Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Deunyddiau Cyfansawdd

MSc Deunyddiau Cyfansawdd

MRes Deunyddiau Cyfansawdd

Yn hanesyddol, mae adenydd awyrennau wedi’u gwneud o aloi alwminiwm. Erbyn hyn mae yna chwyldro yn y defnydd o ddeunyddiau, a bellach mae deunyddiau cyfansawdd (composites) yn cael eu defnyddio’n eang yn y diwydiant oherwydd fod y strwythurau yn pwyso’n llai ac felly yn arwain at gostau rhedeg is.

Mae'r cyrsiau hyn yn sôn am theori mecanwaith deunyddiau cyfansawdd, ystyriaethau dylunio ac agweddau amgylcheddol yn ymwneud â hwy. Y nod yw darparu dealltwriaeth crud-i-bedd o'r deunyddiau hyn. Cynlluniwyd y cyrsiau hyn mewn cydweithrediad agos ag Airbus UK er mwyn bod yn gyflwyniad, wedi’i arwain gan y diwydiant, i gyfansoddion a’u defnydd mewn awyrennau a diwydiannau eraill.

Maent yn rhoi’r ddealltwriaeth gefndir i’r materion y tu ôl i'r defnydd o ddeunyddiau cyfansawdd mewn strwythurau awyrennau a chymwysiadau trafnidiaeth eraill. Mae’r cyrsiau hefyd yn cyflwyno gweithgynhyrchu manylion a chydosodiadau deunyddiau cyfansawdd, mecanwaith deunyddiau cyfansawdd a sut y maent yn wahanol i ddeunyddiau isotropig.

Mae'r MSc yn gwrs trosi i'r rheiny sydd â chefndir mewn strwythurau metelig, yn ogystal â bod yn gyflwyniad cynhwysfawr i ddeunyddiau cyfansawdd a’u defnydd mewn diwydiant.
Mae'r cwrs MRes yn radd Meistr sy’n seiliedig ar ymchwil, ac mae ar gyfer pobl sydd eisoes â gradd gyntaf neu radd drosi Meistr mewn pwnc perthnasol ac sy’n dymuno archwilio a datblygu eu potensial eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil ar lefel ôl-raddedig.

Deunyddiau Cyfansawdd PIC

Prif ffeithiau

  • Mae’r Brifysgol wrthi’n ceisio cael achrediad ar gyfer y cyrsiau hyn gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET)
  • Cyfleusterau darlithio, ymchwilio a TG ardderchog ar gael oherwydd fod y Brifysgol yn cydweithio ag Airbus UK yn y cyfleuster ar y cyd ganddynt, sef y Ganolfan Datblygu a Hyfforddi Deunyddiau Cyfansawdd Uwch
  • Mae gan y Brifysgol brofiad helaeth o brosesu cyflym ar ddeunydd polymer cyfansawdd tu allan i ffwrn aerglos drwy ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau, gan gynnwys prosesu microdon, sefydlu a Quickstep (trosglwyddo gwres hylif).
    Mae gennym hefyd arbenigedd mewn cemeg resin ac amrywiaeth eang o fathau o resin
  • Bydd gan y labordy gyfleusterau ar gyfer dadansoddi thermol ar ddeunydd cyfansawdd ac yn gallu gweithgynhyrchu cydrannau bach o ffibrau wedi’u trwytho’n barod yn ogystal â ffibrau sych
  • Gellir cysylltu ymchwil yn y maes hwn â gwaith ymchwil presennol ym meysydd deinameg hylif cyfrifyddol, peirianneg awyrennau a pheirianneg ceir rasio
  • Gan fod peth o ymchwil cyfansoddiadau yn cynnwys modelu gwres drwy ddefnyddio tonnau electromagnetig, mae hyn yn cysylltu ag ymchwil mewn peirianneg cyfrifiadura a thrydanol

