Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr

Student experience welsh with pic
Pan fyddwch yn ymuno â Phrifysgol Glyndŵr fel myfyriwr/wraig israddedig, byddwch yn cofrestru fel aelod o’r Ysgol ar gyfer Astudiaethau Israddedig.

Mae’r Ysgol ar gyfer Astudiaethau Israddedig yn gymuned sy’n canolbwyntio arnoch chi. Yma, byddwch yn derbyn y gefnogaeth sydd arnoch ei hangen yn ystod eich amser yn y brifysgol, a’r gefnogaeth i gyflawni eich potensial.

Mae’r Ysgol Astudiaethau Israddedig yn cydweithio gyda’r Ganolfan Myfyrwyr a Rhaglenni i weinyddu eich cofnodion myfyrwyr a sicrhau ansawdd eich cwrs. Mae’r agwedd bartneriaeth yma yn golygu y gallwch fod yn hyderus o gefnogaeth weinyddol broffesiynol trwy gydol eich amser gyda ni.

Mae’r Ysgol hefyd yn canolbwyntio ar hybu eich profiad o astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr, dan arweiniad y Deon Cyswllt gyfer Profiad Myfyrwyr.

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk