Astudiaethau Ieuenctid a Chymuned
MA Astudiaethau Ieuenctid a Chymuned
Diploma Uwchraddedig mewn Astudiaethau Ieuenctid (Cymhwysol Cychwynnol)
Diploma Uwchraddedig mewn Astudiaethau Ieuenctid a Chymuned (Ôl Gymhwysol)
Mae’r cyrsiau hyn yn eich helpu i fod yn ymarferydd annibynnol, ymreolaethol gyda sgiliau mewn dadansoddi beirniadol a’r gallu i arloesi mewn ymarfer. Byddwch yn meddu ar y sgiliau i ddadansoddi a gwerthuso ffactorau allweddol tyngedfennol wrth ddarparu dysg o fewn cymunedau.
Mae’r materion a gwmpasir yn y cyrsiau yn cynnwys dadansoddi asiantaethau cyflenwi, ymatebion polisi cymdeithasol ac effeithiolrwydd dulliau sydd ar gael; cysylltu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n ofynnol o fewn astudiaethau ieuenctid a chymuned â strategaethau ymyrryd; dadansoddi sut mae gwasanaethau i bobl ifanc ac oedolion yn cael eu cyflenwi mewn cyd-destunau cymunedol; a chymhwyso’r offer a’r prosesau sydd ar gael i weithwyr ieuenctid.
Mae’r rhaglen yn cynnwys dau ddiploma uwchraddedig, mae’r llwybr Cymhwysol Cychwynnol wedi’i gynllunio i ddarparu llwybr i gymhwyster proffesiynol os oes gennych radd gysylltiedig eisoes ac yn meddu ar brofiad blaenorol sylweddol o addysg anffurfiol neu waith ieuenctid. Mae’r llwybr Ôl-Gymhwysol yn cynnig cyfle o ddatblygiad proffesiynol os ydych eisoes yn broffesiynol gymwys mewn gwaith ieuenctid a chymuned. Bydd cwblhau’r naill lwybr neu’r llall yn eich galluogi i symud ymlaen i’r cwrs meistr llawn.
Nodweddion arbennig
- Mae’r rhaglen yn bodoli o fewn y gyfres hynaf a mwyaf helaeth o gyrsiau ieuenctid a chymuned yng Nghymru.
- Mae’r cwrs yma yn un o ddim ond tair raglen meistr ar gyfer gweithwyr ieuenctid a chymuned a gynigir yng Nhymru.
- Mae’r rhaglen yn ymwneud ag agendâ polisi’r DU, gan ganolbwyntio ar Gymru gyda chyfleoedd i fynd ar leoliadau ledled Ewrop.
- Gallwch gyflwyno aseiniadau yn Gymraeg neu Saesneg, a gellir ymgymryd â lleoliadau a dysgu yn y gweithle o fewn cyrff a chymunedau Cymraeg yn ôl y gofyn.
- Ar ôl cwblhau’r rhaglen Astudiaethau Ieuenctid Cymhwysol Cychwynnol bydd myfyrwyr yn dod yn weithwyr ieuenctid proffesiynol a gydnabyddir gan y JNC.
- Mae’r rhaglen yn cynnwys hyblygrwydd yn sgil dysgu hunangyfeiriedig, dysgu trafodedig neu leoliadau.
Cyfleoedd gyrfaol
Mae’r rheiny sy’n cyflawni Diploma Uwchraddedig cymhwysol cychwynnol yn gallu cael swyddi gydag awdurdodau lleol, mudiadau gwirfoddol a chymunedol a chyda darparwyr addysg. Gyda’r diploma ôl-gymhwysol neu’r MA, byddwch yn gallu ceisio am swyddi uwch o fewn eich proffesiwn. Mae cymwysterau uwchraddedig hefyd yn arwain at bosibiliadau am swydd o fewn addysg bellach neu uwch.
Cynnwys y cwrs
Diploma Uwchraddedig mewn Astudiaethau Ieuenctid (Cymhwysol Cychwynnol)
- Dulliau mewn Ymchwil Gymdeithasol
- Addysg a Datblygiad Cymunedol
- Gwaith Ieuenctid a Chymuned yng Nghymru
- Damcaniaethu Gwaith Ieuenctid
- Lleoliad Cyd-destunol
- Lleoliad Proffesiynol
Opsiynau – dewis o un o’r canlynol:
- Goruchwyliaeth
- Theori Gymdeithasol
- Rheoli Mudiadau
Diploma Uwchraddedig mewn Astudiaethau Ieuenctid a Chymuned (Ôl-Gymhwysol)
- Dulliau mewn Ymchwil Gymdeithasol
- Dysgu Trafodedig
- Dysgu Gydol Oes
- Rheoli Mudiadau
- Gwaith Ieuenctid a Chymuned yng Nghymru
- Damcaniaethu Gwaith Datblygu Cymuned
- Damcaniaethu Gwaith Ieuenctid
Opsiynau – dewis o un o’r canlynol:
- Goruchwyliaeth
- Theori Gymdeithasol
MA
- Traethawd Estynedig
Asesu
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau sydd yn gytûn ag arfer proffesiynol a chonfensiynau academaidd. Mae’r rhain yn amrywio o arfer goruchwyliedig asesedig i draethodau, adroddiadau, cyflwyniadau gan unigolion a grwpiau.
Gofynion mynediad
Os ydych yn dymuno ymuno â’r Diploma Uwchraddedig mewn Addysg Ieuenctid a Chymuned (Cymhwysol Cychwynnol), mae gofyn i chi fod â gradd mewn pwnc cysylltiedig (e.e. gwyddor gymdeithasol), yn ogystal â phrofiad o waith ieuenctid a chymunedol sy’n cyfateb i 300 awr o wyneb-yn-wyneb ac arfer goruchwyliedig. Bydd mynediad i’r llwybr yma yn amodol ar gyfweliad i asesu eich bod yn addas a bydd gofyn i gael . Os ydych yn dymuno ymuno â’r Diploma Uwchraddedig mewn Addysg Ieuenctid a Chymuned (Ôl-Gymhwysol) mae gofyn i chi fod â gradd mewn gwaith cymunedol (neu gyfatebol) yn ogystal â phrofiad yn y maes yma.
Os byddwch yn pasio un o’r Diplomâu Uwchraddedig yma, fe’ch gwahoddir i symud ymlaen i gam traethawd estynedig yr MA.
Gweler hefyd y wybodaeth am yr .
Hyd y cwrs
Llawn amser
1 mlynedd ar gyfer y Diploma Uwchraddedig
1.5 mlynedd ar gyfer yr MA
Rhan amser
2-3 blynedd

