Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Dylunio a Datblygu Cymeriadau

MA Dylunio a Datblygu Cymeriadau*

Mae’r gallu i ddylunio a datblygu cymeriadau newydd ac arloesol yn rhywbeth sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr o fewn y diwydiannau creadigol. Mae pob math o gynnyrch a gwasanaethau yn cael eu marchnata a’u hysbysebu yn y ffordd yma ar hyn o bryd.

Trwy astudio’r MA Dylunio Cymeriadau gallwch archwilio potensial datblygu cymeriadau ar gyfer ystod eang o bosibiliadau masnachol ac artistig. Byddwch yn edrych ar ddylunio a datblygu cymeriadau gydag amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys archwilio potensial mewn print, diwygiau rhyngweithiol a 3D. Bydd y cwrs yn eich arwain trwy ddarganfod gwybodaeth, trin a thrafod damcaniaethau cyfredol. Fe’ch anogir hefyd i adolygu’r diwylliant a’r materion damcaniaethol sy’n gysylltiedig â dylunio cymeriadau.  

Mae mwy a mwy o gyfleoedd yn dod i’r fei ar gyfer datblygu cymeriadau mewn cyfryngau rhyngweithiol, 3D a phrint. Felly mae yna angen cynyddol am ddylunio cymeriadau sy’n ystyried trafodaethau damcaniaethol a beirniadol am y berthynas rhwng y gynulleidfa a chymeriad. Mae’r cwrs yn ymchwilio i faes allweddol gofynion esthetig, seicolegol a diwylliannol cynulleidfa darged. Mae’r cwrs yn stiwdio-ganolog a bydd gennych fynediad da i ystod o offer arbenigol sy’n cwmpasu amrywiaeth o gyfryngau a thechnegau.

Mae’r radd Meistr yn canolbwyntio ar ddylunio cymeriadau, ond mae yna hefyd gyfleoedd i weithio mewn cydweithrediad â myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill. Gallai myfyrwyr partnerol ddod o’r Ysgol Gelf a Dylunio neu unrhyw un o raglenni creadigol cysylltiedig y Brifysgol.

Nodweddion arbennig

Mae gan yr Ysgol gysylltiadau gwych gydag ysgolion a phrifysgolion dylunio a chyfryngau eraill ledled y byd. Mae’r rhain yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymweliadau astudio posibl a chyfnewidfeydd myfyrwyr. Mae’r partneriaethau hyn yn cynnwys Academi Domus, Milan/Rhufain; Academi Italiana, Fflorens/Rhufain; Yr Academi Gelf a Dylunio yn Sofia; ICAT, Chennai, India a Phrifysgol Renmin, Beijing, Tsieina.

Cyfleoedd gyrfaol

Mae’r cyfleoedd i fyfyrwyr ar ddiwedd y cwrs yn dda iawn. Roedd 92% o’n holl raddedigion ac uwchraddedigion mewn gwaith cysylltiedig â’u gradd o fewn 12 mis ar ôl graddio.

Rydym yn anelu i sicrhau fod gan Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru bortffolio o waith ac ystod o sgiliau sydd nid yn unig yn eu helpu i ddod o hyd i swydd yn y diwydiant dylunio a chyfryngau, ond hefyd yn eu helpu i hybu eu gyrfaoedd a gweithio o fewn ystod o senarios gwaith. Credwn ei bod yn bwysig iawn i fyfyrwyr allu gweithio yn rhyngwladol.

Cynnwys y cwrs

Mae eich astudiaethau arbenigol wrth galon y cwrs yma. Ynghyd â chefnogaeth diwtorial, rydym yn darparu modiwlau mewn methodolegau ymchwil ac ymarfer i’ch helpu i ddod o hyd i a datblygu syniadau a themâu. Byddwch yn cael cyfleoedd i gydweithredu a gweithio gyda myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill; gall hyn fod yn brosiect masnachol yn ogystal. Mae myfyrwyr animeiddio fel arfer yn cymryd y cyfle yma i gynhyrchu ffilm wedi’i hanimeiddio.

Asesu

Fe’ch asesir trwy eich aseiniadau modiwl. Gan hynny byddwch yn cyflwyno o ystod o waith, megis: cynigion, cysyniadau, llyfrau braslunio, lluniadau, paentiadau, dylunio, taflenni, gweddluniau, modelau, delwedd symudol a gwaith cyfrifiadurol. Bydd disgwyl i chi hefyd gyflwyno ystod o ffeiliau ar eich ymchwil. Fel arfer bydd asesiadau ar ffurf seminarau grŵp rhyngweithiol a adolygir gan staff y cwrs.

Gofynion mynediad

Mae’n rhaid i chi fod â gradd anrhydedd mewn pwnc perthnasol. Os ydych yn dymuno ymuno â’r cwrs ar adeg ac eithrio dechrau’r rhaglen trwy gario credydau lefel meistr presennol, bydd eithriadau o gyfnod cynnar y cwrs yn cael eu hystyried.

Hyd y cwrs

Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd

* Mae’r cwrs yma yn disgwyl cael ei ddilysu

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk