Electroneg Meddygol
MSc Electroneg Meddygol
Mae electroneg yn chwarae rhan hanfodol o fewn gofal iechyd ac hebddo ni allai llawer o afiechydon gael eu diagnosio a’u trin.
Bydd yr MSc Electroneg Meddygol yn eich cyflwyno i feysydd allweddol o beirianneg electronig a’r modd y maent yn cael eu cymhwyso i’r offer profi a ddefnyddir o fewn y sector gofal iechyd.
Mae’r cwrs yn arbenigo mewn prosesu signal digidol uwch a phrosesu delweddau digidol ac yn ymchwilio yn llawn i dechnegau electronig meddygol. Y mae hefyd wrth galon datblygiadau allweddol, fel y byddwch yn cael cyfle i ymchwilio i welliannau’r dyfodol ac esblygu datrysiadau profi newydd.
Mae’r MSc yma yn ddelfrydol os ydych yn raddedig sydd eisoes yn gweithio mewn electroneg neu electroneg meddygol ac yn dymuno diweddaru eich sgiliau neu hybu eich cyfleoedd gyrfaol. Mae’n agored i raddedigion diweddar sy’n dymuno cael sgiliau uwch yn ogystal, neu raddedigion o ddisgyblaethau cysylltiedig eraill sy’n dymuno newid cyfeiriad eu gyrfa.
Nodweddion arbennig
- Bydd y sgiliau a’r wybodaeth a gewch yn sgil y cwrs yn eich rhoi ar flaen y gad mewn technoleg gofal iechyd. Bydd hyn yn eich galluogi i chwarae rhan bwysig mewn dyfeisiadau a gwelliannau technolegol.
- Bydd y rhaglen yn rhoi cyflwyniad i chi i ddatblygiad technolegol blaenllaw mewn electroneg meddygol.
Cyfleoedd gyrfaol
Mae yna ystod o yrfaoedd ar gael o fewn y diwydiant electroneg. Bydd graddedigion yn gymwys ar gyfer cyflogaeth mewn cwmnïau electroneg meddygol, gan weithio mewn meysydd megis dylunio a dablygu monitorau calon ac offer gofal dwys.
Cynnwys y cwrs
- Dulliau Ymchwil
- Rheoli prosiect
- CAD Uwch
- Electroneg Meddygol
- Prosesu Delweddau Digidol
- Dylunio Systemau Gosodedig
- Traethawd Estynedig
Opsiynau
- Prosesu Signal Digidol Uwch
- Amgylcheddau Acwstig a System Recordio Digidol
- Peirianneg Amledd Radio
Asesu
Arholiadau ysgrifenedig ffurfiol, prosiectau ac adroddiadau/aseiniadau.
Gofynion mynediad
Gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn disgyblaeth beirianneg briodol neu brofiad proffesiynol perthnasol.
Hyd y cwrs
Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd

