Text begins here:
Addysg Broffesiynol
MSc Addysg Broffesiynol
Diploma Uwchraddedig mewn Addysg Broffesiynol(gyda chymhwyster ‘Athro’ cofnodadwy y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer nyrsys wedi cofrestru yn y DU, bydwragedd neu nyrsys iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol)
Tystysgrif Uwchraddedig mewn Datblygiad Proffesiynol Parhaus mewn Addysg Uwch
Mae’r cwrs yma yn cysylltu’n ffurfiol feysydd pwnc iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg trwy alluogi’r rheiny sy’n ymarfer mewn iechyd neu ofal cymdeithasol i gael cymhwyster addysgu.
Mae’r wobr yma yn galluogi darlithwyr i gymhwyso fel athrawon a chael gradd uwchraddedig yn y pen draw. Yn gynyddol, mae angen i ymarferwyr mewn iechyd a gofal cymdeithasol sy’n dymuno goruchwylio dysgu mewn ymarfer myfyrwyr ar raglenni proffesiynol feddu ar gymhwyster ar y lefel yma. Mae hyn yn cynnwys athrawon gwaith maes mewn gwaith cymdeithasol; a mentoriaid, addysgwyr ymarfer ac athrawon ymarfer mewn gofal iechyd.
Hyd y cwrs
Llawn amser MSc:
2-5 mlynedd
Diploma Uwchraddedig:
2-3 blynedd
Tystysgrif Uwchraddedig:
1 flynedd
Lleoliad: Wrecsam
Mis dechrau: Medi
Cyn i chi gael cynnig lle ar y cwrs, bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas i weithio gyda phlant ac oedolion bregus.
Prif ffeithiau
- Bydd cwblhau modiwlau’r Tystysgrif Uwchraddedig Datblygiad Proffesiynol mewn Addysg Uwch yn llwyddiannus yn eich galluogi i fod yn gymwys ar gyfer aelodaeth o’r Academi Addysg Uwch
- Bydd y cwrs yn hybu eich arbenigedd ymchwil, a dyma’r llwyfan delfrydol ar gyfer datblygu eich sgiliau gwerthuso a synthesis tuag at wreiddioldeb meddwl
- I ymarferwyr sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, mae cwblhau’r Diploma Uwchraddedig yn llwyddiannus yn eich galluogi i gofnodi’r cymhwyster nyrsio, bydwreigiaeth neu athro nyrsio iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol gyda’r CNB
- Mae cwblhau’r modiwlau Dysgu Addysgu ac Asesu mewn Addysg Uwch ac Ymarfer Myfyriol mewn Addysg Uwch yn llwyddiannus yn galluogi i nyrs, bydwraig neu nyrs iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol gael cydnabyddiaeth o feddu ar gymhwyster Athro Ymarfer
- Mae’r rhaglen yma yn agored i fyfyrwyr tramor sy’n dymuno cael cymhwyster addysgu o ansawdd uchel
Cyfleoedd gyrfa
Cwblhewch y cwrs a gallwch ddechrau chwilio am waith mewn swyddi ble mae angen cymhwyster addysgu cydnabyddedig arnoch – mewn addysg uwch neu bellach, neu mewn ymarfer. Gall nyrsys neu fydwragedd sy’n cwblhau’r diploma uwchraddedig gofnodi cymhwyster addysgu gyda’r CNB a chwilio am waith mewn Addysg Uwch, neu fel addysgydd mewn ymarfer.
Modiwlau’r cwrs
Tystysgrif Uwchraddedig:
- Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch – Myfyrdod a Datblygiad
- Asesu a Gwerthuso mewn Addysg Uwch – Myfyrdod a Datblygiad
- Ymarfer Academaidd mewn Addysg Uwch
Diploma Uwchraddedig:
- Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch – Myfyrdod a Datblygiad
- Asesu a Gwerthuso mewn Addysg Uwch – Myfyrdod a Datblygiad
- Ymarfer Academaidd mewn Addysg Uwch
- Dulliau Ymchwil mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Arweinyddiaeth a Materion Proffesiynol
- Modiwl Trafodedig mewn Ymarfer a Datblygu Addysg
Os ydych yn dymuno cofnodi cymhwyster addysgu gyda’r CNB, bydd angen i chi gwblhau:
- Modiwl Trafodedig mewn Ymarfer a Datblygu Addysg (Portffolio CNB)
Ar gyfer y radd Meistr, yn ogystal â’r uchod:
Gofynion mynediad
Cymhwyster proffesiynol mewn iechyd neu ofal cymdeithasol a gradd anrhydedd mewn pwnc perthnasol.
Asesu
Gwaith ysgrifenedig, gan gynnwys traethawd hir a phortffolio.
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|