Dylunio Rhyngweithiol
MA Dylunio Rhyngweithiol*
Mae’r cwrs MA Dylunio Rhyngweithiol yn gwrs newydd sy’n ymgymryd â her bwysig, sef sut i greu cynllun sy’n arloesol ac yn ychwanegu at y rhyngweithio rhwng pobl a gwybodaeth. Mae’r ffocws ar feddwl am gysyniadau a chynlluniau ar gyfer rhyngweithiau dynol gyda dulliau newydd. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio defnyddiau, gwrthrychau, gofodau (real a rhithiol), dyfeisiau symudol, delweddaeth a sain. Bydd astudio’r MA Dylunio Rhyngweithiol yn eich arwain trwy ddarganfod gwybodaeth, trin a thrafod damcaniaethau cyfredol. Fe’ch anogir hefyd i adolygu’r diwylliant a’r materion damcaniaethol sy’n gysylltiedig â dylunio rhyngweithiol.
Mae technolegau cyfrifiadurol newydd yn rhan gynyddol o bob agwedd ar ein bywydau, felly mae yna alw am ryngwynebau a systemau graffeg sydd yn hawdd eu defnyddio, yn ddymunol i ymwneud â nhw – ac yn fuddiol. Cymryd agwedd fwy cyfannol, sy’n canolbwyntio ar bobl, at y ffordd yr ydym yn dylunio yw’r unig ffordd i gyflawni hyn. Mae angen i ni archwilio’n llawn y berthynas rhwng pobl a’r modd y maent yn defnyddio technolegau gwybodaeth. Ar y cwrs MA byddwch yn ymchwilio’n llawn i anghenion esthetig, seicolegol a diwylliannol cynulleidfa darged. Bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i chi edrych i mewn i’r ffyrdd yr ydym yn ymwneud â dyfeisiau.
Addysgir y cwrs gan artistiaid a dylunwyr – gweithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn y maes. Y mae’n stiwdio-ganolog, wedi’i arwain gan ymarfer a bydd gennych fynediad i ystod o offer technoleg ddigidol arbenigol.
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gyfathrebu dylunio, ond bydd yna gyfleoedd hefyd i chi weithio gyda myfyrwyr o feysydd pwnc eraill. Dylai’r rhain ddod o Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru neu unrhyw un o gyrsiau creadigol cysylltiedig y Brifysgol.
Nodweddion arbennig
Mae gan yr Ysgol gysylltiadau gwych gydag ysgolion a phrifysgolion dylunio a chyfryngau eraill ledled y byd. Mae’r rhain yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymweliadau astudio posibl a chyfnewidfeydd myfyrwyr. Mae’r partneriaethau hyn yn cynnwys Academi Domus, Milan/Rhufain; Academi Italiana, Fflorens/Rhufain; Yr Academi Gelf a Dylunio yn Sofia; ICAT, Chennai, India a Phrifysgol Renmin, Beijing, Tsieina.
Cyfleoedd gyrfaol
Mae’r cyfleoedd i fyfyrwyr ar ddiwedd y cwrs yn dda iawn. Roedd 92% o’n holl raddedigion ac uwchraddedigion mewn gwaith cysylltiedig â’u gradd o fewn 12 mis ar ôl graddio.
Rydym yn anelu i sicrhau fod gan Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru bortffolio o waith ac ystod o sgiliau sydd nid yn unig yn eu helpu i ddod o hyd i swydd yn y diwydiant dylunio a chyfryngau, ond hefyd yn eu helpu i hybu eu gyrfaoedd a gweithio o fewn ystod o senarios gwaith. Credwn ei bod yn bwysig iawn i fyfyrwyr allu gweithio yn rhyngwladol.
Cynnwys y cwrs
Mae eich astudiaethau arbenigol wrth galon y cwrs yma. Ynghyd â chefnogaeth diwtorial, rydym yn darparu modiwlau mewn methodolegau ymchwil ac ymarfer i’ch helpu i ddod o hyd i a datblygu syniadau a themâu. Byddwch yn cael cyfleoedd i gydweithredu a gweithio gyda myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill; gall hyn fod yn brosiect masnachol yn ogystal. Mae myfyrwyr animeiddio fel arfer yn cymryd y cyfle yma i gynhyrchu ffilm wedi’i hanimeiddio.
Asesu
Ar ddiwedd pob prif gyfnod, asesir eich gwaith yn gryno, ar ffurf beirniadaethau, seminarau, adolygiadau gan gyfoedion ac atborth unigol trwy diwtorialau. Mae asesu diwedd un y cwrs ar ffurf arddangosfa a sioe derfynol. Mae myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith yn allanol i’r Brifysgol. Mae arddangosfa y Dylunwyr Newydd yn Llundain yn un enghraifft.
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i chi fod â gradd anrhydedd mewn pwnc perthnasol. Os ydych yn dymuno ymuno â’r cwrs ar adeg ac eithrio dechrau’r rhaglen trwy gario credydau lefel meistr presennol, bydd eithriadau o gyfnod cynnar y cwrs yn cael eu hystyried.
Hyd y cwrs
Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd
* Mae’r cwrs yma yn disgwyl cael ei ddilysu

