Text begins here:
MRes Gwyddoniaeth a Thechnoleg Polymer
Mae gan bolymerau rôl hollbwysig wrth ddatblygu defnyddiau yn y dyfodol ar gyfer polymerau mewn diwydiant a bywyd bob dydd.
Mae’r cwrs MRes hwn yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol o gemeg ffisegol, prosesu a chymwysiadau diwydiannol systemau macromoleciwlaidd, ynghyd â datblygu sgiliau generig rheoli prosiect ymchwil.
Defnyddir defnyddiau polymerig mewn ystod amrywiol o gynnyrch diwydiannol, biomeddygol a defnyddiau i ddefnyddwyr ac adlewyrchir yr agweddau hyn yn y cwrs.
Mae gwreiddioldeb wrth ddatrys problemau yn cael ei feithrin trwy ystyried nifer o astudiaethau achos diwydiannol, darlithoedd gan siaradwyr diwydiannol a’r opsiwn i ymgymryd â phrosiect ymchwil a noddir gan ddiwydiant.
Mae gan ymchwil yn y maes hwn ym Mhrifysgol Glyndŵr gryfderau penodol mewn polysacaridau a hydrocoloidau, prosesu adweithiol a datblygu proses polymereiddio, rheoleg ( rheology) arbrofol a chymwysiadau diwydiannol polymerau toddadwy mewn dŵr.
Mae’r agwedd gyffredinol yn un amlddisgyblaethol ac rydym yn astudio meysydd sy’n datblygu megis polymerau o adnoddau adnewyddadwy a nanodechnoleg feddal.
Prif ffeithiau
- Cyfleoedd cyflogaeth rhagorol yn fyd-eang mewn ystod o sectorau diwydiannol allweddol – gan gynnwys y sectorau biomeddygol, fferyllol, adnewyddadwy a nanodechnoleg feddal
- Llawer iawn o ymwneud â diwydiant yn sgil astudiaethau achos, darlithoedd diwydiannol a phrosiectau ymchwil a noddir gan ddiwydiant
- Cyfleusterau prosesu a nodweddu polymerau o’r radd flaenaf – ffracsiynu polymerau, gwasgaru golau, rheomedreg croeswasgu ac estynnol, dadansoddi thermol, allwthiad, llunio chwistrelliadau
- Mae hwn yn llwybr rhagorol os ydych eisiau ‘neidio disgyblaethau’ i fynd i wneud astudiaethau doethur mewn maes sy’n ymwneud â pholymerau
- Amgylchedd dysgu cefnogol mewn timau ymchwil sefydlog, ac mae’r agwedd at hyfforddi ac asesu yn gosod y myfyriwr yn ganolog.
Cyfleoedd gyrfa
Mae’r cwrs yn darparu cyfleoedd gyrfa rhagorol mewn ystod eang o sectorau diwydiannol. Gall graddedigion ddisgwyl cael swyddi ymchwil a datblygu mewn meysydd sy’n gysylltiedig â dyfeisiau biomeddygol, fformiwleiddio fferyllol, bwyd a diod, adfer petroliwm, agrogemegau, polymerau swyddogaethol/cemegau arbenigol, inc, paent a chaenau neu gosmetigion a chynnyrch gofal personol.
Mae’r cwrs hefyd yn darparu llwybr uniongyrchol i astudiaeth ddoethurol, i’r rheiny sy’n dymuno ymgymryd â hyfforddiant ymchwil pellach neu fynd ar drywydd gyrfa academaidd.
Cynnwys y cwrs
- Dulliau Dadansoddi II
- Dulliau Dadansoddi III
- Prosiect Ymchwil a Thraethawd Estynedig MRes
Modiwlau arbenigol
- Cemeg a Thechnoleg Polymerau Toddadwy mewn Dŵr
- Rheoleg a Phrosesu Systemau Macromoleciwlaidd
Gofynion mynediad
Gradd gyntaf dda yn y gwyddorau ffisegol, gwyddor defnyddiau, peirianneg gemegol neu ddisgyblaeth gysylltiedig neu brofiad cyfatebol mewn diwydiant sy’n ymwneud â pholymerau.
Asesu
Caiff y Dulliau Dadansoddi eu hasesu trwy ymarferion datrys problemau llyfr agored ac arholiad ffurfiol nas gwelwyd cyn hynny.
Caiff Modiwlau Arbenigol eu hasesu trwy asesiad wedi’i drafod sydd wedi’i addasu i anghenion penodol myfyrwyr unigol, ac sydd wedi eu nodi mewn cytundeb dysgu.
Mae asesiadau mynegol yn cynnwys adolygiad beirniadol ar lenyddiaeth sy’n ymwneud â modiwl, gwaith ymarferol mewn labordy (cyfosod polymerau, prosesu neu ddadansoddi offer), cyflwyniadau poster a chyflwyniadau llafar. Caiff y prosiect ymchwil ei arholi yn gyfan gwbl trwy arholiad viva voce ym mhresenoldeb arholwr mewnol ac arholwr allanol.
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|