Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cyfrifeg a Rheolaeth Ariannol

MSc Cyfrifeg a Rheolaeth Ariannol

Yn y byd busnes sydd ohoni, mae’n bwysig cael dealltwriaeth dda o elfennau allweddol cyfrifeg, yn ogystal â dealltwriaeth gynhwysfawr o arferion rheoli ariannol. Amcanion ein cwrs MSc Cyfrifeg a Rheolaeth Ariannol yw rhoi sylfaen i chi yn y ddau faes, a hynny trwy theori ac ymarfer.

MSc Cyfrifeg a Rheolaeth Ariannol

Prif ffeithiau

  • Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych wedi graddio yn ddiweddar ac yn chwilio am gymhwyster ôl-raddedig er mwyn rhoi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad
  • Mae ein MSc Cyfrifeg a Rheolaeth Ariannol wedi ei gynllunio i ddatblygu sgiliau presennol y rheiny sy’n ei astudio drwy gynllun astudio arbenigol uwch
  • Bydd y cwrs yn rhoi hyfforddiant dadansoddi perthnasol er mwyn i chi ddod yn gyfarwydd â'r datblygiadau damcaniaethol ac ymarferol diweddaraf sy’n gysylltiedig â chyllid corfforaethol, rheoli a’r marchnadoedd cyfalaf
  • Byddwch yn gallu deall fframwaith damcaniaethol cydlynol ar gyfer y gwahanol feysydd pwnc, a'u defnyddio yn ymarferol ac ar lefel uwch mewn amgylchiadau byd go-iawn.
  • Staff academaidd sydd â phrofiad diwydiannol
  • Rydym yn cynnig mynediad ar lefel dau’r cwrs i gyfrifwyr siartredig, neu’r rheiny sydd â chymwysterau CIMA neu ACCA

Hyd y cwrs

Llawn amser

Blwyddyn

Lleoliad: Wrecsam

Mis dechrau: Medi

Rydym yn byw ac yn gweithio mewn byd sy’n cyflym newid o ran marchnadoedd ariannol, sefydliadau ariannol a chwmnïau busnes. Mae'n hanfodol bod arbenigwyr cyllid yn deall yn glir y theorïau ac arferion sy’n gysylltiedig â chyfrifeg a chyllid corfforaethol a rôl rheoli yn y rheiny; mae arbenigwyr cyllid yn cynnwys rheolwyr ariannol mewn cwmnïau rhyngwladol, dadansoddwyr buddsoddi mewn cwmnïau gwarantau, swyddogion benthyca mewn banciau a sefydliadau ariannol eraill, a masnachwyr mewn marchnadoedd cyfalaf ac ystafelloedd delio.

Mae bod yn gyfarwydd â'r datblygiadau diweddaraf wrth werthuso risg, dadansoddi portffolio, peirianneg cynhyrchion synthetig, technegau modelu, dadansoddi ariannol a phrisio yn ofynion hanfodol i bawb sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau ariannol neu sydd am gael dealltwriaeth ddyfnach o'r maes pwysig hwn o reoli busnes.

Mae’r modiwlau yn cynnwys Arwain a Rheoli Pobl, Datblygu Mantais Gystadleuol, a Strategaeth Ariannol, Rheolaeth a Rheoli Risg ymhlith eraill. Byddwch yn cael eich dysgu gan dîm ymroddedig o ddarlithwyr profiadol sy’n ymwneud yn weithredol ag ymchwil gyfredol a’r diwydiant. 

Cyfleoedd gyrfa

Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn rhoi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer swyddi uwch reolwyr trwy’r sector busnes gan gynnwys swyddi rheolaeth ariannol arbenigol.

Cynnwys y cwrs

Rhan 1 (Tystysgrif Ôl-raddedig)

  • Arwain a Rheoli Pobl
  • Systemau Gwybodaeth a Chyllid ar gyfer Rheolwyr
  • Datblygu Mantais Gystadleuol
  • Sicrhau Llwyddiant Corfforaethol

Rhan 2 (Diploma Ôl-raddedig)

  • Adrodd Ariannol mewn Cyd-destun Byd-eang
  • Strategaeth Ariannol, Rheolaeth a Rheoli Risg

Rhan 3 (MSc)

  • Traethawd estynedig Meistr

Gofynion derbyn

Gradd anrhydedd dda mewn cyfrifeg ac/neu ariannu (neu os oes gennych radd busnes mae’n rhaid i o leiaf 40% o’r radd fod mewn cyfrifeg ac/neu ariannu) neu gymhwyster proffesiynol perthnasol.

Asesu

Caiff amrywiaeth o strategaethau asesu eu defnyddio gan diwtoriaid academaidd ar y cwrs hwn. Mae asesiadau yn cynnwys arholiadau ysgrifenedig ffurfiol, cyflwyniadau, prosiectau gwaith grŵp a gwaith ymchwil annibynnol.

Cysylltwch â ni

Os ydych yn fyfyriwr/wraig o’r DU neu’r UE ac eisiau mwy o wybodaeth, neu er mwyn trafod unrhyw agwedd benodol ar y cwrs yma neu broses dderbyn ein Ysgol Fusnes, cysylltwch â SID (Desg Gwybodaeth Myfyrwyr).

Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr
Rhif ffôn: 01978 293439
Ebost: sid@glyndwr.ac.uk

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk