Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Datblygiad Proffesiynol (Addysg)

Tystysgrif Ôl-radd mewn Datblygiad Proffesiynol (Addysg)

Diploma Ôl-radd mewn Datblygiad Proffesiynol (Addysg)

Mae’r rhaglen hon yn cynnig DPP achrededig a hyblyg i athrawon, gan eu galluogi i adeiladu portffolio strwythuredig o dystiolaeth o’u hymarfer.

Mae'r Dystysgrif Ôl-radd mewn Datblygiad Proffesiynol (Addysg) yn rhoi i chi Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a fydd yn eich galluogi i fodloni safonau Athro Newydd Gymhwyso (NQT). Mae'r Diploma Ôl-radd mewn Datblygiad Proffesiynol (Addysg) wedi'i gynllunio i ddarparu datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon sydd wrthi’n addysgu. Nod y ddwy raglen yw ceisio cysylltu theori ag ymarfer y rheiny sy’n astudio’r cwrs, a hynny er mwyn i’r manteision wir gael eu teimlo gan yr Athrawon Newydd Gymhwyso a’u hysgolion.

Prif ffeithiau

  • Mae Prifysgol Glyndŵr yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr, sefydliadau ac asiantaethau cysylltiedig. Rydym yn cydweithio'n agos ag ysgolion, colegau addysg bellach ac awdurdodau addysg lleol i gynnig cyfleoedd DPP cynhwysfawr i athrawon. Mae'r partneriaethau hyn yn ganolog wrth sicrhau bod pob rhaglen yn addas i'r diben ac yn cynnig y cyfle gorau o ran cyflogaeth a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniwyd y cyrsiau hyn wedi ei gynllunio mewn partneriaeth ag awdurdodau addysg lleol, asiantaethau proffesiynol ac ymgynghorwyr blaenllaw
  • Bydd y cyrsiau hyn yn gwella eich ymarfer ac yn cryfhau'r cyswllt sydd gennych rhwng addysgu ac ymchwil

Hyd y cwrs

Rhan-amser
Tystysgrif Ôl-radd: blwyddyn i 4 blynedd
Diploma Ôl-radd: 2 i 4 blynedd
Lleoliad: Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych
Mis dechrau: Hydref/Chwefror

Cyfleoedd gyrfa

Mae'r cyrsiau yn cynnig datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon a fydd yn eu rhoi ar y blaen mewn marchnad cyflogaeth gystadleuol.

Cynnwys y cwrs

Cynlluniwyd y cwrs i ddarparu datblygiad proffesiynol i athrawon wrth eu gwaith ac mae wedi ei achredu gan Brifysgol Cymru. Mae’n rhaid astudio a chyflawni 60 credyd er mwyn cael y Dystysgrif Ôl-radd mewn Datblygiad Proffesiynol (Addysg). Mae'r Diploma Ôl-radd mewn Datblygiad Proffesiynol (Addysg) yn cynnwys nifer o wahanol fodiwlau y gellir eu grwpio gyda'i gilydd.

Tystysgrif Ôl-radd mewn Datblygiad Proffesiynol (Addysg)

  • Yr Ymarferydd Adfyfyriol
  • Dysgu wrth Addysgu
  • Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol

Diploma Ôl-radd mewn Datblygiad Proffesiynol (Addysg)

  • Atebolrwydd, Gwerthuso a Gwella Ysgolion
  • Cynllunio Strategol a Datblygiad ar gyfer Gwella Ysgolion
  • Arwain a Rheoli Staff
  • Arsylwi yn y Dosbarth
  • Mentora mewn Ymarfer
  • Gweithredu Ymchwil ar gyfer Gwella Ysgolion
  • Cydweithio i gael Ysgol Effeithiol
  • Addysgeg i Gymru yn yr 21ain Ganrif
  • Datblygu meddwl ac asesu ar gyfer dysgu
  • Pontio
  • Y Cwricwlwm Cymreig
  • Cynhwysiad/AAA
  • Addysg, Dinasyddiaeth a Meddwl yn Feirniadol
  • Techniquest - Rhifedd a Datrys Problemau
  • Techniquest - Datblygiad Sgiliau Meddwl
  • Techniquest - Cynaliadwyedd, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang
  • Datblygiad Corfforol ac Addysg Gorfforol - rhoi theori ar waith
  • Datblygu Iechyd a lles Emosiynol
  • Gweithio mewn Partneriaeth
  • Cyflwyniad i Addysgu Sgiliau Sylfaenol trwy’r Cwricwlwm
  • Sgiliau Sylfaenol mewn Pontio - Rhifedd
  • Sgiliau Sylfaenol mewn Pontio - Llythrennedd
  • Asesu ar gyfer Strategaethau Dysgu

Gofynion derbyn

Rhaid i athrawon fod â Statws Athro Cymwysedig.

Asesu

Byddwch yn gwneud aseiniadau ymarferol drwy gydol y cwrs. Mae tîm y cwrs yn barod i dderbyn defnydd creadigol o strategaethau asesu sy’n hwyluso ac yn cefnogi arddulliau dysgwyr wrth ddysgu. Mae yna ddulliau asesu amrywiol, gan gynnwys gwaith ysgrifenedig, portffolios, a chyflwyniadau. Yn arbennig, bydd yr asesiad yn galluogi theori i lywio ymarfer ac yn rhoi modd i gyfranogwyr fyfyrio'n feirniadol ar ansawdd arweinyddiaeth, rheolaeth, dysgu ac addysgu yn eu hysgolion, yn ogystal â’u gwella lle bo hynny’n bosibl.

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk