Darlunio ar gyfer Nofelau Graffeg
MA Darlunio ar gyfer Nofelau Graffeg*
Mae hwn yn gwrs uwchraddedig newydd a chyffrous, sy’n caniatáu i’w fyfyrwyr archwilio cyfrwng y llyfr comig. Mae’r prif ffocws ar archwilio’r cyfrwng yma yn ei holl gyd-destunau gwahanol, gan edrych ar ddelwedd, teipograffeg, dilyniant a gweddlun. Trwy astudio’r cwrs yma, byddwch yn cael eich tywys ar daith o ddarganfod gan drin a thrafod damcaniaethau ac arfer cyfredol. Rydym yn eich annog hefyd i adolygu materion diwylliannol a damcaniaethol sy’n berthnasol i nofelau graffeg.
Mae’r farchnad nofelau graffeg yn tyfu a thyfu felly mae yna alw am artistiaid gyda dealltwriaeth ddofn o ofynion penodol y cyfrwng. Gellir cyflawni hyn trwy ddatblygu agwedd gyfannol at y modd y mae nofelau graffeg yn cael eu hysgrifennu a’u cyflwyno. Y prif feysydd y bydd y rhaglenni MA yn disgwyl i chi ymchwilio iddynt yn llawn yw gofynion esthetig, seicolegol a diwylliannol cynulleidfa darged a chyd-destun posibl ymrwymiad â naratifau.
Addysgir y rhaglen gan artistiaid a dylunwyr darluniadol – pobl broffesiynol sy’n gweithio yn y maes. Mae’r cwrs yn stiwdio-ganolog, wedi’i arwain gan ymarfer, a bydd gennych fynediad i ystod eang o offer technoleg arbenigol.
Mae’r rhaglen wedi’i gosod o fewn cyfathrebu dylunio, ond byddwch yn cael y cyfle i weithio mewn cydweithrediad â myfyrwyr o gyrsiau eraill. Gallai’r myfyrwyr hyn ddod o’r Ysgol Gelf a Dylunio neu unrhyw un o gyrsiau creadigol cysylltiedig y Brifysgol.
Mae’r radd yn dynodi’r angen am fath newydd o ymarferydd sy’n arbenigo mewn trosglwyddo gwybodaeth ac yn sensitif i’r anghenion esthetig, seicolegol a gwybodus am gyd-destunau technolegol cyfredol a datblygol.
Nodweddion arbennig
Mae gan yr Ysgol gysylltiadau gwych gydag ysgolion a phrifysgolion dylunio a chyfryngau eraill ledled y byd. Mae’r rhain yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymweliadau astudio posibl a chyfnewidfeydd myfyrwyr. Mae’r partneriaethau hyn yn cynnwys Academi Domus, Milan/Rhufain; Academi Italiana, Fflorens/Rhufain; Yr Academi Gelf a Dylunio yn Sofia; ICAT, Chennai, India a Phrifysgol Renmin, Beijing, Tsieina.
Cyfleoedd gyrfaol
Gall graddedigion o’r cwrs yma ddisgwyl cael swydd yn y diwydiannau creadigol. Bydd y profiad a gewch nid yn unigyn lansio eich gyrfa fel artist Nofelau Graffeg, ond hefyd yn cyflwyno cyfleoedd mewn ystod o feysydd megis dylunio a datblygu cymeriadau, darlunio ar gyfer llyfrau plant, cyhoeddi, animeiddio, teledu a’r cyfryngau. Mae’r diwydiannau creadigol yn amgylchedd cynyddol amlddisgyblaethol, a disgwylir i ddylunwyr proffesiynol yn arbennig allu gweithio mewn timau. Mae yna gyfleoedd hefyd i raddedigion hybu eu gyrfa ym Mhrifysgol Glyndŵr o fewn canolfan ymchwil.
Cynnwys y cwrs
Mae eich astudiaethau arbenigol wrth galon y cwrs yma. Ynghyd â chefnogaeth diwtorial, rydym yn darparu modiwlau mewn methodolegau ymchwil ac ymarfer i’ch helpu i ddod o hyd i a datblygu syniadau a themâu. Byddwch yn cael cyfleoedd i gydweithredu a gweithio gyda myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill; gall hyn fod yn brosiect masnachol yn ogystal. Byddwch yn ymgymryd â thraethawd estynedig a chyflwyniad meistr. Mae myfyrwyr Nofelau Graffeg fel arfer yn defnyddio’r cyfle yma i gynhyrchu nofel graffeg.
Asesu
Fe’ch asesir trwy eich aseiniadau modiwl. Gan hynny byddwch yn cyflwyno o ystod o waith, megis: cynigion, cysyniadau, llyfrau braslunio, lluniadau, paentiadau, dylunio, taflenni, gweddluniau, modelau, delwedd symudol a gwaith cyfrifiadurol. Bydd disgwyl i chi hefyd gyflwyno ystod o ffeiliau ar eich ymchwil. Mae asesiadau fel arfer ar ffurf seminarau grŵp rhyngweithiol a adolygir gan staff y cwrs.
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i chi fod â gradd anrhydedd mewn pwnc perthnasol. Os ydych yn dymuno ymuno â’r cwrs ar adeg ac eithrio dechrau’r rhaglen trwy gario credydau lefel meistr presennol, bydd eithriadau o gyfnod cynnar y cwrs yn cael eu hystyried.
Hyd y cwrs
Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd
* Mae’r cwrs yma yn disgwyl cael ei ddilysu

