Addysgu Seicoleg
Addysgu Seicoleg
MSc Addysgu Seicoleg
Nod y rhaglen yw cefnogi datblygiad proffesiynol academaidd ar gyfer athrawon seicoleg ôl-16 trwy astudiaeth uwch o theori ac ymchwil o fewn meysydd seicoleg ac addysg.
Prif ffeithiau
Yn benodol, amcanion y cwrs yw:
- darparu myfyrwyr gyda’r wybodaeth a’r sgiliau beirniadol sy’n ofynnol i addysgu’n effeithiol o fewn disgyblaeth seicoleg
- annog ystyriaeth feirniadol o ystod o agweddau at addysgu cynnwys a sgiliau seicolegol
- darparu myfyrwyr gyda dealltwriaeth feirniadol gyfredol o ddatblygiadau cyfoes o fewn seicoleg ac addysg fel ei gilydd
- datblygu sgiliau ymchwil myfyrwyr fel eu bod yn gallu cynnal ac adrodd ar unrhyw ddarn o ymchwil annibynnol i safon gyhoeddadwy.
Bydd yr MSc mewn Addysgu Seicoleg yn gwrs dysgu o bell rhan-amser. Darperir deunydd y cwrs gan ddefnyddio amgylchedd rhith-ddysgu’r Brifysgol, Moodle.
Cefnogir pob modiwl yn wythnosol gyda deunydd darllen, asesiad ffurfiannol byr ac astudiaeth grŵp cyfoedion. Disgwylir hefyd i fyfyrwyr ymgymryd ag astudiaeth breifat.
Bydd yr elfen ar-lein yn cynnwys ymgymryd â thestunau, gyda phwyslais ar erthyglau ymchwil, ymgymryd â chyfryngau sain/clyweledol, cynnal a chyflwyno asesiadau ffurfiannol.
Cynhelir y grŵp astudiaeth cyfoedion trwy Moodlegan ddefnyddio blogiau a fforwm trafod. Anogir myfyrwyr i ryngweithio yn uniongyrchol gyda thiwtor eu modiwl trwy gyfuniad o gyswllt ebost a ffôn.
Cyfleoedd gyrfa
Mae’r rhaglen yma yn darparu DPP ar gyfer athrawon gweithredol Seicoleg ôl-16 sy’n dymuno cael cymhwyster lefel Meistr er mwyn mwyhau dilyniant trwy’r proffesiwn addysgu.
Hyd y cwrs
Rhan-amser:
3 blynedd
Lleoliad: Wrecsam
Mis dechrau: Medi
Strwythur y cwrs
Cyflenwir y cwrs dros gyfnod o dair blynedd. Yn y flwyddyn gyntaf, bydd y myfyrwyr i gyd yn astudio:
Issues in the Teaching of Seicoleg (20 credyd)
Materion mewn addysgu Dulliau Ymchwil mewn Seicoleg (20 credyd)
Naill ai Addysgu Meddwl yn Feirniadol neu fodiwl Dysgu Trafodedig ble mae’n bosib y gellid trafod y cynnwys a’r dull asesu gyda’ch tiwtor (20 credyd).
Yn yr ail flwyddyn, bydd y myfyrwyr i gyd yn astudio:
Datblygiadau Cyfoes mewn Seicoleg (20 credyd)
Datblygiadau Cyfoes mewn addysgu Seicoleg (20 credyd)
Datblygiad Proffesiynol (20 credyd)
Yn y flwyddyn olaf byddwch yn cwblhau traethawd hir (60 credyd) ar bwnc o’ch dewis chi.
Gofynion mynediad
Gallai graddedigion Seicoleg a graddedigion o ddisgyblaethau eraill fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen yma. Bydd angen i chi fod yn addysgu seiceolg neu bynciau cysylltiedig yn rhan-amser o leiaf.
Asesu
Bydd yna strwythur asesu amrywiol a gwneir pob ymdrech i sicrhau fod tasgau asesu yn berthynasol i’ch gwaith o ddydd i ddydd.
Tîm y Cwrs
Yr Athro Christopher Alan Lewis
Dr Mandy Robbins
Dr Julia Russell
Dr Peter Gossman
Fiona Lintern

