Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Rheolaeth Sector Cyhoeddus

MA Rheolaeth Sector Cyhoeddus

Mae datblygiadau diweddar yn y sector cyhoeddus wedi golygu fod y rheiny sy’n gweithio ym maes rheolaeth sector cyhoeddus yn gynyddol atebol am eu gwaith. Gall gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus a chyrff amhroffidiol fod yn wahanol iawn i weithio yn y sector preifat, ac mae meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau cywir yn dyngedfennol. Bydd y radd MA mewn Rheolaeth Sector Cyhoeddus yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau rheolaeth allweddol. Bydd hefyd yn ehangu eich gwybodaeth am faterion cyfoes sy’n effeithio ar y sector cyhoeddus. Bydd y radd yn datblygu sgiliau cyfathrebu, ynghyd â sgiliau dadansoddi, datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Bydd hyn yn eich galluogi i reoli’n effeithiol o fewn corff sector cyhoeddus. Fe allai modiwlau opsiynol fod ar gael ar y cwrs, gan roi’r cyfle i chi sicrhau fod eich astudiaethau yn berthnasol i’ch maes cyflogaeth.

Nodweddion arbennig

Cynlluniwyd yn benodol i gefnogi rheolaeth effeithiol yn y sector cyhoeddus.

Cyfleoedd gyrfaol

Bydd y rhaglen yn eich darparu ar gyfer rolau mewn rheolaeth a swyddi uwch reolaeth yn y sector cyhoeddus, o’r gwasanaeth sifil i reolaeth awdurdod lleol.

Cynnwys y cwrs

Noder: ni fydd y cwrs yma yn recriwtio myfyrwyr ar gyfer mynediad yn 2011.  A wnewch chi barhau i wirio’r wefan ar gyfer datblygiadau arfaethedig.

  • Comisiynu a Chaffael Nwyddau a Gwasanaethau
  • Dysgu Trafodedig
  • Arwain Newid ac Arloesedd
  • Cynllunio Busnes a Strategaeth
  • Datblygu Sgiliau Rheolaethol
  • Gweithio gyda Phobl
  • Defnyddio Adnoddau i Gael Canlyniadau
  • Opsiwn sector-benodol
  • Traethawd estynedig

Asesu

Aseiniadau ac arholiadau

Gofynion mynediad

Gradd gychwynnol gan gorff gwobrwyo-graddau cymeradwyedig neu gymhwyster anraddedig y mae Prifysgol Glyndŵr yn ei ystyried o safon addas ar gyfer astudiaeth uwchraddedig.

Hyd y cwrs

Rhan amser: 2-3 blynedd

Cysylltwch â ni

Os ydych yn fyfyriwr/wraig o’r DU neu’r UE ac eisiau mwy o wybodaeth, neu er mwyn trafod unrhyw agwedd benodol ar y cwrs yma neu broses dderbyn ein Ysgol Fusnes, cysylltwch â SID (Desg Gwybodaeth Myfyrwyr).

Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr
Rhif ffôn: 01978 293439
Ebost: sid@glyndwr.ac.uk

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk