Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Academi Rhwydweithio Cisco

Academi Rhwydweithio Cisco CCNA

Academi Rhwydweithio Cisco CCNP

Cyfle i gael tystysgrif rhwydweithio cyfrifiadurol y mae galw mawr amdani mewn diwydiant.Mae Academi Rhwydweithio Cisco yn dyfarnu cymwysterau proffesiynol sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol yn y maes rhwydweithio cyfrifiadurol.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i addysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddylunio, creu a chynnal rhwydweithiau bychain a chanolig eu maint. Bydd yn rhoi cyfle i chi ymuno â’r gweithlu neu gael rhagor o addysg a hyfforddiant mewn rhwydweithio cyfrifiadurol.

Academi Rhwydweithio Cisco pic

Prif ffeithiau

  • Cyfuniad o ddulliau dysgu: dan arweiniad hyfforddwr a dysgu ar-lein gydag ymarferion labordy ymarferol•• Astudio ar eich cyflymdra eich hun
  • Pwyslais ar ddatblygu sgiliau
  • Theori fanwl. Labordai llawn her i’ch helpu i ddatblygu sgiliau cydweithredu, datrys problemau a meddwl yn feirniadol, yn ogystal â gwybodaeth ymarferol
  • Mae’r rhaglen yn cynnwys modiwl ar e-wneud gosodedig. Mae hyn yn golygu y cewch wneud gweithgareddau rhyngweithiol sy’n ysgogi dysg ac yn gwella cadw gwybodaeth. Mae e-wneud yn ymwneud ag amlgyfryngau toreithiog, gan gynnwys gweithgareddau sy’n seiliedig ar fflach, fideos a chwisiau rhyngweithiol. Mae’r rhain yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o arddulliau dysgu, yn cynyddu dealltwriaeth ac yn darparu profiad dysgu gwych.

Hyd y cwrs

Rhan-amser

CCNA: o leiaf 6 mis, er bod darpariaeth estynedig dros gyfnodau hirach yn bosibl (e.e. 2 flynedd am 3 awr yr wythnos)

CCNP: o leiaf 6 mis arall, er bod darpariaeth estynedig debyg hefyd yn bosibl lleoliad

Lleoliad: campws Wrecsam

MMis dechrau: Medi

Cyfleoedd gyrfa

Mae galw mawr iawn am weithwyr proffesiynol yn y maes rhwydweithiau cyfrifiadurol. Yn ôl y Bureau of Labour Statistics yn yr UDA, disgwylir i yrfaoedd rhwydweithiau cyfrifiadurol dyfu 30 y cant o 2008 hyd at 2018.

Cynnwys y cwrs

Mae rhaglen yr Academi yn cyfuno dysgu ar-lein dan arweiniad hyfforddwr gydag ymarferion labordy ymarferol, ble gallwch ddefnyddio’r hyn yr ydych yn ei ddysgu yn y dosbarth wrth weithio ar rwydweithiau cyfrifiadurol pwrpasol. Gallwch astudio agweddau damcaniaethol y rhaglen ar eich cyflymdra eich hun. Mae pob un o’r modiwlau yn cynnwys elfen ymarferol, felly mae sesiynau ymarferol wedi’u trefnu trwy gydol y flwyddyn, ynghyd â chefnogaeth diwtorial ar gyfer y defnydd damcaniaethol.

  • Sylfeini Rhwydwaith
  • Protocolau a Chysyniadau Llwybro
  • Rhwydwaith Ardal Leol (LAN), Switsio a Diwifr
  • Mynd mewn i’r Rhwydwaith Ardal Eang  (WAN)
  • Technoleg LAN ac WAN
  • Rheoli Rhwydwaith
  • Ffurfweddu a Datrys Problemau Rhwydwaith
  • Technoleg y Rhyngrwyd; TCP/ IP, ISDD, Bothau, Switsys, Llwybryddion a Phyrth
Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk