Head divider

Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill

MA ESOL Uwch

Diploma Ôl-radd ESOL Uwch

Tystysgrif Ôl-radd ESOL Uwch

Mae bywyd byd-eang yr 21ain ganrif a chynnydd mewn rhyngwladoli yn golygu bod y galw am ieithyddion sydd â chymwysterau uchel yn lingua franca y Saesneg yn tyfu'n gyflym.

Y dyfarniad ESOL yw Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE). Os nad ydych yn siarad Saesneg fel brodor, bydd astudio ar gyfer yr MA ESOL Uwch yn codi eich sgiliau iaith yn debyg i siaradwr Saesneg brodorol, ac yn rhoi gwell ymwybyddiaeth ddiwylliannol, cymdeithasol-wleidyddol ac economaidd i chi o’r byd Saesneg ei iaith yn gyffredinol a’r Deyrnas Unedig yn arbennig. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu rhyng-ddiwylliannol i baratoi ar gyfer amgylchedd gwaith rhyng-ddiwylliannol.

Mae'r cwrs wedi ei greu yn benodol ar gyfer graddedigion iaith Saesneg. Cewch ddatblygu eich sgiliau iaith presennol yn y Saesneg, a’r rheiny fel arfer wedi’u hennill trwy radd israddedig mewn Saesneg neu Lenyddiaeth Saesneg. Bydd y radd MA ESOL Uwch yn gwella eich dadansoddi ieithyddol a’ch sgiliau ymchwil, gan fynd â’ch sgiliau llafar a sgiliau ysgrifenedig yn Saesneg i lefel newydd a’ch cyflwyno i fyd rhyngwladol.

ESOL welsh pic

Prif ffeithiau

  • Caiff yr MA ESOL Uwch ei arwain gan ein Canolfan Iaith sydd newydd ei sefydlu.
  • Cewch eich dysgu gan staff cymwys, profiadol a brwdfrydig iawn ac fe gewch astudio mewn amgylchedd rhyngwladol sydd â mynediad hawdd at siaradwyr brodorol ieithoedd eraill.

Hyd y cwrs

Llawn amser

MA: blwyddyn
Diploma Ôl-radd: blwyddyn
Tystysgrif Ôl-radd: blwyddyn

Rhan-amser

MA: 2 flynedd
Diploma Ôl-radd: 2 flynedd
Tystysgrif Ôl-radd: 2 flynedd

Lleoliad: campws Wrecsam
Mis dechrau: Medi

Cyfleoedd gyrfa

Bydd yr MA ESOL Uwch yn agor llwybrau newydd ar gyfer gyrfaoedd mewn cyfieithu, dehongli, addysgu, ymchwil, marchnata, gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth, yn enwedig gyda chwmnïau neu sefydliadau rhyngwladol. Bydd y sgiliau dadansoddi a chyfathrebu trosglwyddadwy y byddwch yn eu meithrin yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf ar gyfer swyddi rheoli a gweinyddu mewn diwydiant.

Modiwlau’r cwrs

  • Ieithyddiaeth Gymhwysol 1
  • Ieithyddiaeth Gymhwysol 2
  • EFL Uwch
  • Sgiliau Ymchwilio ac Astudio ar gyfer Ieithoedd ac Astudiaethau Ardaloedd
  • Prydain Gyfoes
  • Cyfathrebu Rhyng-ddiwylliannol
  • Traethawd estynedig

Gofynion derbyn

Gradd berthnasol (2:2 neu uwch) mewn Saesneg (iaith), BA ESOL, BA TESOL, iaith a llenyddiaeth Saesneg (cyfunol), neu feysydd pwnc tebyg. Caiff cymwysterau eraill a phrofiad eu hystyried yn ôl eu teilyngdod ac o dan amgylchiadau eithriadol. Mae'n rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu prawf o hyfedredd cyson yn y Saesneg, fel arfer gydag o leiaf sgôr IELTS o 6.5 neu gyfwerth – gydag o leiaf 6.5 mewn ysgrifennu. Ni dderbynnir ymgeiswyr sydd â Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

Asesu

Asesiadau ysgrifenedig a llafar, gan gynnwys traethodau, profion prosiect, cyflwyniadau poster ac adolygiadau llenyddiaeth.

Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau, cysylltwch â’n tîm ymholiadau a derbyn