Cynnwys y cwrs

MSc Deunyddiau Cyfansawdd

  • Cyflwyniad i ddeunyddiau cyfansawdd, i’w cynhyrchu a’u nodweddion – sôn yn gyffredinol am y galw sydd wedi dod o’r diwydiant awyrofod ar gyfer deunyddiau cyfansawdd, gan gynnwys y math o ddeunydd cyfansawdd sydd ar gael a’u cyfansoddion. Fel rhan o'r modiwl hwn byddwch yn astudio’r ystyriaethau y tu ôl i ddewis y deunydd cyfansawdd cywir ar gyfer cymhwysiad, dulliau cynhyrchu a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer gwneud deunyddiau cyfansawdd a hanfodion mecanwaith deunydd cyfansawdd
  • Cydosod, uno ac atgyweirio deunydd cyfansawdd - archwilio offer a thechnegau cydosod ac asio deunydd cyfansawdd, ac mae hyn yn cynnwys drilio, tocio, shimio, selio a chlymu. Byddwch yn adolygu sut y mae hyn yn wahanol i fetelau a chewch eich cyflwyno i'r dulliau a ddefnyddir i atgyweirio. Bydd y modiwl hwn hefyd yn trafod effaith deunydd cyfansawdd, yn enwedig mewn gwrthdrawiad, ac yn adolygu’r dulliau a ddefnyddir ar gyfer sicrwydd ansawdd
  • Dylunio gyda deunyddiau cyfansawdd - theori - mae hwn yn sôn am fecaneg fanwl a’r defnydd o ddeunydd cyfansawdd a theori glasurol lamineiddio, gan gynnwys theori sylfaenol deunydd cyfansawdd ar gyfer cyfansoddion matrics hydwyth a brau.
    Bydd yn edrych hefyd ar theori dadansoddi ar gyfer effaith cyfaint ffracsiwn, methiant deunydd cyfansawdd ac effaith ongl y llwytho yn ogystal â’r prif feini prawf methu
  • Dylunio gyda deunyddiau cyfansawdd - ymarferol - byddwch yn ymwneud â mecaneg fanwl deunydd cyfansawdd a theori glasurol lamineiddio, yn ogystal â chael y cyfle i gymhwyso egwyddorion i ddewis a dylunio laminiad(au) penodol.
    O'r modiwl hwn, byddwch yn dod i ddeall yn fanwl y gofynion posibl y mae mellt yn eu hachosi i awyren a'i strwythur cyfansawdd. Byddwch hefyd yn defnyddio dulliau rheoli modern i reoli deunyddiau cyfansawdd
  • Dadansoddi, profi a sicrhau ansawdd deunyddiau cyfansawdd – bydd y modiwl hwn yn archwilio nodweddion mecanyddol deunyddiau cyfansawdd ac yn esbonio eu cyfyngiadau
    Bydd hefyd yn cyflwyno dulliau dadansoddi thermol a ddefnyddir wrth ddadansoddi deunyddiau cyfansawdd
  • Agweddau amgylcheddol yn ymwneud â deunyddiau cyfansawdd – byddwch yn deall effeithiau amodau amgylcheddol ar fywyd deunydd cyfansawdd; effaith tân arnynt; effaith mellt ar ddeunyddiau a strwythurau. Byddwch hefyd yn dysgu am ailgylchu a dulliau rheoli diwedd oes deunyddiau cyfansawdd yn ogystal â dod i ddeall oblygiadau cyfreithiol a materion iechyd a diogelwch
  • Traethawd Estynedig/Prosiect

MRes Deunyddiau Cyfansawdd

Byddwch yn astudio sawl dewis o’r modiwlau a restrir ar gyfer y cwrs MSc, ynghyd â'ch prosiect ymchwil helaeth eich hun.

Gofynion mynediad

Caiff y cwrs hwn ei ddysgu mewn blociau wedi’ch rhyddhau o’ch gwaith cyflogedig, felly dylech eisoes fod wedi’ch cyflogi mewn sector cysylltiedig a bod â gwybodaeth weithredol am ddeunyddiau cyfansawdd.

Cyfleoedd Gyrfa

Bydd yr arbenigedd a enillwch o’r rhaglenni yn eich rhoi ar flaen y gad ym maes datblygu awyrennau, yn ogystal â diwydiannau cysylltiedig lle mae'r prosesau a deunyddiau newydd yn hanfodol i ddyfodol y diwydiant. Gallai cwblhau'r cwrs MRes arwain at yrfa mewn gwaith ymchwil lle gallech barhau â’ch diddordeb ymchwil ac arwain arloesedd.

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk