Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Addysg

MA Addysg

Mae’r cwrs yma wedi cael ei gynllunio i ddarparu ystod o gyfleoedd hyblyg i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym myd addysg (pob sector), hyfforddiant a’u holl feysydd cysylltiedig.

Mae gan y rhaglen fframwaith modiwlaidd deniadol sydd yn gyfoes o ran ei gynllun ac yn cwmpasu tair prif thema:  rheolaeth, cwricwlwm a chynhwysiad, gyda phob thema yn meddu ar fodiwlau penodol y gellir eu cyflenwi a’u hastudio yn hyblyg ac yng nghyd-destun eich anghenion datblygiad proffesiynol eich hun.

Gallwch ddewis astudio ar gyfer dyfarniad a enwir o fewn thema neu ar gyfer y dyfarniad generig trwy astudio modiwlau ar draws y themâu. Byddwch yn cael eich herio i ymgymryd ag astudiaeth fanwl er mwyn ehangu a dwysáu eich dealltwriaeth a myfyrio yn feirniadol am hyn a pha effaith y gallai ei gael ar ymarfer.

MA Addysg pic

Prif ffeithiau

  • Cynlluniwyd y rhaglen mewn partneriaeth ag AALl, darparwyr hyfforddiant ac addysg uwch a phellach yn lleol, asiantaethau proffesiynol ac ymgynghorwyr blaenllaw
  • Mae’r MA yn darparu Datblygiad Proffesiynol Parhaus i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn ysgolion, hyfforddiant ac addysg bellach, addysg uwch a sectorau cymunedol a gwirfoddol
  • Mae’r rhaglen yn darparu cyfleoedd i fynd yn eich blaen o lefel israddedig trwy gynnig nifer o bwyntiau gadael: modiwl sengl, tystysgrif ôl-radd, diploma ôl-radd ac MA Addysg

Hyd y cwrs

Llawn amser

Blwyddyn

Rhan-amser

2-3 blynedd

Lleoliad: Wrecsam

Mis dechrau: Medi

Cynnwys y cwrs

  • Arfer Adfyfyriol – Datblygu ac Adolygu
  • Pontio a Throsglwyddo
  • Dosbarth sy’n Cefnogi Dyslecsia
  • Addysgu Myfyrwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Arsylwi yn y Dosbarth
  • Mentora
  • Addysgu Ymchwil Drwythedig
  • Agwedd Addysgol sy’n seiliedig ar E-ddysgu
  • Arfer Adfyfyriol ac AU
  • Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
  • Dulliau Ymchwil
  • Agweddau Creadigol at Gynllunio Strategol
  • Arweinyddiaeth Academaidd
  • Traethawd Estynedig

Cyfleoedd gyrfa

Mae’r cwrs yma yn rhoi dyfarniad sy’n gallu hyrwyddo gyrfa, ac yn ddyfarniad sydd wedi’i gydnabod yn rhyngwladol ac wedi’i werthfawrogi gan sawl proffesiwn.

Gofynion derbyn

Gradd anrhydedd dda mewn pwnc perthnasol. Mae nifer o fodiwlau yn gofyn i chi fod yn gweithio mewn amgylchedd ystafell ddosbarth mewn ysgol, neu fod gennych fodd o wneud hynny. Cyfeiriwch hefyd at wybodaeth am yr Awdurdod Diogelu Annibynnol.

Asesu

Bydd asesiadau yn adlewyrchu’r cyd-destun proffesiynol yr ydych yn gweithio ynddo ac yn adlewyrchu agwedd wedi’i harwain gan ymholiad sy’n cynnwys portffolios, cyflwyniadau, adroddiadau, prosiectau ymchwil, adroddiadau i grwpiau seminar a thraethodau.

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk