Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Doethuriaeth Broffesiynol mewn Crefydd ac Addysg

Doethuriaeth Broffesiynol mewn Crefydd ac Addysg (DMin)

Nod y ddoethuriaeth broffesiynol arloesol yma yw hybu sgiliau ymarferwyr sy’n gweithio mewn cyd-destunau seiliedig-ar-ffydd a chysylltiedig-â-chrefydd. Ar hyn o bryd, mae modd dilyn y rhaglen trwy’r tri prif lwybr neu ‘ffrwd’: 

 

Doethuriaeth Broffesiynol mewn Crefydd ac Addysg pic

Prif ffeithiau

  • Datblygwyd y rhaglen a’i chyflenwi mewn cydweithrediad â Chanolfan y Santes Fair a San Silyn.
  • Mae’r Ganolfan Astudiaethau Gweinidogaeth Wledig yn cynnig cyfle arbennig i fyfyrwyr fynd ar drywydd ymholiadau i’w prif bynciau eu hunain.
  • Cefnogir y rhaglen gan gyfadran o ysgolheigion, a gydnabyddir yn rhyngwladol am eu hymchwil a’u cyhoeddiadau ym maes addysg seiliedig-ar-ffydd a chysylltiedig-â-chrefydd.
  • Bydd angen i chi fynychu tair seminar breswyl yn ystod pob blwyddyn er mwyn cyflawni gofynion y rhaglen.
  • Cynhelir seminarau preswyl yn Llyfrgell Gladstone, Penarlâg, gyda’r nod o ddarparu cyfleoedd ar gyfer trafodaethau beirniadol a chefnogol o’ch gwaith a’ch syniadau ar adegau allweddol yn y flwyddyn academaidd.   
  • Mae gan Lyfrgell Gladstone gasgliad ardderchog o dros 250,000 o lyfrau, cyfnodolion a llyfrynnau ond yn arbenigo mewn Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Fictorianaidd. Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig ystod ar-lein eang o gyfnodolion ac adnoddau electronig.
  • Bydd staff tiwtorial penodedig yn eich cefnogi rhwng seminarau ac fe’ch anogir i ddatblygu rhwydweithiau cefnogi-cydfyfyrwyr anffurfiol. Bydd y rhain yn galluogi’r rheiny sy’n gweithio ar broblemau cyffrelyb, neu’n defnyddio dulliau cyffelyb, i elwa o brofiad ac ymroddiad ei gilydd. 

Hyd y cwrs


Rhan-amser
Hyd at 6 mlynedd
Lleoliad: disgwylir i fyfyrwyr fynychu tair seminar breswyl y flwyddyn
Mis cychwyn: Medi

Cynnwys y cwrs

Mae hyblygrwydd mewnol y cwrs o ran cynnwys yn ogystal â’i gyflenwi yn golygu y gall ymateb i anghenion datblygiad proffesiynol amrywiol pobl sy’n gweithio mewn cyd-destunau seiliedig-ar-ffydd a chysylltiedig-â-chrefydd.   

Mae’r rhaglen gyfan wedi’i chynllunio i gwmpasu chwe blynedd o astudiaeth ran-amser, ac yn cynnwys y pwyntiau gadael canlynol:

  • Blwyddyn 1 (ar ôl cwblhau dau fodiwl) yn arwain at Dystysgrif Uwchraddedig
  • Blwyddyn 2 (ar ôl cwblhau dau fodiwl) yn arwain at Ddiploma Uwchraddedig
  • Blwyddyn 3 (ar ôl cwblhau traethawd hir 18,000-gair) yn arwain at MA
  • Blwyddyn 4 (modiwl Ymchwil a Chynnig, yn galluogi symud ymlaen at draethawd ymchwil)
  • Blynyddoedd 5 a 6 (traethawd ymchwil 45,000-gair) yn arwain at DMin

Modiwlau’r cwrs

Mae’r modiwlau, y traethawd hir, a’r traethawd ymchwil i gyd yn canolbwyntio ar ddewis a chymhwyso methodolegau ymchwil priodol i edrych ar gwestiynau a holwyd gan y myfyrwyr sy’n berthnasol i’w cyd-destun gwaith eu hunain. Mae’r modiwlau sydd ar gael ym mlynyddoedd 1 a 2 yn darparu profiad yn y defnydd o fethodolegau ymchwil amrywiol, sydd yna’n cael eu datblygu ymhellach mewn astudiaethau mwy ym mlynyddoedd 3 i 6. Ym mlynyddedd 1 a 2, gallwch ddewis pedwar modiwl o blith yr opsiynau canlynol:

  • Astudiaethau Ethnograffig mewn Crefydd ac Addysg
  • Astudiaethau Cyfweld mewn Crefydd ac Addysg
  • Astudiaethau Ansoddol mewn Crefydd ac Addysg
  • Astudiaethau Hanesyddol mewn Crefydd ac Addysg
  • Astudiaethau Athronyddol mewn Crefydd ac Addysg
  • Astudiaethau Mesurol mewn Crefydd ac Addysg
  • Astudiaethau Diwinyddol mewn Crefydd ac Addysg
  • Astudiaethau Holiadur mewn Crefydd ac AddysgCyfleoedd gyrfa
  • Astudiaethau Beiblaidd mewn Crefydd ac Addysg

Cyfleoedd gyrfa

Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol yn cyfuno modiwlau a addysgir, seiliedig-ar-ymchwil gyda datblygiad eich gyrfa broffesiynol. Mae cwmpas y cwricwlwm yn eich galluogi i ymgymryd â, cymhwyso a datblygu ystod o agweddau ymchwil a methodolegol at eich arfer proffesiynol eich hun. Mae’n bwysig nodi ei bod wedi’i chynllunio hefyd i’ch darparu gyda chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a myfyrdod. Bydd disgwyl i chi arddangos eich gallu i ymgymryd ag ymchwil a chyhoeddiadau lefel broffesiynol a allai wneud cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth ym maes arfer proffesiynol seiliedig-ar-ffydd a chysylltiedig-â-chrefydd.  

Gofynion mynediad

Yn ddelfrydol, bydd gennych radd a thair blynedd o brofiad proffesiynol mewn cyd-destunau seiliedig-ar-ffydd a chysylltiedig-â-chrefydd a ymgymerwyd yn y pum mlynedd blaenorol. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltiadau lefel broffesiynol. Mae’n rhaid bod gennych fynediad i leoliad proffesiynol mewn maes sy’n briodol i’ch maes astudio. (Os nad oes gennych radd, ond â phrofiad helaeth a pherthnasol yn y weinidogaeth, mae’n bosib y gallwch wneud cais i hyn gael ei gydnabod fel cymhwyster mynediad ar gyfer y rhaglen.)     

Os oes gennych ymholiadau am y Ganolfan Astudiaethau Gweinidogaeth Wledig, cysylltwch i ddechrau â’r Parchedig Ganon Canon Jeremy Martineau. Naill ai ebostiwch yma neu ffoniwch 01348 874886.

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk