sgiliau Ymchwil ac Astudiaeth Uwchraddedig
- Rhwydweithiau Ardal Leol
- Rhwydweithiau Ardal Eang
- Gosod Rhwydwaith, Rheolaeth a Datrys Problemau
- Diogelwch Rhwydwaith
- Algorithmau Rhwydwaith
- Caledwedd a Meddalwedd Rhwydwaith
- Technoleg Newydd a’r Dyfodol
- Traethawd Estynedig
Asesu
Adroddiadau ysgrifenedig, ymarferion ymarferol, arteffactau meddalwedd ac arholiadau.
Gofynion mynediad
Gradd israddedig mewn disgyblaeth cyfrifiadura neu gysylltiedig â thechnoleg.
Hyd y cwrs
Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd

