Ysgrifennu Creadigol
BA (Anrh) Ysgrifennu Creadigol a Hanes
BA (Anrh) Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Trowch eich dawn greadigol yn nofel afaelgar, yn ddarn hudolus o farddoniaeth neu’n sgript ddifyr i ddrama.
Mae ysgrifennu creadigol yn golygu mwy nag eistedd i lawr gyda beiro ac ychydig o bapur – mae llawer mwy iddo nag y byddech yn ei feddwl. Yma ym Mhrifysgol Glyndŵr byddwn yn datgelu popeth.
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gyfarwydd â sut y mae’r diwydiant llenyddol yn gweithio a beth sydd ei angen i fodloni’r golygyddion. Cewch ddysgu sut y mae drafftio, golygu a gloywi copi creadigol i gyd yn cydgysylltu. Byddwch yn dysgu mai un o’r offer golygu gorau i chi fel awdur yw bod yn hunanfeirniadol o’ch gwaith eich hun.
Byddwn yn dangos i chi sut y gallwch wella eich ysgrifennu hefyd drwy ymateb yn gadarnhaol i sylwadau gan olygyddion. Mae gofyn i awduron fod yn ddigon amrywiol i addasu i bob math o arddulliau a ffurfiau ysgrifennu.
Bydd gweithdai wythnosol yn rhan o’r cwrs ac yn rhoi’r cyfle perffaith i chi ymarfer. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu troi eich llaw at unrhyw beth – straeon byrion a nofelau i blant, oedolion a phobl ifanc, ysgrifennu am fywyd a barddoniaeth. Byddwn hefyd yn dangos i chi sut i ysgrifennu ar gyfer y radio, teledu a sinema.
Ffeithiau allweddol
- Dewch i ddarganfod sut i ysgrifennu straeon byrion, nofelau, dramâu a cherddi
- Cyfle i loywi eich sgiliau ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol – oedolion, plant neu weithwyr proffesiynol
- Mae gan ddarlithwyr gysylltiadau agos â’r byd ysgrifennu – dechreuwch hel gwybodaeth ynghylch sut i fynd ati i gael eich gwaith wedi’i gyhoeddi
Cyfleoedd gyrfa
- gwerthu llyfrau
- gweithio fel asiant
- cyhoeddi
- golygu
- gyrfaoedd yn y cyfryngau
- dysgu - ysgolion uwchradd a chynradd, prifysgolion
- bydd sgiliau trosglwyddadwy cyfathrebu a chyflwyno yn eich rhoi ar ben ffordd wrth chwilio am waith mewn diwydiannau eraill hefyd
