Head divider

Ymarfer Dylunio

MA Ymarfer Dylunio

Nod y cwrs yw eich datblygu fel cyfarwyddwyr creadigol ac ymarferwyr dylunio, darlunio ac animeiddio. Byddwch yn datblygu sgiliau beirniadol a deallusol sy’n hanfodol i gyfoethogi eich penderfyniadau creadigol a’ch ymatebion dychmygus i broblemau dylunio.

Mae’r MA Ymarfer Dylunio yn un o gyfres o dair gradd Meistr celf a dylunio sy’n cael eu dysgu. Fel myfyriwr dylunio, bydd gofyn i chi ddatblygu'r gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd, casglu gwybodaeth a delweddu atebion i broblemau.

Mae hyn yn hollbwysig i weithgarwch dylunio. Mae defnydd creadigol o waith myfyrwyr yn niferus, er enghraifft, gwerthfawrogir yn fawr y gallu i gynllunio a datblygu cynnyrch newydd ac arloesol yn y diwydiannau creadigol, boed yn y sector adloniant neu at ddiben addysgol. Mae deall sut i adeiladu a datblygu cynnyrch i gwrdd ag anghenion grŵp defnyddwyr yn agwedd bwysig ar y cwrs hwn.

Dyma bynciau enghreifftiol:

  • Darlunio
  • Darlunio ar gyfer Plant
  • Nofelau graffig
  • Dylunio Cymeriad
  • Animeiddio
Design practice welsh pic

Cynlluniwyd y cwrs MA hwn i ddwyn ynghyd meysydd ymarfer arbenigol sy’n rhannu egwyddorion craidd damcaniaethau celf a dylunio, a hynny drwy agweddau at ymarfer celf a dylunio. Y cysyniad y tu ôl i'r cwrs hwn yw cael ymarferwyr celf a dylunio medrus i ddatblygu eu gallu i ddyfeisio ffyrdd newydd a heriol o ddefnyddio eu gwybodaeth.

Prif ffeithiau

  • Cyfle i arddangos eich gwaith, cystadlu a chymryd rhan mewn ymweliadau astudio cysylltiedig
  • Caiff y cwrs ei ddysgu gan staff sydd wrthi’n ymchwilio ac sydd hefyd yn artistiaid a dylunwyr
  • Trwy gydweithio’n agos ar yr aseiniadau, bydd myfyrwyr o feysydd pwnc cysylltiedig yn cael cyfleoedd i gydweithio â'i gilydd (ac, o drafod, â'r rheini mewn meysydd pwnc eraill). Mae'r sefyllfa hon yn efelychu’r gweithle yn y byd cyfoes, lle bydd gofyn efallai i staff arbenigol gwrdd ag arbenigwyr o feysydd pwnc gwahanol a phartneriaid diwydiannol, a datblygu syniadau mewn ymgynghoriad â hwy
  • Mae'r cwrs hwn yn seiliedig ar waith mewn stiwdio a bydd gennych fynediad da at ystod o offer arbenigol ar gyfer amrywiaeth o gyfryngau a thechnegau

Cewch archwilio potensial datblygu cymeriad ar gyfer ystod eang o bosibiliadau masnachol ac artistig. Byddwch yn cael y cyfle i gynllunio a datblygu cymeriadau drwy amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys archwilio potensial mewn fformatau print, rhyngweithiol a 3D. Byddwch yn canfod marchnadoedd arbenigol ar gyfer datblygu cynnyrch a dysgu sut i gyflwyno a phrofi syniadau ac i werthuso llwyddiant neu adnabod datblygiadau yn y dyfodol.

Bydd y cwrs yn eich tywys trwy'r wybodaeth hanfodol, a ffyrdd o drefnu a rheoli eich syniadau, gan gynnwys trafodaethau a dadlau ynghylch damcaniaethau cyfredol. Cewch hefyd eich annog i adolygu'r materion diwylliannol a damcaniaethol sy'n gysylltiedig ag arferion celf, yn ogystal â meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o’ch pwnc a'r dylanwadau arno. Mae'r cwrs yn ymchwilio i faes allweddol gofynion esthetig, seicolegol a diwylliannol cynulleidfa darged.

Hyd y cwrs

Llawn amser:

Blwyddyn

Rhan-amser:

2 flynedd

Lleoliad: Wrecsam
Mis dechrau: Medi

Cyfleoedd gyrfa

Ein nod yw cynhyrchu ymarferwyr diddorol sy’n gallu datblygu cymeriadau a themâu eraill sy’n briodol i ddarlunio, ffilmiau, gêmau a ffurfiau eraill o’r cyfryngau cyhoeddi. Rydym am sicrhau bod gan ein graddedigion bortffolio o waith, ac y byddant yn meithrin ystod o sgiliau a fydd yn eu helpu i gael swyddi yn y diwydiant dylunio a’r cyfryngau, yn ogystal â’u galluogi i fynd yn eu blaenau yn eu gyrfa a gweithio o fewn amrywiaeth o senarios swyddi. Credwn ei bod yn bwysig iawn fod myfyrwyr yn gallu gweithio yn llwyddiannus mewn cyflogaeth.

Cynnwys y cwrs

Chi fydd yn cynnig testun eich prosiect mawr yn rhan olaf y rhaglen, a disgwylir iddo adlewyrchu eich dyheadau gyrfa. Mae'r cwrs yn adlewyrchu natur y diwydiannau dylunio sy'n dibynnu ar y gallu i gyfathrebu rhwng meysydd ymarfer arbenigol.

Modiwlau’r cwrs

  • Dulliau Ymchwil
  • Traethawd Estynedig a Chyflwyniad Meistr
  • Defnyddio Ymchwil i Ymarfer Creadigol
  • Llwybr Ymarfer Arbenigol

Opsiynau

  • Ymarfer Cydweithredol
  • Llwybr Sgiliau Pontio
  • Llwybr Gweithio â Chleientiaid
  • Llwybr Ymgysylltu a Throchi
  • Llwybr Sgiliau o fewn Cyd-destun

Gofynion derbyn

Fel arfer, dylech fod â gradd anrhydedd dda mewn pwnc perthnasol ond caiff ceisiadau eu hystyried gan bobl sydd â digon o dystiolaeth o brofiad yn y pwnc sy’n cyfateb i’r dyfarniad hwn.

Asesu

Ar ddiwedd pob prif gam yn ystod y cwrs, caiff eich gwaith ei asesu. Bydd modd cael adborth ychwanegol ar eich cynnydd drwy feirniadaethau, seminarau, adolygiadau gan gyfoedion ac adborth unigol mewn tiwtorialau gyda staff pwnc.

Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau, cysylltwch â’n tîm ymholiadau a derbyn