Text begins here:
MA y Cyfryngau Creadigol
Nod y cwrs yw eich datblygu fel artist/gwneuthurwr ac i sicrhau bod gennych y sgiliau a'r dychymyg i gynhyrchu gwaith heriol sy’n seiliedig ar adfyfyrio meddylgar ac arferion arloesol.
Mae’r MA Cyfryngau Creadigol yn un o gyfres o dair gradd Meistr celf a dylunio sy’n cael eu dysgu. Fel myfyriwr celf a dylunio, byddwch yn datblygu syniadau a chysyniadau i gyfathrebu â chynulleidfa – weithiau mae hynny’n amlwg iawn fel wrth weithio tuag at arddangosfa, ond ar adegau eraill bydd yn rhaid i chi feddwl yn galed am gynulleidfa niche ar gyfer y gwaith rydych yn ei ddatblygu. Mae’r MA Cyfryngau Creadigol yn defnyddio hyn fel man cychwyn ar gyfer y broses ddylunio a datblygu, ac yna mae’n gweithio’r cysyniad drwy'r cyfryngau priodol i brofi syniadau, a dadansoddi sut y mae'r gynulleidfa yn ymgysylltu â'r gwaith.
Mae pynciau enghreifftiol yn cynnwys:
- Ffotograffiaeth a Ffilm
- Delweddaeth wedi’i greu gan gyfrifiadur
- Animeiddio
- Dylunio Rhyngweithiol
Bydd y cwrs yn eich tywys trwy'r wybodaeth hanfodol, gan gynnwys trafodaethau a dadlau ynghylch damcaniaethau cyfredol. Mae'r cwrs yn ymchwilio i faes allweddol gofynion esthetig, seicolegol a diwylliannol cynulleidfa darged. Byddwch yn dysgu sut i reoli cwestiynau ymchwil a’u datblygu yn weithredoedd, ac yna byddwch yn dysgu dadansoddi a gwerthuso’r hyn a gyflawnwyd.
Cynlluniwyd y cwrs MA hwn i ddwyn ynghyd meysydd ymarfer arbenigol sy’n rhannu egwyddorion craidd damcaniaethau celf a dylunio, a hynny drwy agweddau at ymarfer celf a dylunio. Y cysyniad y tu ôl i'r cwrs hwn yw cael ymarferwyr celf a dylunio medrus i ddatblygu eu galluoedd i ddyfeisio ffyrdd newydd a heriol o ddefnyddio eu gwybodaeth.
Prif ffeithiau
- Caiff y cwrs ei ddysgu gan staff sydd wrthi’n ymchwilio ac sydd hefyd yn artistiaid a dylunwyr
- Trwy gydweithio’n agos ar yr aseiniadau, bydd myfyrwyr o feysydd pwnc cysylltiedig yn cael cyfleoedd i gydweithio â'i gilydd (ac, o drafod, â'r rheini mewn meysydd pwnc eraill). Mae'r sefyllfa hon yn efelychu’r gweithle yn y byd cyfoes, lle bydd gofyn efallai i staff arbenigol gwrdd ag arbenigwyr o feysydd pwnc gwahanol a phartneriaid diwydiannol, a datblygu syniadau mewn ymgynghoriad â hwy
- Mae'r cwrs yn seiliedig ar waith mewn stiwdio a bydd gennych fynediad da at ystod o offer arbenigol ar gyfer amrywiaeth o gyfryngau a thechnegau
- Gallwch gymryd rhan mewn amryw o ymweliadau a chyfleoedd i ddysgu y tu hwnt i’r Brifysgol
- Cewch y cyfle i gymysgu a thrafod syniadau ag artistiaid a dylunwyr ôl-radd eraill
Hyd y cwrs
Llawn amser
Blwyddyn, gan weithio o fis Medi i fis Medi (o leiaf 3 diwrnod yn y brifysgol a 2 ddiwrnod pellach o astudio preifat bob wythnos)
Rhan-amser
2 flynedd, gan weithio o fis Medi i fis Mehefin (1 diwrnod yn y brifysgol a diwrnod arall o astudio preifat bob wythnos)
Lleoliad: Wrecsam Mis dechrau: Medi
Cyfleoedd gyrfa
Ein nod yw cynhyrchu ymarferwyr gweithredol sy’n annibynnol ac yn llawn cymhelliant, ac sy’n gallu ymateb yn greadigol i anghenion cynulleidfa neu grŵp defnyddwyr. Rydym am sicrhau bod gan ein graddedigion bortffolio o waith, ac y byddant yn meithrin ystod o sgiliau a fydd yn eu helpu i sefydlu eu hunain fel ymarferwyr proffesiynol, yn ogystal â’u galluogi i chwilio am gyfle i weithio ochr yn ochr â meysydd creadigol eraill wrth ddilyn eu dyheadau neu wrth gyflawni amcanion gyrfa.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs yn adlewyrchu natur y diwydiannau dylunio, yn enwedig y ddibyniaeth ynddynt ar y gallu i gyfathrebu rhwng meysydd ymarfer arbenigol.
- Dulliau Ymchwil
- Traethawd Estynedig a Chyflwyniad Meistr
- Defnyddio Ymchwil i Ymarfer Creadigol
- Llwybr Ymarfer Arbenigol
Opsiynau
- Ymarfer Cydweithredol
- Llwybr Sgiliau Pontio
- Llwybr Gweithio â Chleientiaid
- Llwybr Ymgysylltu a Throchi
- Llwybr Sgiliau o fewn Cyd-destun
Gofynion derbyn
Fel arfer, dylech fod â gradd anrhydedd dda mewn pwnc perthnasol ond caiff ceisiadau eu hystyried gan bobl sydd â digon o dystiolaeth o brofiad yn y pwnc sy’n cyfateb i’r dyfarniad hwn.
Asesu
Ar ddiwedd pob prif gam yn ystod y cwrs, caiff eich gwaith ei asesu. Bydd modd cael adborth ychwanegol ar eich cynnydd drwy feirniadaethau, seminarau, adolygiadau gan gyfoedion ac adborth unigol mewn tiwtorialau gyda staff pwnc.
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|