Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Animeiddio

MA Animeiddio

Amcan y cwrs uwchraddedig yma yw datblygu cyfarwyddwr animeiddio creadigol. Mae yna amrywiaeth lawn o dechnegau animeiddio ar gael i fyfyrwyr eu harchwilio, o animeiddiadau wedi’i lluniadu yn draddodiadol i bypedau 3D a modelau CGI. Anogir myfyrwyr i arbrofi a dod o hyd i’w llais unigryw yn y maes hynod fynegol yma o gyfryngau delwedd symudol.

Fel rhan o’n trefniadau “Labordy Stiwdio Greadigol”, mae animeiddwyr uwchraddedig yn cael y cyfle i weithio gyda Darlunwyr, Dylunwyr Graffeg a Dylunwyr Amlgyfryngau Rhyngweithiol a hyd yn oed gydag Artistiaid Cain.

Ein nod yw cynhyrchu ymarferwyr diddorol sy’n gallu datblygu cymeriadau a themâu eraill sy’n briodol i Ffilm, Ffotograffiaeth, Gêmau, Teledu a mathau eraill o gyfryngau darlledu.

Mae myfyrwyr yn cael y cyfle i ymwneud â phrosiectau byw a masnachol pan fyddant ar gael ac mae yna gyfleoedd i fyfyrwyr aros a datblygu eu gyrfaoedd datblygol gyda ni ar ôl graddio, trwy ein rhwydweithiau deor.   

Nodweddion arbennig

Mae gan yr Ysgol gysylltiadau gwych gydag ysgolion a phrifysgolion dylunio a chyfryngau eraill ledled y byd. Mae’r rhain yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymweliadau astudio posibl a chyfnewidfeydd myfyrwyr. Mae’r partneriaethau hyn yn cynnwys Academi Domus, Milan/Rhufain; Academi Italiana, Fflorens/Rhufain; Yr Academi Gelf a Dylunio yn Sofia; ICAT, Chennai, India a Phrifysgol Renmin, Beijing, Tsieina.

Cyfleoedd gyrfaol

Mae’r cyfleoedd i fyfyrwyr ar ddiwedd y cwrs yn dda iawn. Roedd 92% o’n holl raddedigion ac uwchraddedigion mewn gwaith oedd yn gysylltiedig â’u gradd o fewn 12 mis ar ôl graddio.**

Rydym yn anelu i sicrhau fod gan Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru bortffolio o waith ac ystod o sgiliau sydd nid yn unig yn eu helpu i ddod o hyd i waith yn y diwydiant dylunio a chyfryngau, ond hefyd yn eu helpu i hybu eu gyrfaoedd a gweithio o fewn ystod o senarios gwaith. Credwn ei bod yn bwysig iawn i fyfyrwyr allu gweithio yn rhyngwladol.

Cynnwys y cwrs

Mae eich astudiaethau arbenigol wrth galon y cwrs yma. Ynghyd â chefnogaeth diwtorial, rydym yn darparu modiwlau mewn methodolegau ymchwil ac ymarfer i’ch helpu i ddod o hyd i a datblygu syniadau a themâu. Byddwch yn cael cyfleoedd i gydweithredu a gweithio gyda myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill; gall hyn fod yn brosiect masnachol yn ogystal. Mae myfyrwyr animeiddio fel arfer yn manteisio ar y cyfle yma i gynhyrchu ffilm wedi’i hanimeiddio.

Asesu

Fe’ch asesir trwy eich aseiniadau modiwl. Gan hynny byddwch yn cyflwyno o ystod o waith, megis: cynigion, cysyniadau, llyfrau braslunio, lluniadau, paentiadau, dylunio, taflenni, gweddluniau, modelau, delwedd symudol a gwaith cyfrifiadurol. Bydd disgwyl i chi hefyd gyflwyno ystod o ffeiliau ar eich ymchwil. Fel arfer bydd asesiadau ar ffurf seminarau grŵp rhyngweithiol a adolygir gan staff y cwrs.

Gofynion mynediad

Mae’n rhaid i chi fod â gradd anrhydedd mewn pwnc perthnasol. Os ydych yn dymuno ymuno â’r cwrs ar adeg ac eithrio dechrau’r rhaglen trwy gario credydau lefel meistr presennol, bydd eithriadau o gyfnod cynnar y cwrs yn cael eu hystyried.

Hyd y cwrs

Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk