Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Gweinyddu Busnes

MBA

Mae’r MBA yn radd busnes a rheoli ôl-raddedig a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac mae wedi’i hanelu at unigolion, rheolwyr a gweithwyr proffesiynol sydd am fynd yn uwch reolwyr ac i swyddi arweinyddiaeth.

Mae'r cwrs yn sôn am brif gysyniadau rheoli'r 21ain ganrif, gan gynnwys rheoli pobl, arweinyddiaeth, gweithrediadau a gwybodaeth, cyfrifeg a chyllid, marchnata, strategaeth a rheoli newid sefydliadol a'r economi fyd-eang. Mae ffocws eang i’r rhaglen hon, wedi’i hysgogi gan faterion strategol. Mae’r rhaglen astudio hon yn trafod amgylcheddau busnes rhyngwladol a chartref fel ei gilydd.

Ein nod yw rhoi i fyfyrwyr y ddealltwriaeth eang sy’n angenrheidiol i fod yn llwyddiannus mewn amgylcheddau busnes traws-swyddogaethol ac i ychwanegu at eu sgiliau fel y bo’r angen er mwyn iddynt weithredu ar lefelau rheoli uwch. Mae cydweithredu Prifysgol Glyndŵr gyda Phrifysgol Georgetown, Washington DC yn cyfrannu at wneud hon yn rhaglen astudio unigryw a gwerth chweil.

Prif ffeithiau

  • Mae'r radd MBA o Brifysgol Glyndŵr wedi’i dyfarnu gan Brifysgol Cymru, a chaiff ei chydnabod a’i pharchu yn rhyngwladol.
  • Mae Athrawon Coleg o Brifysgol Georgetown, Washington DC yn cyflenwi’r modiwl Busnes Rhyngwladol ar y rhaglen.
  • Mae aelodaeth myfyrwyr o’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) ar gael.
  • Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn rhoi’r hawl i chi wneud cais am aelodaeth i’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (gan ganiatáu i chi ddefnyddio'r llythrennau MCMI ar ôl eich enw.)

Hyd y cwrs

Llawn amser

Blwyddyn

Rhan-amser

3 blynedd

Mis dechrau:

Llawn amser

Medi a Chwefror

Rhan-amser

Medi

Lleoliad: Wrecsam

Cynnwys y cwrs

Mae’n rhaid i fyfyrwyr ddewis un opsiwn o gasgliad o ddewisiadau. Mae’r canlynol er mwyn dangos enghreifftiau yn unig:

  • Busnes Rhyngwladol
  • Marchnata Strategol
  • Rheoli Adnoddau Dynol
  • Rheoli Cyllid a Risg

Myfyrwyr rhan-amser yn unig:

  • Entrepreneuriaeth, Creadigrwydd ac Arloesedd

Sylwer: ar gyfer myfyrwyr rhan-amser, o ran semester un darllener ‘blwyddyn un’, ar gyfer semester dau, darllener ‘blwyddyn dau’ ac ar gyfer semester tri, darllener ‘blwyddyn tri’.

Semester Un: Pedwar modiwl craidd sy’n 15 credyd yr un (60 credyd)

  • Systemau Cyllid a Gwybodaeth ar gyfer Rheolwyr
  • Arweinyddiaeth ac Ymddygiad Sefydliadol
  • Rheolaeth Marchnata
  • Rheolaeth Cadwynau Cyflenwi a Gweithrediadau Strategol

Semester Dau: Tri modiwl craidd ac un Opsiwn sy’n 15 credyd yr un (60 credyd)

  • Rheolaeth Strategaeth a Newid
  • Rheoli Strategol ar AD
  • Dulliau Ymchwil
  • Dewis

Semester Tri: Un modiwl - 60 Credyd

  • Traethawd estynedig - 20,000 o eiriau ar bwnc o’ch dewis, ond mae’n rhaid iddo fod o fewn y ddisgyblaeth busnes a rheolaeth.Mae myfyrwyr rhan-amser yn aml yn dewis prosiect sy'n gysylltiedig â’u gwaith er mwyn gwella eu rhagolygon gyrfa.

Gofynion derbyn

Gradd gychwynnol gan gorff gwobrwyo-graddau cymeradwyedig neu gymhwyster anraddedig y mae Prifysgol Glyndŵr yn ei ystyried o safon addas ar gyfer astudiaeth uwchraddedig. Os nad oes gennych radd gyntaf, mae’n rhaid i chi fod wedi bod mewn swydd sydd â chyfrifoldeb (sy’n berthnasol i’r cwrs) am o leiaf dwy flynedd.

Cyfleoedd gyrfa

Bydd y rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer swyddi uwch reolwyr mewn amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys rhai masnachol, rhai di-elw a'r sector cyhoeddus. Mae llawer o fyfyrwyr yn astudio MBA i wella eu rhagolygon gyrfa yn gyffredinol, er mwyn newid cyfeiriad gyrfa, rhoi eu gyrfa ar lwybr carlam yn eu sefydliad presennol ac i dorri trwy nenfwd gwydr. Yn ogystal, mae graddedigion MBA fel arfer yn cael cyflogau sy’n sylweddol uwch drwy gydol eu gyrfa.

Asesu

Bydd y modiwlau a ddysgir yn y flwyddyn gyntaf (llawn amser) ac yn y flwyddyn gyntaf a’r ail (rhan-amser) yn cael eu hasesu yn bennaf trwy gyfrwng aseiniadau unigol neu grŵp. Fodd bynnag, mae gan sawl modiwl arholiad fel rhan o’r asesu. Mae'n rhaid i chi basio eich holl fodiwlau i ennill 120 o gredydau ac i symud ymlaen i'r cam traethawd estynedig.I dderbyn yr MBA, mae’n rhaid i chi gwblhau’r traethawd estynedig yn llwyddiannus, a chael y 180 credyd. Os ydych yn astudio'n llawn-amser, bydd yn rhaid i chi gyflwyno eich traethawd estynedig yn yr hydref yn dilyn asesiad ym mis Mai. Bydd gan fyfyrwyr rhan-amser tua blwyddyn i’w gwblhau. Wrth symud ymlaen i’r cam traethawd estynedig, bydd goruchwyliwr yn cael ei benodi i chi i’ch cynghori ar sut i lunio a datblygu eich traethawd estynedig.

Cysylltwch â ni

Os ydych yn fyfyriwr/wraig o’r DU neu’r UE ac eisiau mwy o wybodaeth, neu er mwyn trafod unrhyw agwedd benodol ar y cwrs yma neu broses dderbyn ein Ysgol Fusnes, cysylltwch â SID (Desg Gwybodaeth Myfyrwyr).

Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr
Rhif ffôn: 01978 293439
Ebost: sid@glyndwr.ac.uk

 

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk