Text begins here:
Rheolaeth Risg Amgylcheddol a Galwedigaethol
MSc Rheolaeth Risg Amgylcheddol a Galwedigaethol*
Mae’r MSc yma yn cydnabod y galw cynyddol gan gyrff gorfodaeth a diwydiannol i gyfuno materion iechyd, diogelwch, ac amgylcheddol galwedigaethol mewn modd moesegol. Yn ogystal ag edrych ar ffyrdd i wella iechyd a lles yn gyffredinol yn ogystal ag yn y gwaith, mae’n edrych ar y modd y gellir lleihau anghydraddoldeb mewn iechyd.
Prif ffeithiau
- Mae’r cwrs yn archwilio’r berthynas rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a lles, gan edrych ar systemau iechyd yn rhyngwladol, a materion cyfredol yn y gweithle. Y mae hefyd yn astudio ymarferion, egwyddorion a chysyniadau damcaniaethol sy’n gysylltiedig ag iechyd amgylcheddol iechyd a gwella iechyd
- Defnyddir amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu gan gynnwys peth cyflenwi ar-lein
- Byddwch yn datblygu gwerthfawrogiad beirniadol o’r sgiliau sydd eu hangen i ymarfer rheolaeth risg amgylcheddol a galwedigaethol. Mae’r rhain yn cynnwys rheolaeth ac arweinyddiaeth strategol, datrys problemau a gweithio amlddisgyblaethol.
Hyd y cwrs
Llawn amser: 1 flynedd Rhan-amser: 3 blynedd Lleoliad: Wrecsam Mis dechrau: Medi
* yn amodol ar gael ei ddilysu
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd mewn risgiau iechyd yn y gweithle ac ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol. Rydym wedi gweld y bygythiad o afiechydon heintus yn lledaenu ar raddfeydd pandemig. Mae gordewdra erbyn hyn yn fater tyngedfennol i ganran uchel o’r boblogaeth. Gwelwyd cynnydd mewn risgiau yn y gweithle wedi’u hachosi gan gamddefnydd alcohol a chyffuriau. Mae gan bob un o’r materion hyn ganlyniadau difrifol i fusnesau, yr economi a’r boblogaeth yn gyffredinol.
Nod y cwrs yw eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o oblygiadau iechyd amodau amgylcheddol a galwedigaethol mewn amryw o amodau cymdeithasol ac yn y gweithle. Mae’r cwrs yn amcanu i’ch darparu gyda dealltwriaeth feirniadol o brif ddisgyblaethau iechyd amgylcheddol a galwedigaethol, ei gysylltiadau gydag iechyd amgylcheddol, a rheoli iechyd poblogaethau.
Mae’r meysydd y canolbwyntir arnynt yn cynnwys epidemioleg, iechyd amgylcheddol, hybu iechyd, diogelu iechyd, cadw golwg ar iechyd, rheoli digwyddiadau ac achosion, datblygiad polisi cymdeithasol, galwedigaethol ac amgylcheddol, a moeseg.
Trwy’r cwrs byddwch hefyd yn gallu: asesu risgiau iechyd amgylcheddol a gawledigaethol, cynghori eraill ynghylch materion iechyd neu amgylcheddol; gweithio ar y cyd ar faterion iechyd amgylcheddol aml-asiantaethol; datblygu, cynllunio ac ymgymryd ag ymchwil annibynnol i bynciau sy’n berthnasol i iechyd cyhoeddus, dadansoddi a thraddodi eich canfyddiadau i gynulleidfaoedd perthnasol; ac arddangos sgiliau ymarferol wrth ddelio gyda newidiadau o fewn cyrff iechyd amgylcheddol a galwedigaethol.
Cyfleoedd gyrfa
Mae’r cwrs yn darparu sail dda ar gyfer gyrfaoedd mewn iechyd amgylcheddol a galwedigaethol. Mae’n darparu sylfaen gadarn os ydych eisoes yn gweithio mewn rheolaeth risg, diogelu iechyd, hybu iechyd neu ddatblygu a gwerthuso polisi.
Mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer datblygiad gyrfaol tuag at swyddi uwch a rheolaethol yn y sector iechyd amgylcheddol a galwedigaethol. Mae yna gyfleoedd gwaith mewn cyrff llywodraethol ac anllywodraethol, yn ogystal ag asiantaethau eraill sy’n ymwneud ag iechyd. Mae gyrfa mewn ymchwil neu ymarfer mewn amryw o leoliadau cyhoeddus a rhyngwladol yn bosibilrwydd arall.
Cynnwys y cwrs
- Dulliau Ymchwil
- Iechyd Amgylcheddol a Diogleu Iechyd
- Iechyd a Hylendid Galwedigaethol
- Arweinyddiaeth mewn Rheolaeth Risg Amgylcheddol a Galwedigaethol
- Traethawd hir
Opsiynau:
- Rheolaeth Risg Amgylcheddol
- Ymchwilio i Ddamweiniau a Delio gyda Chanlyniadau
- Rheolaeth Risg
- Dysgu Trafodedig
Gofynion mynediad
Os ydych yn gwethio ar hyn o bryd, neu os oes gennych gymwysterau yn barod yn y maes yma ac yr hoffech hyrwyddo eich astudiaethau academaidd, mae’r cwrs yma yn ddelfrydol i chi. Bydd yn datblygu eich gwybodaeth yn y maes yma yn ogystal â’ch sgiliau arwain a galwedigaethol.
Rydych yn ddelfrydol o addas os ydych yn gweithio i un o’r cyrff canlynol ar hyn o bryd: awdurdodau lleol; adrannau iechyd amgylcheddol; ymgynghoriaethau amgylcheddol; adrannau iechyd galwedigaethol; cwmnïau iechyd a diogelwch; neu os ydych yn astudio’r pwnc ar gyfer eich gradd.
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|