Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Rheolaeth

MSc Rheolaeth

Mae’r byd Rheolaeth yn datblygu drwy'r amser, gan addasu i ffyrdd rheoli gwahanol ac amrywiol mewn arweinyddiaeth. Bydd y cwrs MSc Rheolaeth hwn yn rhoi’r hyder i chi gydbwyso anghenion pobl ag effeithlonrwydd y dasg mewn byd sy’n brin ei adnoddau.

Bydd ein MSc mewn Rheolaeth yn rhoi addysg eang mewn rheoli a busnes i chi. Bydd yn datblygu eich sgiliau dadansoddi a’ch sgiliau ymwneud â phobl, gan eich galluogi i ddefnyddio eich gwybodaeth yn greadigol, a gwella rheolaeth ac arferion busnes.

Cewch ennill persbectif eang ar faterion rheoli a busnes a'r amgylchiadau pan maent yn berthnasol mewn sefydliad. Cewch fireinio ac adeiladu ar eich sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm, a sgiliau cyflwyno trwy waith yn unigol ac mewn grŵp. Cewch ddatblygu eich sgiliau personol a phroffesiynol o ran gwneud penderfyniadau, datrys problemau, dadansoddi, ac adfyfyrio beirniadol.

MSc Rheolaeth with pic

Prif ffeithiau

  • Mae ein MSc Rheolaeth wedi'i gynllunio i ddatblygu sgiliau sydd gennych eisoes drwy gynllun astudio arbenigol ac ar lefel uwch
  • Bydd y cwrs yn rhoi hyfforddiant dadansoddol perthnasol i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'r datblygiadau damcaniaethol ac ymarferol diweddaraf sy’n ymwneud â marchnata a rheoli
  • Byddwch yn gallu deall y fframwaith damcaniaethol cydlynol ar gyfer y gwahanol feysydd pwnc, a'u defnyddio yn ymarferol mewn amgylchiadau byd go-iawn
  • Staff academaidd sydd â phrofiad diwydiannol
  • Yr hyblygrwydd i arbenigo ar ôl rhan gyntaf y cwrs
  • Mynediad at gyflogwyr Prydeinig a rhyngwladol o bwys yn y diwydiannau gwasanaeth a chynhyrchu.

Er mwyn llwyddo yn amgylchedd busnes yr oes sydd ohoni, mae’n rhaid i bob rheolwr ddeall ac ymateb i oblygiadau newidiadau ariannol, gweithrediadol, strategol a sefydliadol, yn ogystal â deall sut i reoli ac ysgogi pobl. Wrth graidd pob gweithgaredd rheoli mae yna broblem sylfaenol (a chyffredin), sef sut i gyflwyno adnoddau cyfyngedig mewn ffyrdd sy’n sicrhau canlyniadau gwell, a rheoli prosesau sy’n ychwanegu gwerth wrth ddilyn amcanion sefydliadol.

Mae’r cwrs yn ddelfrydol i chi os ydych wedi graddio’n ddiweddar ac yn chwilio am gymhwyster ôl-raddedig i roi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad; neu os ydych yn entrepreneur sy’n dymuno datblygu eich sgiliau rheolaethol i ddechrau neu ehangu eich busnes eich hun, neu os ydych yn rheolwr neu’n ymgynghorydd rheolaeth a’ch gradd gyntaf mewn pwnc heblaw busnes neu reolaeth.

Hyd y cwrs

Llawn amser

Blwyddyn

Lleoliad: Wrecsam

Mis dechrau: Medi

Cyfleoedd gyrfa

Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn eich darparu â’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer swyddi uwch reolwyr ledled y sector busnes neu ar gyfer rheoli eich cwmni eich hun.

Cynnwys y cwrs

Yng ngham un, mae pedwar modiwl craidd cyffredin y mae’n rhaid i chi eu hastudio. Yna yng ngham dau, cewch ddewis dau fodiwl o restr o fodiwlau.

Rhan 1 Cam 1 (Tystysgrif Ôl-raddedig)

  • Arwain a Rheoli Pobl
  • Cyllid a Systemau Gwybodaeth ar gyfer Rheolwyr
  • Datblygu Mantais Gystadleuol
  • Sicrhau Llwyddiant Corfforaethol

Cam 2 (Diploma Ôl-raddedig)

  • Bydd dewis o opsiynau ar gael o amrywiaeth o fodiwlau sy'n eich galluogi i naill ai barhau i astudio’n eang neu i arbenigo mewn meysydd penodol yn y byd busnes megis cyllid, adnoddau dynol, marchnata, ac ati.

Rhan 2 (MSc)

  • Traethawd estynedig Meistr

Gofynion derbyn

Y gofynion derbyn yw gradd anrhydedd dda (neu gyfwerth) neu gymhwyster ôl-raddedig neu gymhwyster proffesiynol perthnasol. Fel arall, fe ellid derbyn cymhwyster anraddedig y mae’r brifysgol yn ei ystyried yn dderbyniol ar gyfer mynediad ôl-raddedig os yw’n cynnwys digon o elfennau rheolaeth ynghyd â phrofiad cyflogaeth perthnasol. Gallwn gynnal cyfweliad er mwyn rhoi cyfle i chi ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn.

Asesu

Caiff amrywiaeth o strategaethau asesu eu defnyddio gan diwtoriaid academaidd ar y cwrs hwn. Mae asesiadau yn cynnwys arholiadau ysgrifenedig ffurfiol, cyflwyniadau, prosiectau gwaith grŵp a gwaith ymchwil annibynnol.

Cysylltwch â ni

Os ydych yn fyfyriwr/wraig o’r DU neu’r UE ac eisiau mwy o wybodaeth, neu er mwyn trafod unrhyw agwedd benodol ar y cwrs yma neu broses dderbyn ein Ysgol Fusnes, cysylltwch â SID (Desg Gwybodaeth Myfyrwyr).

Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr
Rhif ffôn: 01978 293439
Ebost: sid@glyndwr.ac.uk

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk