|
|
||
|
|
DyslecsiaTystysgrif Uwchraddedig mewn Dyslecsia* Cwrs wedi’i achredu gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain sy’n arwain at Statws Athro Cymeradwyedig (ATS) / Aelodaeth Gyswllt o Gymdeithas Dyslecsia Prydain (AMBDA). Nod y cwrs yw gwella gwybodaeth, sgiliau a hyder athrawon i weithio gyda disgyblion sydd ag Anawsterau Dysgu Penodol, dyslecsia yn arbennig. Byddai o ddiddordeb i ymarferwyr, o unrhyw Gyfnod Allweddol, sy’n dymuno dynodi a chefnogi disgyblion yn eu lleoliad sydd â dyslecsia. Cynigir y cwrs yn rhan-amser a’i gynnal ar ddydd Sadwrn gydol y flwyddyn academaidd, gan ddechrau ym mis Hydref 2011. Addysgir y modiwlau trwy sesiynau addysgu wyneb-yn-wyneb (pump ym mhob modiwl), gweithgareddau ysgol a gweithdai. Bydd yna hefyd gyfleoedd rheolaidd ar gyfer tiwtorialau i unigolion neu grwpiau bychain. *yn amodol ar gael ei ddilysu Cynnwys y cwrsModiwl 1 Modiwl 2 Modiwl 3 Strwythur y cwrsBydd cwblhau Modiwl 1 (Dirnad dyslecsia: arfer seiliedig-ar-ymchwil) a Modiwl 2 (Addysgu a Chefnogi Dysgwyr gyda Dyslecsia) yn arwain at Dystysgrif Uwchraddedig yn ogystal â galluogi ymgeiswyr i wneud cais i Gymdeithas Dyslecsia Prydain am Statws Athro Cymeradwyedig, ATS; cymhwyster arbenigol a gydnabyddir fwyfwy gan Awdurdodau Lleol a chyflogwyr eraill. Bydd mynd ymlaen i gwblhau modiwl 30 credyd ychwanegol (Dyslecsia: Arfer Proffesiynol Uwch i athrawon) yn arwain at Aelodaeth Gyswllt o Gymdeithas Prydain, AMBDA. Gallai’r athrawon hynny sydd eisoes yn meddu ar gymhwyster Dyslecsia/ SpLD (anawsterau dysgu penodol) cydnabeddig ar Lefel ATS fod â diddordeb mewn cael cymwysterau ychwanegol er mwyn cyflawni statws AMBDA. Gallai’r ymgeiswyr ddewis parhau â modiwlau ychwanegol a gweithio tuag at eu gradd Meistr. AsesuAsesir y cwrs trwy bortffolio o dystiolaeth, gweithgareddau ymchwil ac arsylwi arfer addysgu. Gofynion y cwrsDylai ymgeiswyr (ac eithrio therapyddion iaith a lleferydd a seicolegwyr) feddu ar radd gyntaf ac o leiaf dwy flynedd o brofiad addysgu. Dylai ymgeiswyr hefyd gael llythyr o gefnogaeth o’u hysgol a meddu ar Ddatgeliad Swyddfa Cofnodion Troseddol Manylach. Sut i wneud caisMae ffurflenni cais uniongyrchol ar gael yma neu gan y tîm Derbyn ac Ymholiadau ar 01978 293439. Os oes gennych fwy o gwestiynau, cysylltwch â Jayne Evans, Uwch Ddarlithydd mewn Anghenion Dysgu Arbennig/Ychwanegol. Rhif ffôn: 01978 293543 |
Am fwy o wybodaeth |